Sut mae partneriaeth PDC yn helpu i hyfforddi meddygon o Affrica drwy realiti rhithwir
25 Hydref, 2024
Mae prosiect i ddarparu hyfforddiant sgiliau clinigol mewn realiti rhithwir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn Uganda yn cael ei ddatblygu gan bartneriaeth yng Nghymru.
Mae'r cwmni o Gaerdydd, Goggleminds, a Phrifysgol De Cymru (PDC) yn cydweithio ar y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Garlam a ariennir gan Innovate UK.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Goggleminds wedi datblygu'r dechnoleg 'Mediverse' - realiti rhithwir er mwyn hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr. Mae'r cysyniad yn cyfleu sefyllfaoedd go iawn y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn debygol o’u hwynebu wrth hyfforddi, heb yr angen i gael pobl go iawn i brofi eu sgiliau.
Mae'r cwmni eisoes wedi gweithio'n agos gyda PDC ar ddatblygu'r system. Cefnogodd Canolfan Ragoriaeth y Brifysgol mewn Technolegau Symudol a Datblygol (CEMET) Goggleminds i adeiladu system Realiti Rhithwir sy'n canolbwyntio'n benodol ar drin plant.
Esboniodd sylfaenydd Goggleminds, Azize Naji, nod cydweithrediad Uganda.
"Ein bwriad yw sefydlu un o'r canolfannau hyfforddi VR cyntaf yn Affrica Is-Sahara, gyda'r nod o gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr lleol i fynd i'r afael â'r mynediad cyfyngedig i ofal iechyd o safon yn y rhanbarth," meddai.
"Mewn rhannau o'r wlad, prin iawn yw'r mynediad at ofal iechyd o ansawdd da - nid oes gan rai fynediad at ysgolion meddygol ac mae data swyddogol Sefydliad Iechyd y Byd yn cadarnhau, o 47 o wledydd Affrica a arolygwyd, bod gan y rhanbarth gymhareb o 1.55 o weithwyr iechyd i bob 1,000 o bobl. Mae'r gyfradd mewn rhai gwledydd yn llawer is ac ar gyfer arbenigeddau penodol fel meddygon, mae'n ddifrifol isel".
"Felly, yr hyn yr ydym wir eisiau ei wneud yw helpu rhai o'r systemau gofal iechyd lleol i gynyddu capasiti, a ffordd wych o wneud hyn go iawn yw drwy rannu gwybodaeth a sgiliau o'r DU gan fod gennym gyfoeth o’r rheini.”
Dywedodd Andrew Ware, Athro Cyfrifiadura yn PDC a Chyfarwyddwr Ymchwil Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI): "Mae gan PDC hanes hir o ddatblygu ffyrdd arloesol ac atyniadol o ddarparu hyfforddiant cymhleth ac mae wedi bod yn gweithio ar ddefnyddio technolegau newydd ac effeithiol yn sector iechyd Uganda gyda'r partner rhyngwladol ers nifer o flynyddoedd.”