Dechrau gwaith adeiladu ar gyfer adeilad newydd ar Gampws Trefforest
11 Medi, 2024
Mae seremoni arloesol wedi nodi dechreuad gwaith adeiladu ar gyfer adeilad academaidd newydd ar Gampws Trefforest Prifysgol De Cymru (PDC) ym Mhontypridd.
Bydd yr adeilad newydd yn darparu cyfleusterau addysgu, dysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf ar gyfer Cyfrifiadureg, Peirianneg a Thechnoleg.
Bydd mwy na 40 o ofodau addysgu, dysgu ac ymchwil yn yr adeilad pum llawr, gan gynnwys labordai electroneg a hydroleg, efelychydd hedfan, labordy roboteg, mannau ymchwil glân a diwydiannol, mannau addysgu cydweithredol, yn ogystal â gallu realiti rhithwir, a mannau arddangos.
Un o egwyddorion allweddol yr adeilad yw hyrwyddo gweithio rhyngddisgyblaethol drwy wneud y gweithgareddau sy'n digwydd yn weladwy ac yn hygyrch. Canolbwynt ar gyfer hyn fydd ‘creudai’, a fydd yn gwneud dysgu ac archwilio yn weladwy iawn. Ynddynt, gall myfyrwyr greu ac arloesi gyda mynediad at offer i gwblhau eu gweithgareddau. Gellir gweld y cyfleusterau newydd cyffrous mewn taith wib o'r adeilad newydd.
Gwylio taith wib o'r adeilad newydd
Mae'r cwmni adeiladu BAM yn ymgymryd â'r gwaith adeiladu, a fydd yn cynnig 11,500 metr sgwâr o ofod newydd, ar dir gwag ar waelod Campws Trefforest yn dilyn dymchwel dau adeilad yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Disgwylir y bydd yn cymryd tua dwy flynedd i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau.
Mae'r arbenigwyr adeiladu yn BAM yn gweithio ochr yn ochr â thîm dylunio o benseiri Stride Treglown a pheirianwyr Arup. Mae'r cwmni rheoli prosiect Currie & Brown hefyd yn chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau bod y prosiect yn parhau ar y trywydd iawn ac yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus.
Bydd y buddsoddiad yn cael effaith gadarnhaol iawn ar yr economi leol, gyda BAM yn penodi isgontractwyr lleol a phartneriaid cadwyn gyflenwi i gyflawni'r prosiect. Bydd mwy na 75% o wariant y prosiect yn cael ei wario’n lleol.
Bydd nifer o gyfleoedd i brentisiaid a chyfleoedd hyfforddiant ar gael drwy gydol y gwaith adeiladu – gwerth dros 1000 wythnos i gyd. Mae saith o gyn-fyfyrwyr PDC hefyd yn gweithio ar y gwaith adeiladu yn BAM.
Mae dyluniad yr adeilad yn amgylcheddol gynaliadwy, sy’n cyd-fynd â tharged PDC o fod yn garbon sero net erbyn 2040. Ni fydd yr adeilad yn defnyddio unrhyw nwy naturiol – bydd yn cael ei bweru gan Bympiau Gwres Ffynhonnell Aer a bydd ganddo 851 m2 o baneli solar ffotofoltäig ar y to.
Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC: "Mae'n hynod gyffrous fod y gwaith am ddechrau ar yr adeilad academaidd newydd ar gyfer Cyfrifiadureg, Peirianneg a Thechnoleg ar ein Campws Trefforest. Mae cydweithwyr wedi bod yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid allanol i ddatblygu'r cynlluniau ar gyfer ein cyfleuster newydd ac mae'n garreg filltir wych i nodi dechrau'r gwaith adeiladu nawr.
"Bydd yr adeilad newydd yn arddangos dysgu a gwaith ein myfyrwyr gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf ac yn croesawu ein partneriaid diwydiannol i weithio gyda ni i ddylunio a chyflwyno ein cwricwlwm seiliedig ar her, a chydweithio ar ymchwil ac arloesedd. Bydd yr adeilad yn wirioneddol trawsnewid y rhan hon o'n campws ac yn cynnig amgylchedd dysgu, ymchwil a gwaith o'r radd flaenaf i'n myfyrwyr, ein cydweithwyr a'n partneriaid."
Dywedodd Mark Milton, Prif Swyddog Gweithredu PDC: "Mae hwn yn fuddsoddiad mawr i'r Brifysgol, ac i'r ardal leol, ac rydym yn gweithio gyda BAM i sicrhau’r defnydd gorau o'r gadwyn gyflenwi leol. Yn ogystal â darparu cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddiant drwy gydol y cyfnod adeiladu, bydd y prosiect hefyd yn cynnig profiad dysgu byw ac ymarferol i lawer o'n myfyrwyr presennol.
"Bydd yr adeilad newydd yn ein cadw ar flaen y gad ym maes addysg STEM, gydag ymagwedd arloesol at ddysgu ac addysgu, gan wella'r amgylchedd a'r profiad i'n myfyrwyr a'n cydweithwyr. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cynlluniau'n dod yn fyw dros y blynyddoedd nesaf."
Dywedodd Tim Chell, Cyfarwyddwr Rhanbarthol BAM: "Mae heddiw'n nodi uchafbwynt misoedd o gynllunio, cydweithredu a gwaith caled gan holl Dîm y Prosiect. Ond mae hefyd yn ddechreuad rhywbeth hyd yn oed yn fwy arwyddocaol—taith a fydd yn trawsnewid y safle hwn yn dirnod y gallwn i gyd fod yn falch ohono. Hoffwn ddiolch o galon i'n cleientiaid, partneriaid, a phawb sydd wedi credu yn y weledigaeth hon ac sydd wedi gweithio'n ddiflino i ddod â hi'n fyw.
"Wrth i ni dorri tir, cawn ein hatgoffa bod cryfder adeilad yn gorwedd yn ei sylfaen. Gellir dweud yr un peth am ein dull o gydweithio, ymrwymiad i ansawdd, a pharch at y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae'r egwyddorion hyn yn llywio pob penderfyniad a wnawn, gan sicrhau y bydd yr hyn rydym yn ei adeiladu heddiw yn sefyll prawf amser."
Yn y llun uchod (chwith i'r dde): Alex Davies-Jones AS (Aelod Seneddol Pontypridd), Tim Chell (Cyfarwyddwr Rhanbarthol BAM), Mick Antoniw MS (Aelod o'r Senedd dros Bontypridd), Dr Ben Calvert (Is-Ganghellor PDC), Jahid Hassan (Undeb Myfyrwyr PDC), a Heledd Fychan MS (Aelod o'r Senedd ar gyfer Canol De-orllewin).