Arbenigedd PDC mewn datblygu entrepreneuriaid yn cael ei gydnabod trwy bartneriaeth yn India
7 Mai, 2024
Mae'r arbenigedd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) mewn datblygu entrepreneuriaid wedi'i gydnabod trwy bartneriaeth ryngwladol.
Llofnododd Prifysgol Tumkur a PDC gytundeb cydweithio yn ffurfiol yn ystod ymweliad diweddar â’r sefydliad yn India gan Richie Turner, sef Rheolwr Deori PDC.
I gychwyn, bydd y bartneriaeth yn gweld PDC yn cynghori Prifysgol Tumkur, sydd ger Bangalore yn Nhalaith Karnataka, India, ar gynlluniau i ddatblygu deorydd entrepreneuraidd ac ecosystem entrepreneuriaeth ac arloesi gynaliadwy i'w myfyrwyr, ei graddedigion, staff ei Chyfadrannau, a’i chymunedau lleol.
Dechreuodd y syniad ar gyfer y bartneriaeth pan ymwelodd Is-ganghellor Prifysgol Tumkur, yr Athro M Venkateshwarlu, â Chymru’r llynedd fel rhan o daith ehangach gan ddirprwyaeth Prifysgolion y DU. Cyfarfu â chynrychiolwyr PDC, gan gynnwys Mr Turner, i drafod blaenoriaethau cydweithio gan gynnwys deori, entrepreneuriaeth ac arloesi.
O ystyried bod PDC wedi bod ar frig y tablau entrepreneuriaeth busnesau newydd graddedigion yng Nghymru am y pedair blynedd diwethaf ac wedi agor tri deorydd gwahanol i entrepreneuriaid graddedig dros y pum mlynedd diwethaf, bu synergedd uniongyrchol rhwng y ddwy brifysgol.
Ar ôl sicrhau cyllid gan Gymru Fyd-eang i ddatblygu partneriaeth, llwyddodd y sefydliadau i ddechrau trafodaethau manwl ynglŷn â sut i gyflawni eu cam cyntaf. Roedd hyn yn cynnwys mapio polisïau a strategaethau cyfredol ym Mhrifysgol Tumkur yn erbyn ecosystem menter ac entrepreneuriaeth arobryn PDC, sy’n meithrin ei myfyrwyr trwy gydol eu hastudiaethau cyn cynnig cymorth iddynt trwy ei rhaglenni deori i raddedigion yn y Stiwdio Sefydlu.
Yn ystod ei ymweliad diweddar â Phrifysgol Tumkur, cafodd Mr Turner gyfle i gwrdd â’r tîm sy’n datblygu’r prosiect, i drafod gyda staff yn y Gyfadran ynghylch y ffordd orau o annog myfyrwyr i ddod yn entrepreneuriaid, cwrdd â rhai o’r darpar fyfyrwyr entrepreneuraidd, ac, yn hollbwysig, trafod gydâ’r Athro Venkateshwarlu am ei nodau ar gyfer partneriaeth barhaol rhwng y ddwy brifysgol. Cyfarfu Mr Turner hefyd â chynrychiolwyr ei Fwrdd Cyfarwyddwyr Deori a chynghorwyr diwydiant a phartneriaid allweddol.
“Mae’r cydweithio rhwng Prifysgol Tumkur a Phrifysgol De Cymru yn addo ysgogi arloesi ac entrepreneuriaeth, gan nodi carreg filltir bwysig yn nhaith Prifysgol Tumkur tuag at gydnabyddiaeth a rhagoriaeth fyd-eang,” meddai’r Athro Venkateshwarlu.
Treuliodd Mr Turner bythefnos ym Mhrifysgol Tumkur a chyda’i gefnogaeth, mae bellach wedi datblygu cynllun busnes llawn a thrywydd cyflawni ar gyfer ei raglenni deori ac entrepreneuriaeth, a fydd yn dechrau gyda chymhwyster mewn entrepreneuriaeth. Dilynir hwn gan agor ei hadeilad deori newydd, a gofyn am syniadau busnes newydd mewn meysydd fel cynhyrchu bwyd, amaethyddiaeth organig, a’r economi gylchol.
“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi dechrau partneriaeth PDC gyda Phrifysgol Tumkur, yn enwedig gan mai hon yw blwyddyn Cymru yn India,” meddai Mr Turner.
“Gellir gweld blaengaredd ac uchelgais Is-ganghellor Prifysgol Tumkur yn ei holl staff a myfyrwyr ac edrychaf ymlaen at ymweld eto i weld y deorydd newydd yn gweithredu’n llawn.
“Mae gan Brifysgolion PDC a Tumkur lawer o bethau yn gyffredin, nid yn unig ein bod yn blaenoriaethu entrepreneuriaeth a’r economi busnesau newydd yn ein graddedigion, mae’r ddau ohonom yn dymuno sicrhau ein bod yn cefnogi entrepreneuriaid sydd wedi’u lleoli yn ein cymunedau lleol, yn enwedig entrepreneuriaid benywaidd.”
Mae cynlluniau ar gyfer ehangu’r bartneriaeth yn y dyfodol yn cynnwys datblygu rhaglen gyfnewid i fusnesau newydd rhwng Tumkur a PDC, gan edrych ar y posibilrwydd o fentrau ‘glanio ysgafn’ ar y cyd, a chreu cyfleoedd buddsoddi rhwng Cymru a Bengaluru - canolfan TG Bangalore India.
Dywedodd Dr Louise Bright, Dirprwy Is-ganghellor dros Fenter, Ymgysylltu a Phartneriaethau yn PDC: “Mae’n wych cael y cyfle i rannu ein harbenigedd mewn datblygu entrepreneuriaid gyda chydweithwyr mewn prifysgolion tramor ac i ddysgu o’u harferion gorau.
“Rydym yn ymfalchïo yn ein partneriaethau, boed yn lleol neu’n rhyngwladol, a gall y berthynas hon â Phrifysgol Tumkur ond gwella arbenigedd y rhai sy’n addysgu ac yn dysgu yn y sefydliadau, a’u helpu i adeiladu economi gryfach yn y ddwy wlad.”