Gallai prosiect torri costau leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

19 Mehefin, 2024

Arnaud Aimale-troy a Jacob Jordan sy'n gweithredu'r ffatri OXYHYWATER gyda Dr Massanet-Nicolau, yr Athro Guwy, a Chris Edwards o Ddŵr Cymru.

Mae prosiect a allai leihau’n sylweddol faint o nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir wrth drin dŵr gwastraff yn cael ei arloesi gan Brifysgol De Cymru (PDC).

Mae’r prosiect, o’r enw ‘OXYHYWATER’, mewn partneriaeth â Dŵr Cymru a gallai arwain at ostyngiadau mawr mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae OXYHYWATER yn ffurf newydd ar drin dŵr gwastraff sy’n cael ei datblygu gan y Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) yn PDC, sy’n defnyddio ocsigen pur, yn hytrach nag aer o’r atmosffer, i drin y garthffrwd.

Mae canfyddiadau cychwynnol yn dangos bod gan y prosiect nifer o fanteision amgylcheddol.

“Trwy ddefnyddio ocsigen pur i drin y dŵr gwastraff, gallai costau’r broses gael eu haneru o’u cymharu â chostau defnyddio aer o’r atmosffer,” meddai’r Athro Alan Guwy, Pennaeth SERC ac arweinydd y prosiect.

“Mae defnyddio ocsigen pur hefyd yn golygu bod swm y biomas eilaidd a gynhyrchir gan y system yn llawer llai na phrosesau trin dŵr gwastraff traddodiadol, sy'n lleihau costau a gofynion ynni trin gwastraff eilaidd.

“Dylai allyriadau nwyon tŷ gwydr fel ocsid nitrus - y gellir eu hallyrru yn ystod prosesau arferol o drin dŵr gwastraff, gyda photensial cynhesu byd-eang tua 300 gwaith yn fwy na charbon deuocsid. Hefyd dylai allyriadau nwyon tŷ gwydr leihau'n sylweddol yn y broses OXYHYWATER oherwydd ei ddyluniad caeedig a'r defnydd o ocsigen pur.”

Mae cynhyrchu'r ocsigen a ddefnyddir gan OXYHYWATER yn sgil-gynnyrch o gynhyrchu hydrogen o electrolysis, menter arall sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.

“Trwy weithredu OXYHYWATER, gallai’r diwydiant dŵr gynhyrchu’r ocsigen pur trwy electrolysis – proses sy’n defnyddio trydan i hollti dŵr yn hydrogen ac ocsigen, gyda’r hydrogen yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tanwydd trafnidiaeth di-garbon a storio ynni, a’r ocsigen yn cael ei ddefnyddio gan OXYHYWATER, a fyddai fel arfer yn cael ei ollwng yn yr atmosffer,” ychwanegodd Dr Jaime Massanet-Nicolau, Athro Cyswllt Cynhyrchu Cemegau sy’n seiliedig ar Ddefnyddio Biodechnoleg, a Chyd-Ymchwilydd ar y prosiect.

“Mae yna fanteision gwyrdd pellach hefyd oherwydd bod gan y diwydiant dŵr, sy’n ddefnyddiwr ynni dwys, ddigonedd o ynni adnewyddadwy a dŵr i wneud hydrogen lle mae angen 10-11 litr o ddŵr i gynhyrchu cilogram o nwy.”

Hefyd mae manteision amgylcheddol pellach o OXYHYWATER yn bosibl trwy ei system hidlo unigryw.

“Gallai’r system newydd o bilenni hidlo, sy’n cadw microbau a ddefnyddir i drin y dŵr gwastraff yn y system, alluogi cyfraddau llif prosesau llawer uwch,” meddai Dr Massanet-Nicolau.

“Mae hyn yn golygu y gellir trin yr un faint o ddŵr mewn llai o amser, gyda chanlyniadau cychwynnol yn dangos y gallai OXYHYWATER reoli mwy o ddŵr gwastraff na phrosesau arferol, gan arwain at ostyngiad mawr yn y defnydd o ynni.”

Datblygwyd technoleg OXYHYWATER ar y dechrau gan SERC ar raddfa labordy mewn prosiect PhD a ariannwyd gan Marie Curie, dan arweiniad yr Athro Guwy, gydag arian cyfatebol gan Ddŵr Cymru. Mae cydweithredu parhaus â Dŵr Cymru, ynghyd â chyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) fel rhan o brosiect Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE) a rhaglen ymchwil y Ganolfan Ymchwil ac Arloesi Datgarboneiddio Diwydiannol (IDRIC) a ariennir gan UKIR, wedi arwain at ddylunio ac adeiladu system OXYHYWATER ar raddfa beilot a weithredir mewn ffatri trin dŵr gwastraff yn Ne Cymru.

 

Arnaud Aimale-troy a Jacob Jordan sy'n gweithredu'r ffatri OXYHYWATER gyda Dr Massanet-Nicolau, yr Athro Guwy, a Chris Edwards o Ddŵr Cymru.