Hanesion Graddio | Angerdd Holly yw ysbrydoli mwy o fenywod i feysydd STEM
25 Ionawr, 2024
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2024/01-january/news-january-holly-proud-street.jpg)
Mae Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd unwaith eto wedi gweld miloedd o’n graddedigion yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I ddathlu, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.
Mae gan Holly Proud-Street uchelgais - cael mwy o fenywod i ddilyn ei harweiniad a dilyn gyrfa ym meysydd STEM.
Ac ar ôl goresgyn rhai heriau mawr - fel anafiadau difrifol a gafodd mewn damwain paragleidio a chynlluniau ymfudo yn cael eu taro gan bandemig COVID - gallwch fod yn sicr y bydd hi'n ymdrechu i’r eithaf.
Mae ymdrech Holly i gael mwy o fenywod i'r meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) wedi bod yn datblygu yn ystod ei hamser yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).
Yn 2019 graddiodd o PDC gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Archwilio Fforensig, a'r wythnos hon cerddodd unwaith eto ar draws y llwyfan i dderbyn ei gradd Meistr mewn Seiberddiogelwch.
Nid yw'r llwybr i gyflawni ei chymwysterau wedi bod yn un llyfn i Holly. Wedi'r ddamwain baragleidio yn Nhwrci yn 2018, penderfynodd Holly, sydd bellach yn 27 oed, a'i phartner ar y pryd, James, fod 'bywyd yn rhy fyr i aros' a phriodon nhw, gyda'r bwriad o ymfudo i Ganada yn fuan wedyn. Fodd bynnag, roedd yr effaith gafodd y pandemig ar deithio rhyngwladol yng ngwanwyn 2020 yn golygu bod yn rhaid i'r cwpl aros yng Nghymru.
Gan nad oedd Holly wedi dilyn gyrfa mewn gwaith fforensig ar ôl iddi raddio gan ei bod ar fin symud dramor, golygodd cyfnodau clo COVID nad oedd hi'n gweithio. Fodd bynnag, newidiodd hyn i gyd flwyddyn i mewn i'r pandemig pan gafodd waith mewn labordy a ddefnyddiwyd i wirio profion COVID.
A thra yno, cymerodd Holly y cam cyntaf tuag at ddychwelyd i astudio.
“Pan oeddwn i'n gweithio yn y labordy, cwrddais â chwpl o wyddonwyr data a chlywed am eu swyddi ac roedd hynny'n ddiddorol iawn, ac fe wnaethon nhw awgrymu y dylwn roi cynnig ar rywbeth fel hynny,” meddai Holly.
“Roeddwn i'n disgwyl i'r swydd yn y labordy barhau ar ôl y pandemig, felly wnes i ddim llawer am y peth mewn gwirionedd, ond yna collais fy swydd ac roeddwn i'n ceisio gweithio allan beth i'w wneud gyda fy mywyd. Roedd gen i fy ngradd fforensig, ond oherwydd bod gen i anabledd a methu gyrru doeddwn i ddim yn gallu cael swydd yn y maes hwnnw, felly roeddwn i'n meddwl beth allwn i wneud nesaf.”
Ar ôl cael ei hysgogi gan ei ffrindiau newydd, y gwyddonwyr data, penderfynodd Holly fod angen newid cyfeiriad a dechreuodd ymchwilio i seiberddiogelwch fel opsiwn gyrfa oherwydd ei debygrwydd i waith fforensig.
“Edrychais ar y cwrs Meistr Seiberddiogelwch a oedd ar gael yn PDC. Roeddwn i wir wedi mwynhau fy ngradd israddedig yn y Brifysgol ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn edrych yn ddiddorol iawn, felly dechreuais y cwrs yn hydref 2022, gan raddio gyda rhagoriaeth flwyddyn yn ddiweddarach,” meddai.
Cymaint oedd effaith Holly yn y cwrs, roedd hi hefyd wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn gwobr genedlaethol - gan golli allan o drwch blewyn ar anrhydedd Myfyriwr Seiber y Flwyddyn yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol.
Yn ystod ei chyfnod yn astudio, roedd Holly hefyd yn gallu canolbwyntio ar un o'i hoffterau - sut i gael mwy o'r menywod a'r merched, sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sectorau ar hyn o bryd, â diddordeb mewn pynciau STEM.
“Roedd fy nhraethawd ymchwil yn canolbwyntio ar y menywod nad sy’n cael sylw digonol mewn cryptograffeg, gan bwysleisio absenoldeb modelau rôl benywaidd mewn seiberddiogelwch a STEM yn gyffredinol,” meddai Holly.
“Nid oes gan y cwricwlwm cenedlaethol y gynrychiolaeth hon. Ceisiais godi hyn gyda Llywodraeth Cymru, ond roeddwn yn aflwyddiannus, felly rwyf wedi bod yn symud fy ffocws tuag at ymdrechion ar raddfa lai, megis gweithio gydag ysgolion lleol ar weithdai sy'n tynnu sylw at fenywod mewn STEM, y byddwn yn anelu at ysbrydoli a thorri rhwystrau rhyw o oedran ifanc.
“Rwyf hefyd wedi creu gwefan fel rhan o'm traethawd ymchwil, gan arddangos cryptograffwyr benywaidd, ac rwy'n bwriadu ei ehangu trwy gydweithio ag ysgolion.”
Tra yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol, cyfarfu Holly â Syr Dermot Turing hefyd - nai Alan Turing, y torrwr codau enwog a helpodd i gracio'r peiriant Enigma Natsïaidd, symudiad a gyflymodd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn y pen draw.
“Rhannais fy ngwaith gydag ef, gan arwain at awgrym fy mod yn cydweithio â’r Amgueddfa Cyfrifiadureg Genedlaethol," meddai. “Byddaf yn cyflwyno fy ngwaith yno ar Ddiwrnod Addysg y Dyfodol Digidol, gan obeithio y bydd yn cefnogi fy nod i fod y model rôl gweladwy yr oeddwn yn dymuno i fod pan oeddwn yn iau.”
Wrth edrych i'r dyfodol, mae Holly yn gobeithio y bydd hi'n gallu dod o hyd i swydd a fydd yn ei galluogi i gefnogi ei gobeithion.
“Fy mhrif ddewis yw rôl sy'n fy ngalluogi i wneud gwahaniaeth yn y byd go iawn,” meddai.