Gweinidog yn canmol cyfleusterau creadigol a phartneriaethau coleg yn PDC

11 Hydref, 2024

Y Gweinidog AB ac AU, Vikki Howells, gyda Dr Ben Calvert, Jonathan Morgan a myfyrwyr Coleg y Cymoedd

Mae Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, wedi canmol cyfleusterau blaengar y diwydiannau creadigol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) sy’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i fyfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd dewisol.

Ymwelodd y Gweinidog â champws Caerdydd PDC ddoe (dydd Iau 10 Hydref) i weld sut mae Cynghrair Strategol PDC gyda cholegau partner yn helpu i greu cyfleoedd dysgu a chyflogaeth i fyfyrwyr yn y diwydiannau creadigol.

Ffurfiwyd y Gynghrair, sy’n cynnwys pum coleg AB yn Ne-ddwyrain Cymru – Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent, Coleg y Cymoedd, a Choleg Merthyr Tudful – gyntaf pan sefydlwyd PDC yn 2013, ac mae’n nodi ymrwymiad i gynhyrchu cynllun cydweithredol ar gyfer datblygu sgiliau, llwybrau dilyniant, ymgysylltu â diwydiant ac ymchwil gymhwysol.

Mwynhaodd y Gweinidog daith o amgylch cyfleusterau PDC sy’n atgynhyrchu gweithleoedd diwydiant ar draws y sector creadigol, gan gynnwys y theatr, stiwdios ffilm a theledu, stiwdios ffasiwn, ystafelloedd dosbarth dylunio ac effeithiau gweledol, stiwdio sgrin werdd, stiwdios ffotograffiaeth a llawer mwy.

Cyfarfu'r Gweinidog â'r Is-Ganghellor Dr Ben Calvert; Deon y Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol, Adam Williams; Pennaeth Coleg y Cymoedd, Jonathan Morgan; a Phennaeth Partneriaethau ar gyfer Datblygu ac Arloesedd yng Ngholeg y Cymoedd, Alistair Aston, yn ogystal â myfyrwyr o PDC a’i cholegau partner, i drafod manteision y Gynghrair Strategol – a ystyrir fel y rhwydwaith AB/AU mwyaf sefydledig yng Nghymru.

Yn ystod y daith, siaradodd y Gweinidog â Gavyn Brewster ac Emma Williams, sy’n astudio Creu Gwisgoedd yng Ngholeg y Cymoedd – cwrs a ddatblygwyd ar y cyd gan Brifysgol De Cymru a’r coleg i ateb y galw yn y sector sgrin.

Mae Gavyn ac Emma wedi mynychu dosbarthiadau meistr diwydiant sy’n cael eu rhedeg gan Cymru Greadigol a CCAUC fel rhan o brosiect Academi Sgrin Cymru, a ffurfiwyd yn 2023, sy’n bartneriaeth rhwng colegau Cynghrair Strategol, Screen Alliance Wales a phedair stiwdio Ffilm a Theledu ledled Cymru.

Cyfarfu’r Gweinidog hefyd ag Elizabeth Evans ac Anton Petersen, sy’n astudio Gwneud Propiau yng Ngholeg y Cymoedd. Dyfernir y cwrs tair blynedd llawn amser gan Brifysgol De Cymru a’i nod yw datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol myfyrwyr, a’u paratoi ar gyfer y diwydiant.

Cyfarfu myfyrwyr PDC, Santino Sayers-Gillan, Darcy O’Dwyer a Dominika Drzewicka, sydd i gyd yn astudio BA Ffilm, â’r Gweinidog hefyd a rhannu eu profiadau o symud ymlaen o Goleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Gwent yn y drefn honno.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: “Mae cydweithredu yn rhan allweddol o weledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg drydyddol, ac mae gweld prifysgolion, colegau a busnesau yn gweithio gyda'i gilydd, yn cyflawni'r weledigaeth hon.

“Roedd yn ysbrydoledig iawn clywed yn uniongyrchol gan ddysgwyr a gefnogir gan y bartneriaeth hon, mae eu straeon yn fy atgoffa pam ei bod mor bwysig bod addysg a chyflogwyr yn cydweithio'n agos i sicrhau bod dysgwyr yn cael y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt mewn marchnad swyddi sy'n newid yn gyflym.”

Ychwanegodd Dr Ben Calvert, Is-ganghellor PDC: “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob dysgwr i gyflawni canlyniadau llwyddiannus a chyrchfannau graddedigion, sef yr hyn y mae’r Gynghrair Strategol yn bwriadu ei gyflawni.

“Mae gennym hanes cryf o wneud gwahaniaeth i unigolion, cymunedau, cyflogwyr, ac ysgolion lleol, gan weithio gyda’n colegau partner i ddarparu cyfle cyfartal i ddysgu gydol oes, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu dangos hyn i’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn ystod yr ymweliad.”

Dywedodd Jonathan Morgan, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae’r bartneriaeth rhwng Coleg y Cymoedd a PDC yn enghraifft o’n hymrwymiad ar y cyd i gynnig addysg sy’n berthnasol i’r diwydiant sy’n rhoi i’n dysgwyr y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus.

“Trwy raglenni arloesol fel Adeiladu Gwisgoedd a Gwneud Propiau, mae ein dysgwyr yn cael profiad ymarferol a chyfleoedd sy’n eu gosod ar wahân yn y diwydiannau creadigol. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r Gynghrair Strategol, sy’n meithrin cydweithio’n barhaus ac yn gwella profiadau dysgu ledled Cymru.”