Myfyrwyr Georgaidd yn cael eu croesawu i Gymru

24 Mai, 2024

Levani Kvinikadze, Kristine Dzagnidze, yr Athro Shalva Kirtadze, Prifathro Prifysgol Talaith Akaki-Tsereteli, Nino Tortladze, a Mark Cadwallader, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu

Mae tri myfyriwr o Georgia wedi datgelu eu bod yn teimlo bod cymuned Casnewydd yn eu croesawu yn ystod eu cyfnod yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

Mae Kristine Dzagnidze, Levani Kvinikadze a Nino Tortladze yn astudio graddau ôl-raddedig ar ysgoloriaethau fel rhan o Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) rhwng PDC a Phrifysgol Talaith Akaki Tsereteli yn Kutaisi. Mae dinas Casnewydd wedi'i gefeillio â dinas Georgaidd Kutaisi ers 1989.

Mae Levani yn astudio ar y rhaglen MA Arwain a Rheoli (Addysg) ar Gampws Casnewydd y Brifysgol ac mae wedi bod ar leoliad addysgu yn Ysgol Uwchradd Llanwern. Dywedodd e: "Mae hwn wedi bod yn brofiad academaidd mor dda i mi. Byddaf yn mynd â'r hyn rydw i wedi’i ddysgu yn ôl adref, lle gobeithiaf mai addysgu fydd fy mhroffesiwn yn y dyfodol. Mae astudio yma wedi fy nghyflwyno i wahanol ddulliau addysgu, sydd wedi bod yn amhrisiadwy."

Dywedodd Kristine, sy'n astudio MA Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) yng Nghasnewydd: "Rwy'n angerddol am addysg gan ei bod yn chwarae rhan ganolog mewn unrhyw wlad. Roeddwn i'n awyddus i dderbyn yr ysgoloriaeth hon oherwydd fy mod i wastad wedi bod eisiau astudio yn y DU, felly fe neidiais ar y cyfle.

"Rydw i wedi bod yn gweithio mewn ysgolion ym Mryste ac yn teimlo'n ffodus fy mod wedi cael y cyfle i addysgu mewn gwlad wahanol, ac astudio addysgu ar lefel ddyfnach. Rydw i wedi dysgu llawer ac wedi datblygu fy sgiliau dysgu annibynnol."

Dywedodd y myfyrwyr i gyd eu bod nhw wedi cael croeso cynnes yng Nghasnewydd a chan Gymry.

Dywedodd Nino Tortladze, sydd hefyd yn astudio MA Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) ac sydd hefyd wedi gweithio yn Ysgol Uwchradd Llanwern: “Mae wedi bod mor hyfryd i brofi diwylliant gwahanol a safbwyntiau amrywiol. Mae pawb wedi bod yn gyfeillgar, yn gefnogol ac yn groesawgar iawn.

“Mae’r cwricwlwm addysgu yn wahanol iawn yng Nghymru o’i gymharu â chartref, felly mae wedi bod mor ddiddorol arsylwi hyn. Rydyn ni wedi mwynhau dysgu rhywfaint o Gymraeg fel rhan o’n haddysgu hefyd.”

Mae Levani, Kristine a Nino wedi bod yn gweithio’n galed ar eu haseiniadau ond, pan mae ganddyn nhw amser rhydd, maen nhw wedi mwynhau canol y ddinas ac ymweld â lleoedd lleol a safleoedd diwylliannol, megis Amffitheatr Rufeinig Caerllion ac Amgueddfa Caerdydd.

Yn ddiweddar, ymwelodd Prifathro Prifysgol Talaith Akaki Tsereteli, yr Athro Shalva Kirtadze, â Chasnewydd gyda chydweithwyr i siarad â'r myfyrwyr a thrafod cyfleoedd partneriaeth â PDC.

Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC: “Roedd yn wych croesawu’r Athro Shalva Kirtadze a’i gydweithwyr yn ystod eu hymweliad â PDC. Mae’r cysylltiad rhwng Kutaisi a Chasnewydd yn hirsefydlog ac mae ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Phrifysgol Talaith Akaki Tsereteli yn adeiladu ar y sylfaen honno, gan gryfhau ein cysylltiadau addysgol. Mae’n wych clywed am y profiadau cadarnhaol y mae’r tri myfyriwr wedi’u cael. Maen nhw’n mwynhau eu hamser yn dysgu yn PDC ac yn gweithio gydag ysgolion lleol, a gobeithio y bydd eu profiadau yn helpu i gyfrannu at eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”