Arbenigwr arobryn ar gynhwysiant i siarad yng nghynhadledd PDC

14 Mai, 2024

Sal Naseem

Mae’n bleser gan Brifysgol De Cymru (PDC) groesawu Sal Naseem, Arbenigwr ar Blismona a Diwylliant Cynhwysol, i’r gynhadledd gyntaf Diwylliant mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ar 20 Mehefin.

Mae Sal yn Uwch Gymrawd Cyswllt yn Sefydliad yr Heddlu, yn aelod panel annibynnol yn y Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, ac yn Ymddiriedolwr yn y Ganolfan Arloesi ym maes Cyfiawnder. Digon yw dweud ei fod yn dod â chyfoeth o arbenigedd i’r gynhadledd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru).

Dywedodd e: “Bydda i’n sôn am bwysigrwydd diwylliant cynhwysol a mynd i’r afael â’r problemau sy’n cael eu hanwybyddu. Efallai fy mod yn cael fy ystyried yn ddadleuol ond mae popeth rwy'n ei ddweud yn seiliedig ar brofiad bywyd go iawn o arwain gwaith diwylliant mewn rhai amgylcheddau heriol iawn."

Sal oedd y De Asiad a’r Mwslim cyntaf i ddal swydd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Llundain yn Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ac mae’n gyn Gyfarwyddwr Rhanbarthol Llundain yn Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, lle treuliodd y rhan fwyaf o ddegawd yn gweithio yn fframwaith atebolrwydd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.

“Dydw i ddim yn meddwl y dylai unrhyw un sy’n mynd ar y llwyfan ddweud y galla’ i newid meddwl pobl. Dydw i ddim yn honni bod y pŵer hwnnw gen i. Ond yr hyn rydw i'n ceisio ei wneud yw gadael pobl â myfyrdodau yn seiliedig ar adrodd straeon,” ychwanegodd ef.

Mae Sal yn cydnabod nad yw'r sgyrsiau hyn yn newydd ond nid yw hynny'n eu gwneud yn llai pwysig. Dywedodd: “Mae diwylliant mewn gwasanaethau cyhoeddus yn amserol, yn ogystal â’r canlyniadau pan na chaiff diwylliant ei fynegi’n briodol gan arweinwyr. Mae sôn amdano bob amser ond os oedd newid mor hawdd pam fod cymaint o lyfrau wedi eu hysgrifennu am ddiwylliant? Pam fod cymaint o bobl yn siarad am ddiwylliant? Dydy e ddim yn beth hawdd i'w wneud ond mae'n hanfodol i'r rhai ar y rheng flaen - y dioddefwyr."

Fel un o leisiau mwyaf dylanwadol Linked In, mae Sal yn frwd dros drafod pwysigrwydd diwylliannau cynhwysol a’r difrod a achosir gan ddiwylliannau ‘gwenwynig’. Pan ofynnwyd iddo a yw’r DU wedi symud ymlaen o ran hiliaeth a chasineb at fenywod, dywedodd: “Mae cynnydd wedi’i wneud, ond dim digon. Mae'r corff cynyddol o waith sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael ei dderbyn gan y sefydliad. Ochr yn ochr â hyn, mae disgwyliadau cymdeithas wedi newid. Er enghraifft, mae gan fy mhlant ddisgwyliad hollol wahanol a dilys o'r hyn y dylai'r gweithle fod iddyn nhw a sut maen nhw’n perthyn iddo, sy'n golygu bod y safon wedi'i chodi. Ond a yw gwahaniaethu a rhagfarn yn dal i fodoli? Wrth gwrs maen nhw'n bodoli.

“Fodd bynnag, does dim angen i’r gwaith o newid diwylliant fod mor anodd ond mae modd ei wneud gydag arweinyddiaeth ddewr. Y cyfan rydyn ni'n siarad amdano yw tegwch.”