Mae nofel iasol Carly yn ddarlleniad gwefreiddiol i chi ei fwynhau yn ystod Calan Gaeaf

29 Hydref, 2024

Delwedd o glawr y llyfr ar gyfer Hear Him Calling, a delwedd o Carly Reagon yn gwenu

Mae Carly Reagon, myfyrwraig PhD, newydd gyhoeddi ei hail nofel, Hear Him Calling, mewn pryd ar gyfer Calan Gaeaf. Disgrifiwyd y llyfr mewn adolygiadau fel un ‘atmosfferig ac iasol’, ac ysbrydolwyd y llyfr gan ddiddordeb Carly yn y goruwchnaturiol.

Mae Hear Him Calling yn adrodd stori am gwpl ifanc a’u babi, sy’n etifeddu tŷ ar fynydd yng Ngogledd Cymru. Maent yn darganfod yn fuan nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain - mae yna olau dirgel sy'n disgleirio trwy'r ffenestr a lleisiau na ellir eu hesbonio. Hefyd, mae'r bobl leol yn ofni'r lle ac ni fyddant yn mynd yn agos ato.

Mae'r cwpl yn ymchwilio ac wrth wneud hynny, yn darganfod pethau y byddai'n well ganddyn nhw beidio â dod i wybod amdanyn nhw eu hunain, yn ogystal â'r tŷ.

Ysgrifennodd Carly, sy’n wreiddiol o Ogledd Cymru ac sydd bellach yn byw ar gyrion Caerffili, y stori ysbryd fel dilyniant i’w nofel gyntaf, The Toll House, a oedd yn Llyfr Cymreig y Mis Waterstones.

Mae hi’n astudio PhD drwy bortffolio mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn PDC, ochr yn ochr â’i rôl fel uwch ddarlithydd mewn Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Dechreuais fy PhD ym mis Ionawr eleni, ar ôl ymchwilio i wahanol brifysgolion,” meddai Carly. “Yn y diwedd, fy ngoruchwylwyr gwych – yr Athro Diana Wallace a Barrie Llewelyn – a ddenodd fy sylw. Mae'r ddau yn hynod wybodus a chefnogol, ac roeddwn i'n gwybod na allwn i golli'r cyfle i weithio gyda nhw.

“Rwy’n falch iawn o Hear Him Calling ac yn methu aros i weld beth mae darllenwyr yn ei feddwl ohono. Rwy’n ffodus iawn i gael cyhoeddwr mor gefnogol yn Little, Brown UK, ac rydw i newydd arwyddo cytundeb am ddau lyfr arall.

“Mae fy astudiaethau yn sicr wedi helpu i lunio fy nofel nesaf, gan fy mod yn llawer mwy ymwybodol o’r broses ysgrifennu a’r ffyrdd y mae fy mhrofiadau a’m diddordebau yn ffurfio’r plot a’r cymeriadau.

“Rydw i newydd orffen ysgrifennu fy nhrydydd llyfr, stori ysbryd arall wedi’i leoli mewn hen ysbyty, ac wedi dechrau ysgrifennu fy mhedwaredd nofel am ysbryd o’r Ail Ryfel Byd. Pan fyddaf yn gorffen y PhD, rwy’n meddwl y byddaf yn mynd ar wyliau haeddiannol!”

Mae Hear Him Calling ar gael i'w brynu nawr ar Amazon.