Dros 2,500 o fenywod yn derbyn cymorth dros dair blynedd o’r rhaglen sgiliau entrepreneuraidd

1 Mai, 2024

Y tu allan i Gampws Casnewydd.

Mae mwy na 2,500 o fenywod wedi derbyn cymorth gan raglen sydd wedi'i chynllunio i gefnogi'r rhai sy'n awyddus i fynd ar eu liwt eu hunain neu wireddu’u syniad am fusnes newydd.

Ar ddechrau mis nesaf, mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn dathlu tair blynedd o’i Rhaglen Datblygu Menywod Entrepreneuraidd, cyfres o ddosbarthiadau meistr a digwyddiadau wedi'u hariannu'n llawn mewn partneriaeth â NatWest Cymru.

Mae'r rhaglen, sydd bellach yn cael ei rhedeg gan Stiwdio Sefydlu PDC – gofod hybu pwrpasol ar gyfer busnesau newydd - yn rhan o ymrwymiad y Brifysgol i alluogi mwy o fenywod a phobl anneuaidd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i fod yn rheolwr arnyn nhw eu hunain, a'i nod yw mynd i'r afael â'r rhwystrau i entrepreneuriaeth fenywaidd, yn benodol y rhai sy'n ymwneud â hyder, effaith/effeithiolrwydd, hunan-fri a gwytnwch.

Fel rhan o'r rhaglen, mae mynediad at raglen datblygu busnes a sesiynau hyfforddi, sy'n gweithredu mewn carfannau llai sy'n helpu i adeiladu cymuned cymorth gynaliadwy wrth hefyd fynd i'r afael â rhwystrau ymarferol i fasnachu.

Cyflwynir y rhaglen, sy'n cynnwys wyth sesiwn unigol sy'n adeiladu ar ei gilydd, gan yr artist gweledol a'r hwylusydd Prith Biant, sydd wedi bod yn rhedeg ei busnes ei hun ers dros 15 mlynedd, ac mae hefyd yn gweithio mewn ysgolion fel ymarferydd creadigol, sy’n addysgu ac yn cynnal gweithdai creadigol gyda menywod o amgylch hunanddelwedd a grymuso. Mae Prith hefyd yn gyn-fyfyriwr PDC ar ôl astudio ar gyfer ei MBA.

Yn ystod y tair blynedd ers i'r rhaglen ddechrau yn 2021 bu 2,597 o ryngweithiadau â darpar gyfranogwyr, gydag ychydig llai na thraean o'r rheiny'n mynd ati i ymgysylltu â'r cymorth sydd ar gael.

O ganlyniad, mae bron i 40 o fusnesau wedi’u dechrau neu fenywod wedi’u cefnogi i fod yn hunangyflogedig. Mae 23 o'r cyfranogwyr wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant cychwyn busnes, ac 20 wedi derbyn cefnogaeth i ymddangos yng Nghynhadledd FSB Cymru.

Mae manteision pellach bod yn rhan o'r rhaglen wedi cynnwys dosbarthiadau meistr a sesiynau rhwydweithio a arweinir gan 38 o sylfaenwyr benywaidd ysbrydoledig sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Mae 30 o gyfranogwyr wedi derbyn y sesiynau hyfforddi busnes a datblygiad proffesiynol ychwanegol, gan fynd i'r afael â rhwystrau cyffredin amrywiol a amlygwyd gan y ddau Adroddiad Rose Review ar Entrepreneuriaeth Menywod ar gyfer Llywodraeth y DU.

I nodi tair blynedd o’r Rhaglen Datblygu Menywod Entrepreneuraidd, ar 9 Mai, ar Gampws Casnewydd PDC bydd nifer o fenywod busnes blaenllaw yn mynychu arddangosfa ddathlu, gan gynnwys Kellie Beirne, Cyfarwyddwr rhaglen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd; Caroline Thompson, Cyfarwyddwr Menter Ranbarthol NatWest; Rachel Ashley o Angylion Cymru sy’n Ferched, Carol Hall o Fanc Datblygu Cymru.

Dywedodd Richie Turner, Rheolwr rhaglenni Entrepreneuriaeth Stiwdio PDC: "Rydym yn gyffrous ein bod yn gallu parhau â'r rhaglen fusnes cychwyn hanfodol hon ar gyfer menywod sydd wedi'u lleoli yn Ne Cymru, trwy'r tîm yn Stiwdio Sefydlu, a gyda chefnogaeth barhaus gan NatWest.

"Mae gallu cyrraedd cymaint o fenywod ar draws cymunedau De Cymru yn dangos ein hymrwymiad i helpu ein heconomi ranbarthol i dyfu, gan mai busnesau newydd yw'r sbardun allweddol ar gyfer newid economaidd a chymdeithasol yn ein cymdeithas. Rwy'n llongyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan, ac yn enwedig y menywod hynny sydd wedi mynd ymlaen i ddechrau eu busnesau eu hunain."

Bydd yr arddangosfa am ddim yn dathlu llwyddiannau'r Rhaglen ac yn taflu goleuni ar enghreifftiau ysbrydoledig o entrepreneuriaeth fenywaidd yn y rhanbarth.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn am arddangosiad dathlu yma.