Grymuso nyrsys i helpu cleifion i roi'r gorau i ysmygu
23 Hydref, 2024
Mae Ymddiriedolaeth Nyrsio Burdett wedi dyfarnu grant o bron i £100,000 i dîm ymchwil amlddisgyblaethol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM), Prifysgol De Cymru (PDC) a Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd yr arian yn cefnogi astudiaeth sy’n ceisio grymuso nyrsys i gael sgyrsiau gyda chleifion ysbyty am ysmygu a rhoi'r gorau iddi.
Dan arweiniad Lauren Jones, Uwch Ddarlithydd yn PDC a Dr Megan Elliott, Prif Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd BIPCTM a Chymrawd Gwadd yn PDC, bydd yr astudiaeth yn archwilio'r heriau y mae nyrsys yn eu hwynebu wrth drafod rhoi'r gorau i ysmygu gyda chleifion, a hynny mewn amgylcheddau ysbytai, gan ddatblygu ymyrraeth i fynd i'r afael â'r rhain.
Dywedodd Lauren: "Mae cyfyngiadau amser, diffyg profiad ac ansicrwydd ynghylch prosesau atgyfeirio yn rhwystrau allweddol. Weithiau, mae nyrsys yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu â chleifion sy'n ysmygwyr tymor hir, y gallai rhai ohonynt wrthwynebu newid. Mae'r realiti hwn yn pwysleisio'r angen am ymyriadau effeithiol sy'n seiliedig ar ymchwil i gefnogi nyrsys yn y sgyrsiau hyn.”
Bydd yr astudiaeth yn datblygu mewn tri cham. Yn y cam cyntaf, bydd data ymchwil yn cael ei gasglu drwy arolygon a grwpiau ffocws gyda nyrsys cofrestredig a chyfweliadau â chleifion yn BIPCTM. Bydd y cam cychwynnol hwn yn asesu agweddau ac arferion cyfredol ynghylch rhoi'r gorau i ysmygu mewn lleoliadau gofal eilaidd, gan ddarparu cipolwg beirniadol ar gyfer y cam nesaf.
Mae'r ail gam yn cynnwys gweithdai i ddylunio ymyrraeth ar y cyd gyda nyrsys. Bydd y dull ymarferol hwn yn sicrhau bod yr ateb yn ymarferol ac yn cyd-fynd â'r heriau yn y byd go iawn y mae nyrsys yn eu hwynebu yn eu rolau bob dydd.
"Y syniad yw bod nyrsys yn cael cyfrannu at yr ymyrraeth, fel y gallwn ddatblygu rhywbeth sy'n ei gwneud hi'n haws iddyn nhw gyfeirio cleifion at wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu, fel Helpa Fi i Stopio," meddai Lauren.
Er nad yw union fformat yr ymyrraeth wedi'i bennu eto, mae'r posibiliadau'n cynnwys deunyddiau addysgol neu adnoddau i symleiddio'r broses gyfeirio. Bydd trydydd cam a cham olaf yr astudiaeth yn gweithredu ac yn treialu'r ymyrraeth gydag ymchwilwyr, gan fonitro pa mor effeithiol ydyw.
Meddai Dr Elliott: "Cymhelliant sylweddol i'r astudiaeth hon yw'r gwahaniaeth rhwng nifer yr ysmygwyr sy'n cael eu derbyn i ysbytai yn ardal BIPCTM a'r nifer gymharol isel o atgyfeiriadau rhoi'r gorau i ysmygu. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i gau'r bwlch hwnnw.
"Os bydd yn llwyddiannus, gellid mabwysiadu'r ymyrraeth yn ehangach ledled Cymru a'i integreiddio i leoliadau gofal iechyd eraill. Mae'r potensial i gael effaith ehangach yn sylweddol, gan fod ysmygu yn parhau yn un o brif achosion salwch a marwolaeth y gellir ei atal yng Nghymru."