Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl | Hyrwyddo lles meddyliol trwy gysylltu â byd natur

15 Mai, 2024

A woman with a backpack standing at the edge of a valley, gazing into the distance.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi sicrhau £149,980 gan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer y prosiect ' Meddyliau Iach Pobl Ifanc’.

Nod y prosiect, a gynhelir mewn partneriaeth â gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (GIG yn yr Ucheldiroedd), yw cyd-gynhyrchu rhaglen ymyrraeth gynnar gyda myfyrwyr ysgolion uwchradd i hyrwyddo lles meddyliol trwy gysylltu â byd natur a mannau gwyrdd lleol.

Dan arweiniad Dr Sara Bradley, PDC, a Dr Nick Barnes, GIG yn yr Ucheldiroedd, bydd y rhaglen yn cael ei chyd-gynhyrchu gyda myfyrwyr gwledig o bum ysgol uwchradd yn Ucheldiroedd yr Alban i hybu lles meddyliol, gwella gwydnwch a lleihau pryder.

Bydd y canlyniadau nid yn unig yn cyfrannu at ddealltwriaeth academaidd ond hefyd yn llywio'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau, er budd cymunedau gwledig yn genedlaethol.

Dywedodd Dr Bradley: “Mae llawer o bobl ifanc yn profi iechyd meddwl gwael, yn enwedig yn dilyn pandemig Covid-19, ac mae’n her iechyd sylweddol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Mae lefelau pryder yn cynyddu, wedi'u hysgogi gan ofnau am faterion fel newid yn yr hinsawdd, arholiadau, delwedd corff a seiberfwlio. Mewn ardaloedd gwledig, mae pobl ifanc yn arbennig o ynysig ac yn profi heriau wrth gael mynediad at wasanaethau, gan atgyfnerthu anghydraddoldebau iechyd.

“Y nod yw datblygu syniadau ar gyfer ymyrraeth lles sy’n seiliedig ar fyd natur trwy gyfres o weithdai gyda myfyrwyr. Mae cynnwys y myfyrwyr yng nghynllun y rhaglen yn allweddol i ennyn eu diddordeb a'u hysgogi. Bydd eu galluogi i gymryd perchnogaeth yn gwella’r siawns o dderbyn, mabwysiadu a chynaliadwyedd. Bydd y gweithdai yn cynyddu hunanhyder, yn meithrin sgiliau ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod eu barn ar iechyd meddwl.

“Ein nod yw datblygu fframwaith ymyrraeth i’w dreialu mewn cynllun peilot dilynol.”

Dywedodd Dr Nick Barnes, Seiciatrydd Plant a’r Glasoed, GIG yn yr Ucheldiroedd: “Rydym yn hynod gyffrous i fod yn rhan o’r astudiaeth hon, gan archwilio sut y gall byd natur a mannau gwyrdd effeithio ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc mewn lleoliadau gwledig.

“Gan adeiladu ar y dystiolaeth hysbys y gall y dull hwn o gefnogi plant a phobl ifanc gael effaith sylweddol ar anghydraddoldebau iechyd, rydym yn croesawu’n fawr y cyfle i weithio ochr yn ochr â phobl ifanc i benderfynu beth sy’n bwysig iddyn nhw wrth gyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu ymyriadau sy’n seiliedig ar fyd natur mewn mannau gwyrdd hygyrch.”


Mae Dr Sara Bradley yn Uwch Gymrawd yn Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

  • Delwedd: Sefydliad Iechyd Meddwl, Emma Maichell