Cynlluniau ar gyfer adeilad academaidd newydd arfaethedig ar Gampws Trefforest PDC yn mynd rhagddynt

22 Ionawr, 2024

Argraff artist o du allan mynedfa ddeheuol yr adeilad. Mae tair stori i'r adeilad ar yr ochr yma - mae llawer o goed a llwyni o amgylch rhai seddi tu allan i'r chwith, ac mae llawer o bobl yn cerdded ac yn eistedd o gwmpas tu allan y fynedfa.

Mae cynlluniau ar gyfer adeilad newydd arfaethedig ar Gampws Trefforest Prifysgol De Cymru (PDC) ym Mhontypridd wedi cymryd cam mawr ymlaen gyda phenodiad y cwmni adeiladu BAM. Byddant yn helpu i ddatblygu'r cynlluniau manwl ar gyfer yr adeilad y disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn ddiweddarach eleni.

Bydd yr adeilad academaidd newydd arfaethedig yn darparu gofod addysgu, ymchwil a chymorth ar gyfer Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg.

Mae tîm dylunio sy’n benseiri yn Stride Treglown a pheirianwyr Arup wedi bod yn gweithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu’r cynlluniau, sydd wedi’u cyflwyno’n ffurfiol i’w hystyried ar gyfer caniatâd cynllunio. Bydd BAM yn gweithio gyda'r Brifysgol a'r tîm dylunio fel rhan o'r cam dylunio terfynol i lunio'r cynlluniau manwl.

Bydd yr adeilad arfaethedig yn cynnwys mwy na 40 o fannau addysgu, dysgu ac ymchwil newydd, gan gynnwys labordai electroneg a hydrolig, efelychydd hedfan, labordy roboteg, mannau ymchwil glân a diwydiannol, mannau addysgu cydweithredol, yn ogystal â gallu rhithwir, a mannau arddangos.

Un o egwyddorion allweddol yr adeilad fydd hyrwyddo gweithio rhyngddisgyblaethol trwy wneud y gweithgareddau sy'n digwydd yn weladwy ac yn hygyrch. Pwynt ffocws ar gyfer hyn fydd ‘mannau creu’ newydd, a fydd yn dod â gweithgaredd risg isel allan i ardaloedd canolog, lle gall myfyrwyr greu ac arloesi gyda mynediad at offer i gwblhau eu gweithgareddau.

Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd yr adeilad yn cael ei adeiladu ar dir gwag ar y campws yn dilyn dymchwel dau adeilad yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd y gwaith o adeiladu'r adeilad yn cymryd tua dwy flynedd i'w gwblhau. Y gobaith yw y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ddiweddarach yn 2024.

Dywedodd Mark Milton, Prif Swyddog Gweithredu PDC: “Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen yn ein cynlluniau ar gyfer adeilad newydd a fydd yn darparu lle i chwyldroi’r modd y darperir STEM yn PDC. Mae’r tîm dylunio wedi gweithio gyda’r Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth ac wedi creu cynllun ar gyfer cyfres o fannau cyffrous, hyblyg a chydweithredol a fydd yn gwneud STEM yn hygyrch i bawb sy’n defnyddio’r adeilad.

“Bydd hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn y campws a’r ardal leol, a byddwn yn ceisio sicrhau’r buddion mwyaf posibl i’r economi leol drwy’r datblygiad a’r adeiladu. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda BAM wrth i ni symud ymlaen i gam nesaf dylunio a datblygu’r adeilad.”

Dywedodd Dr Paul Davies, Deon y Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth: “Mae’r weledigaeth wastad wedi bodoli y bydd yr adeilad hwn yn gartref i STEM ond yn gyfleuster i bawb yn PDC, a bydd y dull modern o ddysgu ac addysgu sydd o fewn y dyluniad yn galluogi hyn i gael ei wireddu. Bydd penodi BAM, gan weithio ochr yn ochr â PDC, Arup, a Stride Treglown, yn sicrhau bod yr adeilad gorffenedig yn diwallu anghenion yr holl ddefnyddwyr ac yn rhoi PDC ar flaen y gad o ran addysg uwch STEM yn y rhanbarth a thu hwnt.”

Dywedodd Justin Price, Cyfarwyddwr Adeiladu yn BAM: “Wrth i ni gychwyn ar y prosiect adeiladu hwn mae gennym gyfle i adeiladu rhywbeth arbennig iawn yn PDC. Mae angerdd BAM dros arloesi ac ymrwymiad i ragoriaeth yn golygu ein bod yn edrych ymlaen at greu man sydd nid yn unig yn bodloni disgwyliadau’r Brifysgol ond yn rhagori arnynt. Mae’r prosiect yn gyfle cyffrous i ni arddangos ein harbenigedd a chyflwyno campwaith a bery’n dragywydd.

“Mae adeiladu’r adeilad newydd hefyd yn ein galluogi i gynnig cyfle dysgu gwych i fyfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru. Bydd BAM yn gweithio gyda staff a myfyrwyr y Brifysgol i ddarparu cyfleoedd unigryw ar y prosiect, gan sicrhau ein bod yn gadael etifeddiaeth gadarnhaol yn ogystal ag adeilad newydd rhagorol.”