Sut y gellir lleihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â sylwedd ymhlith ein poblogaeth cyfiawnder troseddol?

16 Hydref, 2024

Silwét o berson yn eistedd ar y stryd gyda'u cefn at wal. Mae eu pen yn eu dwylo ac maen nhw mewn trallod.

Bydd Prifysgol De Cymru (PDC) yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar brosiect dwy flynedd sy'n edrych ar leihau niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau ymhlith pobl mewn carchardai ac ar gyfnod prawf.

Yn dwyn y teitl 'Lleihau niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau ymhlith pobl yn y carchar ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau: Astudiaeth ansoddol', dyfarnwyd £256,840 i'r prosiect gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd yr ymchwil yn ymchwilio i newidiadau yn y defnydd o alcohol a chyffuriau ymhlith pobl yn ystod eu cyfnod yn y carchar ac ar yr adeg dyngedfennol ar ôl eu rhyddhau pan fydd y risg o niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau yn cynyddu.

Bydd yr ymchwil, a gydarweinir gan Dr Benjamin Gray, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'r Athro Katy Holloway, PDC, yn cynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig gyda 60 o gyfranogwyr, gydag o leiaf un cyfranogwr o bob un o'r 25 o swyddfeydd prawf yng Nghymru. Bydd y canfyddiadau'n cael eu lledaenu'n eang trwy adroddiadau a deunyddiau hyfforddi.

Dywedodd yr Athro Holloway: "Yn ystod yr astudiaeth, rydym am i bobl deimlo'n ddiogel ac yn agored wrth drafod eu profiadau. Drwy weithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Prawf Cymru, G4S a Kaleidoscope, rydym yn gobeithio cael mewnwelediad dyfnach i sut mae pobl yn ymdopi â defnyddio sylweddau yn ystod eu cyfnod yn y carchar ac yn ystod y cyfnod pontio yn ôl i'r gymuned.

“Mae'r cyfnod yn dilyn rhyddhau o'r carchar yn gyfnod arbennig o beryglus i bobl sydd â hanes o ddefnyddio sylweddau. Gall goddefiad ostwng yn sylweddol tra yn y carchar, a phan fydd unigolion yn dychwelyd i amgylcheddau blaenorol ac ailddechrau lefelau defnydd blaenorol, gall hyn arwain at orddos ac weithiau marwolaeth. Bydd ein hymchwil yn canolbwyntio ar leihau'r risgiau hyn a dod o hyd i atebion sy'n helpu i atal trychinebau o'r fath.”

Meddai Dr Gray: “Rydym yn falch iawn o dderbyn yr arian ymchwil i ymgymryd â'r darn pwysig hwn o waith. Mae gwir awydd am newid ymhlith y grŵp ymchwil, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae'r ymchwil hon yn datblygu dros y ddwy flynedd nesaf.”

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rydym wrth ein bodd gyda'r safon uchel o geisiadau am grantiau prosiect eleni. Mae gan y prosiectau ymchwil amrywiol hyn y potensial i gael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl. Bydd ansawdd yr ymchwil yng Nghymru yn helpu i sicrhau bod ein cymuned ymchwil yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn parhau i ffynnu.”