PDC i gynnal Gwersyll Gofod i Ddysgu ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau

15 Mai, 2024

Image of astronauts in space, with the Earth and the Sun visible in the background.

Bydd Prifysgol De Cymru (PDC) yn cynnal y Gwersyll Gofod i Ddysgu wythnos gyntaf yr haf hwn.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir mewn partneriaeth â'r Academi Ofod Genedlaethol (NSA), yn cael ei gynnal ar Gampws Trefforest PDC rhwng 24 a 28 Mehefin ac mae wedi'i anelu at ddysgwyr sydd wedi cwblhau eu TGAU.

Bydd y Gwersyll yn anelu at ddysgu'r rhai sy'n mynychu am feysydd allweddol yn y sector gofod, yr opsiynau gyrfa sydd ar gael iddynt, a gwella eu sgiliau STEM, a dysgu cymdeithasol ac emosiynol.

"Bydd gan bob diwrnod thema wahanol a bydd dysgwyr yn cwblhau prosiect trosfwaol drwy gydol yr wythnos i glymu’r hyn maen nhw wedi'i ddysgu yn gynharach yn y gwersyll a sgiliau busnes allweddol ynghyd," meddai Em Truman, Swyddog Rhanbarthol Cymru yn yr NSA.

Bydd y themâu yn cynnwys Edrych i Fyny, Ein Daear Dan Fygythiad, Lloerennau, Rocedi, a Goroesi yn y Gofod.

"Bydd y rhaglen Gofod i Ddysgu hefyd yn cynnwys cysylltiadau â'r ardal leol a'r sector gofod lleol. Bydd y rhaglen yn anelu at gael gwared ar rwystrau rhag cael mynediad i'r mathau hyn o ddigwyddiadau, a gweithio gyda dysgwyr nad ydynt efallai'n cael y cyfle i brofi'r math hwn o ddysgu." meddai Dr Leshan Uggalla, Uwch Ddarlithydd yn PDC.

"Hoffem weithio gyda theuluoedd y rhai sy'n mynychu'r digwyddiad hwn lle bo modd i roi cyd-destun i'r hyn y mae eu plant yn ei ddysgu a chynyddu ymwybyddiaeth o'r sector gofod. Rydym yn falch iawn o gymryd rhan yn y bartneriaeth hon gyda'r NSA. Bydd y digwyddiad yn meithrin diwylliant gofod bywiog yn y rhanbarth ac yn rhoi cyfle cyffrous i fyfyrwyr sy'n angerddol am y gofod i gymryd rhan."

Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru: "Mae'n wych bod Prifysgol De Cymru a'r Academi Ofod Genedlaethol wedi cydweithio i gynnal y Gwersyll Gofod i Ddysgu. Mae'n gyfle cyffrous i ddysgwyr archwilio'r sector gofod, gwella eu sgiliau STEM, a chael eu cyflwyno i opsiynau sydd ar gael iddynt.

"Mae STEM yn chwarae rhan bwysig yng Nghymru ac mae pob plentyn yn haeddu mynediad at gyfleoedd cyfoethogi fel y rhain. Wrth i PDC ac NSA geisio cael gwared ar rwystrau, bydd mwy o ddysgwyr yn cael cyfle i ddarganfod eu hoffterau a chredu bod gyrfa mewn STEM yn y dyfodol yn gweddu’n dda atynt."

Dywedodd Marianne Shelton o Asiantaeth Ofod y DU: "Mae Asiantaeth Ofod y DU yn falch o gefnogi'r Academi Ofod Genedlaethol i lansio ei gwersyll gofod cyntaf yng Nghymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru.

"Rydym am i bob person ifanc ledled y DU gael cyfleoedd i feithrin eu chwilfrydedd, eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn STEM ac archwilio lle gallai gyrfa yn y gofod eu cymryd. Rydyn ni'n gyffrous i allu helpu pobl ifanc yn Ne Cymru i sylweddoli beth all y sector gofod ei gynnig iddyn nhw."

Dywedodd Dr Paul Davies, Deon Cyfadran Gyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC: "Rydym wrth ein bodd yn cynnal y Gwersyll Gofod i Ddysgu eleni. Yn PDC, fel un o brif ddarparwyr addysg STEM, rydym mewn sefyllfa berffaith i roi cipolwg i'r rhai sydd â diddordeb yn y sector gofod ar y nifer enfawr o yrfaoedd sydd ar gael a'u helpu i gyflawni eu potensial llawn."

Dywedodd David Wilkinson, Rheolwr Cyffredinol yr NSA: "Ni fu erioed amser pwysicach i ennyn brwdfrydedd y genhedlaeth nesaf yn y pynciau STEM. Gan ddefnyddio'r cyd-destun gofod gallwn addysgu ac ysbrydoli'r bobl ifanc sydd eu hangen arnom i ddatrys y problemau sy'n wynebu'r byd heddiw."