High Contrast, DJ a Chynhyrchydd cerddoriaeth o Gymru, i gynnal dosbarth meistr yn PDC

12 Medi, 2024

Eisteddodd y cynhyrchydd cerddoriaeth High Contrast mewn cadair lleuad yn ei stiwdio

Bydd High Contrast – un o artistiaid drwm a bas mwyaf cynhyrchiol y DU – yn cynnal dosbarth meistr digidol gyda Phrifysgol De Cymru yn ddiweddarach y mis hwn fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd (GDGC).

Wedi'i eni a'i fagu yng Nghaerdydd, mae taith High Contrast, o selogyn ifanc dros gerddoriaeth i DJ a chynhyrchydd sy’n enwog yn rhyngwladol, wedi ysbrydoli nifer o bobl eraill i’w ganlyn, diolch i'w sain unigryw sy’n llawn alawon emosiynol, rhythmau cymhleth a thechnegau cynhyrchu manwl.

Bydd y dosbarth meistr mewn cynhyrchu cerddoriaeth yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 28 Medi am 4.30pm, ar Gampws Caerdydd PDC. Mae'r digwyddiad digidol, sy'n cael ei ffrydio'n fyw o stiwdio High Contrast i brif ofod theatr y Brifysgol, yn cynnig profiad trochi a rhyngweithiad â'r dyn ei hun. Mae yna hefyd opsiwn i ymuno â'r dosbarth meistr ar-lein.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosiadau byw gan High Contrast (Lincoln Barrett yw ei enw go iawn) sy’n cyfuno hen dechnoleg gyda thechnegau cynhyrchu modern, yn ogystal â chyfleoedd i ddysgu am y broses o greu ei albwm diweddaraf, a fydd yn cael ei ryddhau ym mis Hydref, a pherfformiad byw o un o'r traciau newydd.

Bydd sesiwn holi ac ateb hefyd lle gallwch holi am ei broses greadigol, ei ddulliau cynhyrchu a llawer mwy.

Mae tocynnau ar gyfer dosbarth meistr High Contrast yn costio £5 yn unig neu gallwch gofrestru i ymuno â'r ffrwd byw am ddim. I neilltuo eich lle, ewch i Eventbrite.

Bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd tair wythnos o hyd yn cael ei lansio ar Gampws Caerdydd PDC y noson flaenorol (dydd Gwener 27 Medi) a'i nod yw denu 20,000 o ymwelwyr i'r ddinas trwy ddathlu artistiaid eiconig a chroesawu talent sy'n dod i'r amlwg.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, nod yr ŵyl yw dathlu artistiaid sy'n gwthio ffiniau cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth, gyda digwyddiadau cyffrous, sgyrsiau am y diwydiant cerddoriaeth a gosodweithiau syfrdanol mewn lleoliadau ledled y ddinas.

Mae'r rhestr o berfformwyr yn cynnwys artistiaid electronig arloesol, Leftfield ac Orbital, Mrs Lauryn Hill a The Fugees, Kneecap - y triawd rap Gwyddelig sy'n gwthio ffiniau genres, a'r bardd jazz a'r sacsoffonydd Alabaster DePlume, ymhlith llawer mwy.

Mae GDGC yn rhedeg tan ddydd Sul 20 Hydref, ac mae hefyd yn cynnwys Gwobr Cerddoriaeth Cymru, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar 8 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gŵyl gelfyddydau ryngwladol Llais (9-13 Hydref), a gŵyl gerdd aml-leoliad Sŵn (17-19 Hydref).

Dywedodd Lincoln Barrett, a elwir hefyd yn High Contrast: "Rwy'n falch iawn o fod yn cymryd rhan yng Ngŵyl Gerdd Dinas Caerdydd a chael y cyfle i roi rhywfaint o fewnwelediad i'm proses greadigol. Ar ôl bod yn y diwydiant cerddoriaeth am 25 mlynedd hyd yn hyn, rwy'n credu ei bod yn bwysig rhannu gwybodaeth gyda'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr cerddoriaeth, artistiaid, ac unrhyw un sy'n chwilfrydig am sut mae cerddoriaeth drwm a bas yn cael ei chreu!"

Ychwanegodd Lucy Squire, Pennaeth Cerdd a Drama PDC: "Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cynrychioli penllanw tair blynedd o gynllunio a pharatoi dwys gan Gyngor Caerdydd a'i Fwrdd Cerdd, gan adeiladu ar Adroddiad Sound Diplomacy 2019 i sefydlu Caerdydd yn gadarn fel Dinas Gerdd – y gyntaf o'i math yn y DU.

"Mae'n anrhydedd i ni gynnal y dosbarth meistr unigryw hwn gyda High Contrast yn PDC o fewn y rhaglen, ac rydym yn gyffrous am y cyfle y mae'n ei gyflwyno i ddenu cynulleidfa fyd-eang o selogion dros gerddoriaeth."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Cerddoriaeth yw calon Caerdydd ac mae’r Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gyntaf yn rhan allweddol o'n strategaeth gerdd i gefnogi pob rhan o ecosystem cerdd y ddinas - o gerddorion i gynhyrchwyr, hyrwyddwyr, lleoliadau a thu hwnt.

"Bydd y ddinas gyfan yn fyw gyda cherddoriaeth drwy gydol yr ŵyl. Mae'n addo bod yn dair wythnos arbennig iawn. Mae cerddoriaeth yn ffordd mor bwerus o ddod â phobl at ei gilydd ac efallai nawr yn fwy nag erioed, mae'r ymdeimlad hwnnw o gydlyniad cymdeithasol yn bwysig iawn."

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae'r ŵyl gerdd newydd sbon hon yn wych i Gaerdydd ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi'r ŵyl ac elfennau o sîn gerddoriaeth y ddinas dros y blynyddoedd. Mae'n rhestr anhygoel o berfformwyr sy'n cynnwys pob math o genres cerddorol a fydd wir yn arddangos ystod amrywiol o leoliadau cerddoriaeth y ddinas."

Ar gyfer y rhestr lawn o berfformwyr Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd a gwybodaeth am docynnau, ewch i: https://dinasgerddcaerdydd.cymru