Myfyrwyr ysgoloriaeth PhD yn ymuno â PDC wrth i geisiadau agor ar gyfer 2025

17 Hydref, 2024

Dau unigolyn yn canolbwyntio ar eu gliniaduron, gan gydweithio mewn llyfrgell dawel yn llawn llyfrau.

Mae tri myfyriwr wedi dechrau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), a ariennir gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC). Nod y fenter yw hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymdeithasol i fynd i'r afael â materion cymdeithasol dybryd.

Mae Jay Chard yn ymuno â'r Brifysgol i ddechrau ei ymchwil o'r enw ‘Gweithredu ar Eiriau: Asesiad o ymrwymiad prifysgolion y DU i Gyfiawnder Hinsawdd o fewn Strategaethau Sero Net a Chynaliadwyedd'.

Dywedodd: "Mae hwn yn gyfle cyffrous i fynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau mwyaf sy'n wynebu cymdeithas heddiw. Rwy'n ymroddedig i archwilio ymatebion cymdeithasegol i'r argyfwng hinsawdd. Rwy'n edrych ymlaen at y cyfle datblygiad personol y mae'n ei gynrychioli, yn ogystal â'r cyfle i gyfrannu at bryderon cymdeithasegol ac amgylcheddol dybryd."

Tra bod Menna Evans yn ymchwilio i 'Diffyg Diogeledd Dŵr, Gwrthdaro a Throsedd: Rôl Addasu i Newid yn yr Hinsawdd a Mesurau Gwydnwch yn Afghanistan'. Dywedodd: "Mae'n anrhydedd enfawr derbyn yr ysgoloriaeth ymchwil hon ac felly dydw i dal ddim cweit yn gallu credu fy mod i wedi bod mor lwcus â hyn. Mae'n gyfle anhygoel ynddo'i hun i allu ymchwilio i bwnc yr wyf mor angerddol amdano, ac mae hefyd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu na fyddwn yn gallu cael mynediad atynt fel arall. Rwyf mor gyffrous i ddechrau arni a gwneud y gorau o bopeth y mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ei gynnig."

Mae Bishnu Bahadur Khatri yn teithio o Nepal i ymchwilio i 'Effeithio ar Newid Polisi i Wella Gwytnwch o ran Newid yn yr Hinsawdd o fewn Cymunedau dan Fygythiad yn Nepal’.

Dywedodd Bishnu: "Mae ennill yr ysgoloriaeth ymchwil yn gyfle anhygoel i gychwyn ar fy nhaith PhD. Wrth i mi baratoi i astudio yn PDC, rwy'n gyffrous i ymgysylltu â'i chymunedau academaidd ac ymchwil bywiog, gan gael mewnwelediadau gan ddarlithwyr ac ymchwilwyr nodedig wrth gydweithio â chyfoedion o'r un anian. Rwy'n edrych ymlaen at ddyfnhau fy ngwybodaeth, gwella fy sgiliau ymchwil, ac ehangu fy ngorwelion academaidd. Bydd yr ysgoloriaeth ymchwil hon yn fy ngrymuso i wneud y mwyaf o'm hastudiaethau, cyflawni canlyniadau effeithiol, a chwblhau fy nhaith PhD yn llwyddiannus fel y cynlluniwyd."

Dywedodd yr Athro Martin Steggall, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi, PDC: "Rydym yn falch o fod yn rhan o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru.

"Mae gan PDC hanes hir a nodedig o ymchwil effeithiol yn y gwyddorau cymdeithasol/polisi, a amlygwyd gan ganlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 a osododd ein cyflwyniad yn y safle 1af yng Nghymru am effaith. Rydym yn ymfalchïo yng nghryfder ein hymchwil, yn ogystal â’r cyfleoedd a'r profiadau sydd ar gael i'n myfyrwyr, sy'n cael ei adlewyrchu gan y ffaith fod PDC wedi cael ei phleidleisio'n brifysgol orau’r DU yn yr arolwg profiad ymchwil ôl-raddedig diweddar. Bydd bod yn rhan o'r YGGCC yn gwella'r cyfleoedd ymchwil a hyfforddiant sydd ar gael i fyfyrwyr y gwyddorau cymdeithasol ymhellach, ac edrychwn ymlaen at weithio mewn cydweithrediad a phartneriaeth â chydweithwyr ledled Cymru a thu hwnt."

Mae'r YGGCC, sy'n rhan o Bartneriaeth Hyfforddi at Ddoethuriaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn croesawu ceisiadau ar gyfer 2025. Y dyddiad cau yw 11 Rhagfyr 2024.

Fel cydweithrediad rhwng saith prifysgol, mae’r YGGCC yn cynnig llwyfan unigryw i ddarpar ymchwilwyr. Bydd y rhaglen yn darparu hyfforddiant arloesol ar draws 15 llwybr thematig, gan gynnwys rhai sy'n canolbwyntio ar ofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a pholisi cymdeithasol, troseddeg a'r gyfraith. Bydd myfyrwyr yn elwa o gymorth helaeth, goruchwyliaeth ymchwil o'r radd flaenaf, a lleoliadau ymarferol i sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i wneud cyfraniadau ystyrlon i bolisi cyhoeddus a lles cymunedol.

Bydd y bartneriaeth, a ariennir gan ESRC, yn cynnig tua 360 o ysgoloriaethau dros bum mlynedd, gan greu cymuned ymchwil fywiog, ryngddisgyblaethol. Trwy bartneriaethau strategol gyda sefydliadau fel Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, mae'r YGGCC hefyd yn sicrhau effaith yn y byd go iawn, gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu'n uniongyrchol â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a rhanddeiliaid.

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil fawreddog hon wedi'i chynllunio i gefnogi unigolion o bob cefndir, gan adlewyrchu ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. I'r rhai sy'n ceisio dilyn PhD yn y gwyddorau cymdeithasol, mae'r rhaglen hon yn darparu cymorth ariannol yn ogystal â mynediad at rwydwaith di-ail llawn adnoddau academaidd a phroffesiynol ledled Cymru.

 

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan YGGCC. I wneud cais am ysgoloriaeth ymchwil yn PDC, defnyddiwch y dolenni canlynol:

 

Ysgoloriaethau Ymchwil mewn Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol

Ysgoloriaethau Ymchwil yn y Gyfraith a Throseddeg