Hanesion Graddio | Defnyddiodd John ei brofiad milwrol i fynd i’r afael â gradd
26 Ionawr, 2024
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2024/01-january/John-Wise.jpg)
Yr wythnos hon, mae John Wise, o Nottingham, yn graddio o Brifysgol De Cymru (PDC) gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn BSc Hyfforddi, Datblygu a Gweinyddu Pêl-droed, er ei fod wedi gadael yr ysgol heb lawer o gymwysterau. Pan ddechreuodd y radd, doedd John ddim yn siŵr sut i ddefnyddio cyfrifiadur ond defnyddiodd ei brofiad milwrol a hyfforddi ac aeth du hwnt i ddisgwyliadau ei hun.
Cafodd John, myfyriwr hŷn, amser gwael yn yr ysgol ac mae’n cael trafferth siarad am y blynyddoedd cynnar hynny. Ymunodd â’r Lluoedd Arfog, yn 17 oed, lle gwasanaethodd am saith mlynedd, gan gynnwys dwy daith i Afghanistan, ond pêl-droed fu ei angerdd erioed.
Dywedodd: “Pan adewais y fyddin, roeddwn yn hyfforddi pêl-droed ar lawr gwlad. Dros amser, adeiladais fy nghymwysterau hyfforddi, ond roedd yn gwneud yn dda iawn ar lefel 3 ac roedd hynny yn drobwynt mawr iawn i mi. Yn seicolegol, newidiodd rhywbeth.
“Yna daeth y pandemig ac roedd pawb yn sownd yn eu cartref yn pendroni am beth i wneud gyda’u hamser. Ar y pryd, roeddwn yn gweithio i UK International SOCCER (UKIS) a chlywais am gwrs y gradd. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai PDC yn fy nerbyn i heb TGAU neu Lefel A, pam fydden nhw eisiau fi?
“Dwi’n difaru peidio â gweithio’n galed yn yr ysgol a mynd i’r brifysgol fel fy nghyfoedion, felly mi fentrais hi ac anfonais e-bost at Arweinydd y Cwrs. Cadarnhaodd hi fod fy mhrofiad milwrol a chymwysterau hyfforddi yn bodloni’r gofynion mynediad a chynigodd le i mi.” Pan ddechreuodd John y radd, roedd y gwaith academaidd yn heriol iddo. Pasiodd ei draethawd cyntaf, ond roedd eisiau gwella. Dywedodd: “Astudiais yn galed a gwnes i’n dda yn y profion ar-lein a’r gwaith ymarferol, ond roedd angen gwella fy ysgrifennu academaidd.
“Roedd gwneud ffrindiau gorau trwy’r radd yn drobwynt enfawr i mi. Cefnogodd y tri ohonom ein gilydd trwy’r daith i gyd. Er enghraifft, dangosodd un rhywbeth mor syml ag offeryn cyfeirio ar-lein i mi. Roeddwn yn ysgrifennu fy holl gyfeiriadau â llaw, felly roedd hyn yn agoriad llygad!”
Wrth i John symud ymlaen drwy’r cwrs gyda’i ffrindiau, penderfynodd ei fod eisiau anelu’n uwch.
“Dwi am fynd amdani, meddyliais. Dwi am fynd am radd gyntaf,” meddai.
“Gwnes i ymchwil, dysgais sut i ysgrifennu’n feirniadol, a gwellais fy ngramadeg ac aralleirio. Gwrandewais yn ofalus ar unrhyw adborth a gefais. Efallai bod hyn o ddiolch i fy mhrofiad milwrol, ond ni gymerais unrhyw feirniadaeth yn bersonol, dim ond dysgu ohono. Roeddwn i wastad yn dod o hyd i ffyrdd o wella, ac roeddwn yn gweithio am oriau.
“Yn y Fyddin, roedd rhaid i ni ddysgu disgyblaeth a pharatoi o’n cof. Daethais yn drefnus a dechreuais weithio ar fy nhraethawd hir cyn i ni hyd yn oed dechrau’r flwyddyn olaf.”
Yn ystod ei radd, teithiodd John i Califfornia ar gyfer lleoliad hyfforddi pêl-droed UKIS. Dywedodd: “Gweithiais gyda Red Star Soccer, a oedd yn gyfle gwych. Mae’n le hardd; roedd y bobl yn gyfeillgar iawn.”
Pan ddychwelodd i’r DU, roedd yn awyddus iawn i gael y sgôr uchaf. Gan droi’r sgwrs yn ôl at bêl-droed, dywedodd: “Doeddwn i erioed eisiau dim byd gymaint â hynny ers roeddwn yn 21 ac es i am dreialon ar gyfer tîm pêl-droed y gatrawd fel gôl-geidwad. Yr haf hwnnw, mi wnes i ymarfer ac ymarfer gyda fy mrawd. Roeddwn yn cicio’r bêl at y wal ac yn profi fy ymatebion am chwe wythnos cyn y treialon. Mae’n anodd mynegi faint wnes i ganolbwyntio pryd hynny, a’r un oedd yr achos gyda’r radd hon.”
Roedd John ar ei wyliau gyda’i gariad pan gafodd ei ganlyniadau a’r peth cyntaf y gwnaeth oedd diweddaru ei CV. Dywedodd: “Roeddwn i wastad wedi cuddio fy nghymwysterau tuag at waelod fy CV ond fe symudais nhw at dop y dudalen mewn ysgrifen ddu, fawr. Roedd yn foment balch.”