Cydweithrediad ymchwil rhwng PDC a Gwasanaeth Prawf Cymru

15 Mawrth, 2024

Image of Professor Katy Holloway, wearing a green jumper.

Mae Katy Holloway, yr Athro Troseddeg, a chydweithwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), wedi cael eu comisiynu gan Wasanaeth Prawf Cymru i werthuso effaith Swyddogion Defnydd Sylweddau.

Mae Swyddogion Defnydd Sylweddau yn cefnogi troseddwyr ar brawf ac mae ganddynt anghenion sy’n deillio o ddefnyddio sylweddau. Mae’r rôl wedi’i chyflwyno fel ymyriad arloesol gan Wasanaethau Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, fel rhan o gynllun mwy i leihau aildroseddu.

Bydd y gwerthusiad yn ystyried sut mae Swyddogion Defnydd Sylweddau wedi cael eu gweithredu o fewn y system a pha mor effeithlon y maent yn gweithredu. Elfen bwysig fydd ymchwilio i realiti ymarferol bod yn Swyddog Defnydd Sylweddau a gweithio ochr yn ochr â staff prawf.

Bydd yr ymchwil hefyd yn asesu a yw’r Swyddogion Defnydd Sylweddau yn cyflawni eu nodau o ran galluogi pobl ar brawf i wneud dewisiadau mwy gwybodus a dangos gwytnwch yn ymwneud â defnyddio sylweddau, wrth eu helpu i gael profiad cadarnhaol o’r Gwasanaeth Prawf.

Dywedodd yr Athro Holloway, sydd hefyd yn Bennaeth Grŵp Ymchwil Defnyddio Sylweddau PDC (SURG): “Mae’r ymchwil hwn yn cyd-fynd yn agos â chenhadaeth y Grŵp Ymchwil Defnyddio Sylweddau i hyrwyddo arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n gwella adsefydlu ac ailintegreiddio pobl ag anghenion sy’n deillio o ddefnyddio sylweddau. Bydd yr ymchwil hwn yn mynd â ni i 2025 pan fyddwn yn adrodd ar ein canfyddiadau i Wasanaeth Prawf Cymru.

“Effaith yr ymchwil hwn fydd o ran nodi arferion gorau a gwneud y gorau o berfformiad rolau Swyddog Defnydd Sylweddau a bydd yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch parhau i ariannu’r swyddi newydd hyn.”

Dywedodd Emma Saha, Rheolwr Prosiect Defnyddio Sylweddau, Gwasanaeth Prawf Cymru:

“Mae’r gwerthusiad hwn yn gyfle cyffrous i greu tystiolaeth o’r effaith gadarnhaol y mae gwreiddio rolau Swyddog Defnydd Sylweddau yn ei chael ar nid yn unig troseddwyr ar brawf, ond ar staff ac o ganlyniad ein gwasanaeth cyfan.

“Mae’r arbenigedd, y sgiliau, a’r wybodaeth y mae’r rolau hyn yn eu cynnig yn rhoi safbwynt pwysig ac unigryw a all lunio a datblygu arferion gorau yn ogystal â herio canfyddiadau a’r stigma sy’n gysylltiedig â defnyddio sylweddau.”