Cymorth seiberddiogelwch am ddim ar gael i BBaChau

21 Mawrth, 2024

Rhys Driscoll

Mae busnesau bach sy'n chwilio am gymorth seiberddiogelwch yn cael cynnig help am ddim gan brifysgol arobryn.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn chwilio am fusnesau bach a chanolig a allai elwa o'r arbenigedd sydd ar gael drwy ei rhaglenni seiberddiogelwch.

Mae PDC yn cael ei chydnabod fel darparwr addysg seiberddiogelwch blaenllaw, ar ôl cael ei henwi'n Brifysgol Seiber y Flwyddyn yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol am bedair blynedd yn olynol rhwng 2019 a 2022.

Hefyd, yn 2020, daeth PDC y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei henwi'n Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol - sy'n rhan o Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU. Mae bellach yn Ganolfan Ragoriaeth Academaidd lefel aur.

"Mae PDC yn ymrwymedig i gryfhau gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau ei myfyrwyr ym maes seiberddiogelwch drwy weithio mewn partneriaeth â busnesau bach, gan eu galluogi i wneud defnydd o arbenigedd arobryn drwy’r fodel dysgu gymhwysol sydd gan raglenni seiberddiogelwch y Brifysgol," meddai Rhys Driscoll, Arweinydd Allgymorth a Datblygu Partneriaethau PDC ar gyfer Seiberddiogelwch.

"Rydym yn chwilio am BBaChau i gydweithio â nhw i ddatblygu prosiectau academaidd sy'n mynd i'r afael â maes diddordeb, ymchwil neu gyfle i fusnes/sector."

Ychwanegodd Rhys y gallai'r cynnig o gymorth fod yn hanfodol yn yr amgylchedd ar-lein sydd ohoni.

"Mewn byd lle mae bygythiadau seiber yn esblygu'n gyson, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd gweithwyr proffesiynol medrus mewn seiberddiogelwch," meddai Rhys.

"Yn PDC rydym wedi sefydlu ein hunain fel arweinydd a chanolfan ar gyfer addysg seiberddiogelwch ac rydym yn cymryd ymagwedd ragweithiol i baratoi myfyrwyr ar gyfer heriau'r byd go iawn.

"Rydym yn deall nad yw pob busnes yn Apple nac yn Google, felly gall cysylltu ein myfyrwyr ag amrywiaeth o fusnesau o unrhyw faint ar draws gwahanol sectorau wella eu cyfleoedd cyflogaeth a datblygu sgiliau sy'n ofynnol gan y sector seiberddiogelwch."

Gall busnesau sydd â diddordeb mewn gweithio gyda Phrifysgol De Cymru ar brosiect gysylltu â Rhys Driscoll drwy [email protected]