Defnyddio theatr i ddod ag ieithoedd mewn perygl yn fyw
12 Ionawr, 2024
Mae academydd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi dychwelyd i’w thref enedigol yng Ngwlad Groeg i archwilio sut mae cymunedau lleiafrifol yn defnyddio theatr i ddathlu eu treftadaeth ddiwylliannol a helpu i ddiogelu ieithoedd sydd mewn perygl.
Ymwelodd Dr Christina Papagiannouli, Cymrawd Ymchwil mewn Perfformio a Thechnoleg Ryngweithiol a Throchi, â Veria, tref fechan yng Nghanolbarth Macedonia, i wneud ymchwil i berfformiad treftadaeth iaith sydd mewn perygl.
Er gwaethaf ei maint bach, mae Veria yn cofleidio amrywiaeth o isddiwylliannau ac isieithoedd, gan gynnwys Groeg Vlach a Pontic. Hon oedd yr ail dref fwyaf arwyddocaol yn ystod hanes hynafol Macedonia a thrydedd ddinas bwysicaf yr Ymerodraeth Fysantaidd, ar ôl Constantinople (Istanbul) a Thessaloniki.
Ariannwyd ymweliad Christina gan Taith, rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol dan arweiniad Llywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i ymchwilwyr deithio fel rhan o’u gwaith, tra’n hyrwyddo Cymru a’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.
Yn ystod ei chyfnod yn Veria, bu’n gweithio gyda chymunedau Groegaidd Vlach a Pontic, gan arsylwi eu gwaith a chymryd rhan mewn perfformiadau treftadaeth. Helpodd hyn Christina i ddysgu nid yn unig am dreftadaeth ddiwylliannol y cymunedau, ond hefyd ei threftadaeth hi.
Dywedodd: “Llwyddais i feithrin cysylltiadau dwfn ac ystyrlon â Chymdeithas Llên Gwerin Vlach yn Veria (VFAoV) a Chlwb Pontic Euxeinos o Veria (EPCoV), a roddodd groeso cynnes i mi a chaniatáu i mi archwilio eu cyfleusterau, eu harchifau a’u treftadaeth, arddangosfeydd ac arsylwi eu gweithdai, ymarferion a digwyddiadau. Yn bwysicaf oll, fe wnaethon nhw fy ngwahodd i ddod yn rhan o’u cymunedau a chymryd rhan yn eu hymarferion a’u perfformiadau.
“O ganlyniad, fe wnes i effeithio’n frwd ar eu strategaethau perfformiad treftadaeth ddiwylliannol, gan eu cefnogi i drosglwyddo a chadw’r ieithoedd dan sylw. At hynny, cefais drafodaethau ystyrlon ag arweinwyr cymunedol a rhanddeiliaid allweddol, gan ganiatáu rhannu a chyfnewid gwybodaeth.
“Rhoddais wybod i’r ddwy gymuned am Safonau’r Gymraeg, a phwysigrwydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’w chadw a’i thwf, yn ogystal â rhannu strategaethau gwefannau dwyieithog i hyrwyddo a chadw ieithoedd sydd mewn perygl.”