Digwyddiad prifysgol yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr STEM

8 Hydref, 2024

Dau blentyn ysgol yn defnyddio'r clustffonau VR a setiau llaw o Goggleminds

Mae bron i 200 o blant ysgolion cynradd o bob rhan o Dde Cymru wedi cael blas ar fyd gwyddoniaeth ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

Yn ystod y Gynhadledd Allgymorth STEM a gynhaliwyd ar Gampws Trefforest y Brifysgol, clywodd y disgyblion am ddeallusrwydd artiffisial, peirianneg sifil, argraffu 3D, rhaglennu microbit, llosgfynyddoedd, defnyddio realiti rhithwir, a fforensig digidol.

Cafodd ddisgyblion gyfle i adeiladu modelau o Dŵr Eiffel a phont grog, rhoi cynnig ar VR gydag Azie Naji, sylfaenydd cwmni technoleg Goggleminds; cynnal arbrofion yn seiliedig ar fathemateg, dysgu sut i adeiladu a gweithredu robotiaid, gweld sut i raglennu a gweithio argraffydd 3D, a dysgu mwy am awyrennau model.

Roedd y disgyblion yn dod o ysgolion ar draws y rhanbarth, gan gynnwys Ysgol Gymraeg Castellau, Ysgol Mihangel Sant, Ysgol Gynradd Maes-Y-Coed, ac Ysgol Awel Taf, i gyd ym Mhontypridd; Ysgol Gynradd Troedyrhiw ym Merthyr, ac Ysgol Gynradd Hirwaun.

Dywedodd Laura Roberts, Swyddog Allgymorth STEM PDC: “Mae'r digwyddiad hwn wedi rhoi cyfle gwych i ddisgyblion brofi pynciau STEM yn PDC.

“Rydym wedi cael cefnogaeth anhygoel gan gydweithwyr a gwesteion y Brifysgol sydd wedi cyflwyno 11 o weithdai gwahanol, gan gwmpasu popeth o argraffu 3D, mapio cadwraeth, a pheirianneg sifil.

“Hoffem annog mwy o ysgolion lleol i gael mynediad i'n gwaith allgymorth STEM. Rydym yn gweithio gyda disgyblion o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 9 a darperir ein holl weithgareddau am ddim, a gobeithiwn y bydd hyn yn ysbrydoli rhai o'r trigolion yn ein cymunedau lleol sy'n mynychu'r sesiynau i astudio yn PDC wrth iddynt weithio tuag at adeiladu gyrfa lwyddiannus a boddhaus.”

Ychwanegodd Mr Naji: “Mae'n anhygoel bod yma heddiw yn cynrychioli Goggleminds. Mae gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn rhan hanfodol o'r hyn rydym yn edrych arno, ac mae mor bwysig wrth ddatblygu'r dechnoleg rydym yn ei chreu.

“Felly, mae gallu rhannu gyda'r plant hyn yn fraint i ni ac rydym yn gyffrous iawn i allu cyflwyno'r gweithdai heddiw a gweld beth sy'n digwydd nesaf.”