Doethuriaeth er Anrhydedd yn cael ei dyfarnu i Is-Ganghellor benywaidd cyntaf Cymru, yr Athro Fonesig Julie Lydon DBE
26 Ionawr, 2024
Mae’r Arweinydd Academaidd a’r Cyn Is-Ganghellor, yr Athro Fonesig Julie Lydon DBE wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol De Cymru (PDC).
Wedi’i geni yng Nghanolbarth Cymru, mae’r Fonesig Lydon yn ffigwr allweddol yn hanes PDC. Roedd yn Is-ganghellor Prifysgol Morgannwg cyn iddi ddod yn Is-Ganghellor cyntaf Prifysgol De Cymru, yn dilyn ei ffurfio yn 2013. Hefyd hi oedd Is-Ganghellor benywaidd cyntaf Cymru a chafodd ei hethol gan ei chyd Is-gangellorion fel Is-lywydd Cymru ar gyfer Universities UK (UUK) a Chadeirydd Prifysgolion Cymru.
Y Fonesig Lydon oedd y gyntaf yn ei theulu i fynd i addysg uwch ac ers hynny mae wedi ennill enw da am arweinyddiaeth academaidd, ar ôl bod yn Is-ganghellor Cynorthwyol yn UWE Bryste ac yn Ddeon Cyswllt Ysgol Fusnes Prifysgol Wolverhampton cyn ymuno â thîm gweithredol Prifysgol Morgannwg yn 2006. Ar ôl ymgysegru’r rhan fwyaf o’i bywyd gwaith i addysg uwch, ymddeolodd y Fonesig Lydon yn 2021. Mae’n parhau i gefnogi addysg uwch drwy ei swyddi anweithredol ar Fwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Southampton Solent ac ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr ac yn Ddirprwy Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Nelson sy’n elusen sy’n dod â chred, gobaith, ac adferiad hirdymor i fywydau y mae dibyniaeth ac anfanteision lluosog yn effeithio arnynt.
Cafodd y Fonesig Lydon ei gwneud yn Fonesig yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn 2022 am ei gwasanaethau i addysg uwch.
Yn 2023, fe’i penodwyd gan y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn Gadeirydd cyntaf y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd; mae'r datblygiad arloesol hwn yn golygu mai Cymru yw'r ail wlad yn unig yn y byd i ddod â chyllido, rheoleiddio a goruchwylio addysg ôl-16 ynghyd.
Cyflwynwyd yr anrhydedd i’r Fonesig Lydon yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru Casnewydd (ICC Cymru) ddydd Gwener 26 Ionawr.
Dywedodd y Fonesig Lydon: “Mae’n anrhydedd mawr i mi dderbyn y dyfarniad hwn gan Brifysgol a all fod yn falch iawn o’i heffaith gadarnhaol ar fywydau, cymunedau a chymdeithas.”