Exploring Ancient Myths: llyfr newydd gan yr Athro Kevin Mills
3 Medi, 2024
Mae’r Athro Kevin Mills, beirniad a bardd, wedi cyhoeddi Myths and Ancient Stories: Narrative, Meaning and Influence in the West. Mae'r llyfr hwn yn archwilio mythau hynafol a'u heffaith ar ddiwylliant y Gorllewin ac arferion adrodd straeon modern.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu’r llyfr hwn am fythau hynafol a’u dylanwad ar adrodd straeon modern?
Yn gynnar yn fy ngyrfa addysgu sylweddolais nad oedd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr unrhyw wybodaeth am straeon clasurol na beiblaidd. Cefais fy hun (ac rwy’n dal i gael fy hun) yn aml yn adrodd straeon Orestes, Orpheus, Odysseus neu chwedlau Cain ac Abel, Tŵr Babel, Abraham ac Isaac, mewn dosbarthiadau llenyddiaeth. Mae'n amhosibl darllen llenyddiaeth Saesneg cyn yr ugeinfed ganrif yn ddeallus heb rywfaint o wybodaeth am y gweithiau hynafol hyn. Mae crybwylliadau, cyfeiriadau, delweddau ac adleisiau naratif ohonynt yn endemig mewn barddoniaeth, dramâu a ffuglen. Fy ymateb cychwynnol (rhyw bum mlynedd ar hugain yn ôl) oedd datblygu modiwl i gyflwyno’r gweithiau hynafol, ac rwyf wedi addysgu fersiwn o fodiwl o’r fath byth ers hynny. Roeddwn bob amser yn meddwl yr hoffwn gynhyrchu llyfr yn seiliedig ar y deunyddiau addysgu, ond roedd yn dasg enfawr. Ychydig flynyddoedd yn ôl, teimlais o'r diwedd fod gennyf ddigon o ddeunydd yn ei le. Roedd y sylweddoliad hwnnw'n cyd-daro â chyfnod clo cyntaf Covid, a dyna pryd y dechreuais roi’r cyfan at ei gilydd.
Sut mae mythau hynafol wedi siapio diwylliant y Gorllewin a naratifau modern?
Mae hynny'n gwestiwn enfawr a fy llyfr yn ei gyfanrwydd yw'r ateb gorau y gallaf ei roi. Yn gryno: gwnaeth mythau beiblaidd y creu, y cwymp a’r brynedigaeth roi i ddiwylliant y Gorllewin ei drefn grefyddol, foesol ac ysbrydol. Mae’r straeon sy’n cael eu hadrodd yn y Beibl wrth wraidd systemau cyfreithiol y gorllewin, trefniadaeth sifil ac addysg, yn ogystal ag arferion diwylliannol fel priodas, enwi, perthnasoedd teuluol, gwyliau a defodau angladd. Mae ein celfyddydau, hefyd, wedi cael eu ffurf a'u testun gan straeon beiblaidd yn ogystal â'r rhai a ddeilliodd o'r byd clasurol. Er nad ydynt mor adnabyddus ag y buont, y chwedlau hynafol hyn yw'r system wreiddiau ddiwylliannol sy'n bwydo llenyddiaeth fodern, sinema a maes cynhyrchu gemau.
Yn eich llyfr, rydych chi'n cymryd golwg gymharol ar straeon cyn-fodern. Allwch chi rannu rhai cysylltiadau neu debygrwydd syfrdanol y gwnaethoch chi eu darganfod rhwng chwedlau hynafol a straeon modern?
Yn ddiweddar cawsom ein brawychu gan y ffordd gywilyddus y mae cwmni Swyddfa’r Post wedi trin ei staff dros nifer o flynyddoedd, a’i gwrthwynebiad i bob ymgais i amlygu ei gamwedd ac i ddigolledu ei ddioddefwyr. Yng Nghainc Gyntaf y Mabinogi darllenwn am driniaeth anghyfiawn Rhiannon, a gyhuddwyd ar gam o ladd ei phlentyn ei hun a’i chosbi am drosedd na chyflawnodd. Mae hyn yn ei gwneud yn enghraifft o'r 'wraig a gamgyhuddir' - ffigwr sy'n ymddangos mewn llawer o chwedlau o bob rhan o Ewrop. Mae'r ffaith bod straeon o'r fath mor gyffredin yn awgrymu bod pobl bob amser wedi cael eu dychryn gan gyhuddiad celwyddog a chosb anghyfiawn. Mae'n thema y mae stori feiblaidd Job yn ymdrin â hi hefyd. Mae Llyfr Job yn archwiliad heb ei ail o'r pwnc, gan archwilio'n fanwl iawn y cwestiwn cythryblus ynghylch pam mae pobl ddiniwed yn dioddef. Gobeithiaf y bydd Paula Vennells yn ei ddarllen ryw ddydd.
Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu wrth gyflwyno mythau hynafol i gynulleidfa fodern, a sut wnaethoch chi eu goresgyn?
Efallai mai’r broblem fwyaf dwys yw nad oes gennym ni fynediad i’r ffordd roedd ein hynafiaid yn deall y byd na hwy eu hunain. Roeddent yn byw mewn byd a oedd, ym mhob ffordd bron, yn anesboniadwy. Gall gwyddoniaeth egluro’r wawr a’r machlud, gall gynnig diagnosis i ni pan fyddwn yn sâl, gall esbonio'r achosion pan fydd cnydau'n methu, gall ddweud wrthym pam fod afalau'n cwympo i'r llawr yn hytrach nag yn arnofio ymaith. Ni allwn wybod sut beth oedd byw heb y fath wybodaeth. Ond gallwn ddeall bod gan straeon y pŵer i wneud y byd yn ddealladwy ac nad yw hynny wedi newid ers cychwyn gwareiddiad. Er y gall gwyddoniaeth efallai ddweud wrthym pam y bu farw ein hanwylyd, ni all ein helpu i ymdopi â chanlyniadau emosiynol ein profedigaeth. Wrth ddarllen am Gilgamesh a marwolaeth ei ffrind agosaf, Enkidu, (yn Arwrgerdd Gilgamesh a ysgrifennwyd 4,000 o flynyddoedd yn ôl) cawn ddysgu mwy am golled a marwoldeb nag y gallai gwyddoniaeth erioed ei egluro. I’r gwrthwyneb, efallai nad ydym yn gwybod sut deimlad oedd edrych ar y machlud a chael ein syfrdanu gan yr hyn oedd yn digwydd a pham, ond rydym yn gwybod sut beth yw bod yn ofnus, yn ansicr o’r dyfodol, neu gael ein drysu gan yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas. Mae straeon hynafol yn ein cysylltu â chyfyng-gyngor, teimladau, dyheadau ac ofnau dynol arhosol a gall hynny, yn ei dro, gynnig cipolwg i ni ar yr hen fyd yn ogystal ag ar ein profiad ein hunain.
A allwch chi rannu unrhyw ddealltwriaeth o'ch llyfr ar sut y gall mythau hynafol ein helpu i ddeall materion cymdeithasol a diwylliannol cyfoes?
Oherwydd ei fuddsoddiad mewn syniadau hen ffasiwn a gwleidyddol beryglus (fel brenhiniaeth, patriarchaeth a rhagfarn ethnig), caiff mytholeg ei thrin ag amheuaeth fawr gan athronwyr a beirniaid modern. Gall ei hail-ddarllen heddiw ac ystyried y ffyrdd y mae awduron, gwneuthurwyr ffilmiau a chynhyrchwyr gemau yn ei defnyddio, ein rhybuddio am effeithiau niweidiol posibl rhai cynyrchiadau diwylliannol: y modd y maent yn gwneud trais arfog yn hudolus, yn hyrwyddo gwerthoedd rhagfarnllyd ac yn normaleiddio ymddygiadau ystrydebol. Ar y llaw arall, mae ymwneud â straeon parhaus sy’n dod â materion dwys i’r amlwg, fel y berthynas rhwng pobl a’u hamgylchedd, amser, marwoldeb a thrawsnewid diwylliannol, yn ein hatgoffa o’r rôl bwysig y mae naratifau wedi’i chwarae erioed wrth ein helpu i ddeall ein hunain a’n byd.
A allwch chi rannu enghraifft o fyth o'ch llyfr sy'n cyd-daro’n arbennig â chi, ac esbonio pam?
Rwyf wrth fy modd â'r holl straeon rwy’n eu trafod yn y llyfr, ond mae'n debyg mai chwedlau'r Mabinogi sy'n golygu fwyaf i mi nawr oherwydd eu tarddiad Cymreig. Nid un stori benodol sy’n fy nghyfareddu, ond y modd y mae’r Pedair Cainc yn plethu digwyddiadau a chymeriadau mewn patrymau cain a chymhleth sy’n ymdebygu i glymwaith Celtaidd. Unwaith i mi ddechrau gweld y patrymau, fe wnaeth fy helpu i ddeall sut a pham mae fy mywyd yn gysylltiedig â bywyd pobl o'm cwmpas. Nid yw beth bynnag a wnaf i a beth bynnag sy'n digwydd i mi byth yn fater o fy mhryderon neu fy obsesiynau fy hun: mae fy mywyd wedi'i gydblethu'n annatod â bywydau pobl eraill, a bywydau pobl eraill â’m bywyd i. Mae'r canfyddiad hwnnw ar yr un pryd yn gysur ac yn feichus: mae'n fy ngwneud yn rhan o fywyd sy'n mynd y tu hwnt i fy mywyd fy hun, ond sydd hefyd yn fy ngwneud yn gyfrifol am eraill ac i eraill. Yn y Bedwaredd Gainc, er enghraifft, mae Gwydion a Gilfaethwy yn cynllwyno i dreisio merch ifanc o'r enw Goewin, ac yn gweithredu ar hynny. Caiff ei ddangos bod hyn yn effeithio nid yn unig arnynt hwy eu hunain a'u dioddefwr, ond bod i’r weithred ganlyniadau i gannoedd o fywydau ar draws dwy deyrnas. Mae'n wers lesol am bwysigrwydd gweithredu’n foesegol a gwneud penderfyniadau’n gymunedol.
Mae eich ymchwil yn canolbwyntio ar theori ac ymarfer dehongli. Sut mae'r safbwynt hwn yn dylanwadu ar eich dadansoddiad o fythau hynafol yn y llyfr?
Un o’r pethau rwy’n ei weld yn rymus am y broses o ddod i delerau â mythau, yw’r sylweddoliad bod gwreiddiau pob ymdrech ddeallusol ddynol i’w canfod yn y straeon hynny a’u hymdrechion i wneud synnwyr o’r byd. Athroniaeth, crefydd, llenyddiaeth, hanes, daearyddiaeth, hyd yn oed y gwyddorau – mae gwreiddiau pob un mewn mytholeg. Mae hynny oherwydd bod mytholeg yn air arall am ddehongli. Neu, o leiaf, am y ffurf gynharaf ar ddehongli: darllen ffenomenau naturiol, deall y perthnasoedd rhyngddynt, ac asesu eu heffeithiau ar fywyd dynol. Yn y broses o ddarllen mythau a’r naratifau y maent yn chwarae rhan flaenllaw ynddynt, rydym yn treiddio i lawr i hanfodion gwneud synnwyr, gan arsylwi ar y symudiadau creu patrymau a ddefnyddiodd ein cyndeidiau hynafol i drefnu a cheisio rheoli eu hamgylchedd. Mae technegau modern yn fwy datblygedig, ac mae ein gwybodaeth wedi ehangu'n fawr, ond mae'r un ysgogiad i archwilio, cyfosod, trefnu, cymathu ac egluro yn bywiogi mytholeg a phob ffurf ar ymholi modern. Fel rhywun sydd wedi meddwl ac ysgrifennu cryn dipyn am ddehongli, rwy’n cael fy nenu, efallai’n anochel, at destunau sy’n darlunio ymdrechion cynharaf y ddynoliaeth i osod trefn ac ystyr ar yr hyn a welsant ac a brofwyd ganddynt.
Mae Kevin yn lansio ei lyfr ddydd Iau 12 Medi, ar ein campws yng Nghaerdydd ac ar-lein, o 6.30pm. I archebu eich lle, cliciwch yma.