Wythnos y Rhai sy’n Gadael Gofal: Sut mae PDC yn cefnogi’r rhai sy'n gadael gofal?

28 Hydref, 2024

Dwy ddynes yn eistedd mewn swyddfa lachar, glyd gyda phlanhigion a silffoedd llyfrau yn y cefndir.

Mae'r wythnos hon (28 Hydref – 1 Tachwedd) yn nodi Wythnos Genedlaethol y Rhai sy’n Gadael Gofal 2024.

Mae PDC yn chwarae rhan bwysig wrth lunio amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr sydd â phrofiad o ofal i'w helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu hannog a'u grymuso i ddilyn eu nodau.

Mae Prifysgol De Cymru yn aelod o bartneriaeth CLASS Cymru (Gweithgareddau i Bobl sy’n Gadael Gofal a Chymorth i Fyfyrwyr), sy'n rhannu arfer gorau yn ymwneud â phobl sy'n gadael gofal ar draws sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Mae Lynda Jones, Uwch Gynghorydd Dilyniant yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr, hefyd yn Gydlynydd Pobl sy’n Gadael Gofal yn PDC. Lynda a'r tîm Dilyniant ehangach yw'r pwynt cyswllt cyntaf sydd gan ddarpar fyfyrwyr sy'n gadael gofal wrth siarad yn uniongyrchol â'r Brifysgol.

Yn y fideo isod, mae Lynda yn trafod pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth ac yn sôn am ymgyrch Ticiwch y Blwch y Rhwydwaith Maethu gydag UCAS.

Yn PDC, gall pobl sy'n gadael gofal gael gafael ar gymorth helaeth, gan gynnwys:

  • Bwrsariaeth gadael gofal i fyfyrwyr sy'n cael eu hystyried yn fyfyrwyr 'cartref' – £1,000 ar hyn o bryd i fyfyrwyr llawn amser, neu £500 i fyfyrwyr rhan-amser
  • Mentor a fydd yn brif gyswllt iddynt drwy gydol eu hastudiaethau
  • Mynediad i lety 365 diwrnod ar gyfer myfyrwyr llawn amser – cyhyd â'ch bod yn cwrdd â’r taliadau a’r telerau ac amodau
  • Dyfarniad graddio i gefnogi costau cysylltiedig fel llogi gŵn a phecyn ffotograffau

Dywedodd Holly Pensom, myfyriwr Addysg yn ei blwyddyn gyntaf bod ymgyrch Ticiwch y Blwch wedi ei helpu i ddechrau ar ei thaith yn PDC. Dywedodd: “Dwi wastad wedi bod eisiau mynd i'r brifysgol a chael cymhwyster i fod yn athro. Cyn gynted ag y symudais allan o ofal maeth, y peth cyntaf wnes i oedd ymgeisio i'r brifysgol ac rwyf wedi cael cefnogaeth byth ers hynny.

“Rwyf mor falch fy mod wedi ticio'r blwch pan wnes i gais drwy UCAS oherwydd bod y rhan ychwanegol honno o gyllid a chefnogaeth wedi fy helpu i deithio i gampws y Brifysgol a byw'n annibynnol nawr bod gen i fy fflat fy hun. Mae hefyd wedi helpu fy hyder i dyfu.

“Mae Wythnos y Rhai sy’n Gadael Gofal yn rhoi llais i ni. Rwyf wedi bod i gyfarfodydd gyda phobl eraill sy'n gadael gofal, ac rydym wedi teimlo nad ydym wedi cael llawer o lais. Dydych chi byth yn gwybod, gallai codi ymwybyddiaeth wneud i fwy o bobl sy'n gadael gofal fod eisiau dod i'r brifysgol.”

Mae mwy o wybodaeth am yr ymarfer Ticiwch y Blwch ar gael yma: https://www.thefosteringnetwork.org.uk/get-involved/our-campaigns/tick-box

Delwedd o fenyw â gwallt tywyll hir a sbectol, yn gwisgo ffrog lapio dywyll, yn eistedd wrth fwrdd gwyn mewn amgylchedd swyddfa