Libanus: lladd Hassan Nasrallah yn gadael Hezbollah heb arweinydd ac yn fregus

30 Medi, 2024

Portread o Ysgrifennydd Cyffredinol Hezbollah, ar wal yn nhref hanesyddol Baalbek.

Mewn erthygl ar gyfer The Conversation, mae Ori Wertman, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru, yn trafod llofruddiaeth Hassan Nasrallah a’r goblygiadau i’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.

Mae llofruddiaeth pennaeth Hezbollah, Hassan Nasrallah, mewn cyrchfan awyr gan Israel ar 28 Medi, yn ergyd enfawr - nid yn unig i Hezbollah, ond hefyd i Iran, sydd wedi colli ei phrif gynghreiriad yn y Dwyrain Canol.

Dros y dyddiau diwethaf, mae'r gwrthdaro rhwng Israel a Hezbollah wedi codi i'w lefel fwyaf dwys ers diwedd ail ryfel Libanus yn haf 2006. Y diwrnod ar ôl ymosodiad terfysgol enbyd Hamas ar 7 Hydref, pan gafodd 1,200 o Israeliaid eu lladd - lawer ohonynt yn sifiliaid a lofruddiwyd yn eu cartrefi mewn trefi ger y ffin â Gaza neu yng ngŵyl gerddoriaeth Nova gerllaw – agorodd Hezbollah ffrynt arall yn erbyn Israel.

Gwnaeth Hezbollah, sydd wedi'u dynodi gan lywodraethau'r UD a'r DU fel sefydliad terfysgol, fynegi cefnogaeth ac undod â Hamas yn ddi-oed a dechreuodd lansio rocedi ar unwaith ar dargedau sifil a milwrol yng ngogledd Israel.

Gan ofni y gallai Hezbollah gynnal cyrch tebyg yng Ngalilea, gan arwain at gyflafan o'r boblogaeth sifil Iddewig, fe wnaeth llywodraeth Israel symud tua 100,000 o ddinasyddion oedd yn byw ger y ffin â Libanus. Mae'r bobl hyn bellach wedi eu dadleoli o'u cartrefi ers blwyddyn.

Tan yn ddiweddar, roedd yr ymladd rhwng y gwahanol ochrau’n gymharol isel o ran ei ddwyster. Mae Hezbollah wedi lansio miloedd o rocedi a dronau ar dargedau sifil a milwrol Israel. Mae'r rhain wedi bod yng ngogledd y wlad yn bennaf, gan ladd dwsinau o Israeliaid ers Hydref 2023. Mae'r IDF wedi ymateb gyda chyrchoedd awyr a thanio magnelau yn erbyn targedau Hezbollah yn Libanus, gan gynnwys mannau storio rocedi a seilwaith milwrol eraill. Ond i raddau, roedd yr ymladd yn cael ei ystyried yn is na'r lefel a allai arwain at ryfel llawn rhwng Israel a Hezbollah.

Ym mis Gorffennaf, lladdodd ymosodiad roced gan Hezbollah 12 o blant mewn cae pêl-droed mewn mhentref o bobl Druze, sef Majdal Shams, yn Ucheldiroedd Golan. Mewn ymateb, dridiau yn ddiweddarach, lladdodd Israel prif bennaeth Hezbollah, pennaeth eu huned strategol, Fuad Shukr, mewn cyrch awyr yn Beirut.

Mae'r trais wedi cynyddu'n raddol ers hynny. Ar 25 Awst, wrth i Hezbollah baratoi ymosodiad roced mawr ar ogledd a chanol Israel, gwnaeth yr IDF geisio achub y blaen a lansio cyrch yn erbyn lanswyr taflegrau Hezbollah a oedd ar fin taro targedau yn Israel. Yng nghanol mis Medi, cyhoeddodd cabinet diogelwch Israel eu bod wedi ychwanegu dychwelyd trigolion sydd wedi'u dadleoli o ogledd y wlad i'w nodau rhyfel.

Ddyddiau yn ddiweddarach, mewn ymdgyrch hynod gymhleth ffrwydrodd miloedd o beiriannau galw bach (‘pagers’) Hezbollah, gan ladd dwsinau a chlwyfo miloedd o actifyddion  Hezbollah. Y diwrnod canlynol targedwyd rhwydwaith Hezbollah o declynnau ‘walkie talkie’ yn yr un modd. Nid yw Israel wedi hawlio cyfrifoldeb dros y naill ddigwyddiad na’r llall, ond ni ellir gwadu eu bod wedi achosi niwed sylweddol i sustemau gorchymyn a rheoli Hezbollah.

Ddeuddydd wedi hynny, ar 20 Medi, lladdwyd olynydd Shukr, Ibrahim Akil, mewn cyrch awyr gan Israel ar faestref Dahieh yn Beirut, ynghyd â dwsinau o uwch reolwyr llu Radwan elît Hezbollah.

Ymgyrch Saethau’r Gogledd

Ond megis rhagarweiniad i Ymgyrch Saethau’r Gogledd a ddechreuodd ar 23 Medi oedd hyn oll. Ymosododd llu awyr Israel ar  1,600 o dargedau Hezbollah, gan gynnwys miloedd o lanswyr rocedi a thaflegrau oedd wedi'u storio ymhlith y boblogaeth sifil ledled Libanus.

Mae Hezbollah wedi ymateb trwy saethu rocedi at Israel, y rhan fwyaf ohonynt  wedi'u hysgubo ymaith gan systemau amddiffyn awyr Israel. Amcangyfrifir bod gan Hezbollah arsenal o 150,000 o rocedi, gan gynnwys taflegrau amrediad canolig a hir. Mae llawer o'r rhain bellach wedi cael eu diddymu gan gyrchoedd awyr Israel. Mae gan Hezbollah arfau a dronau o hyd, y gellir eu harwain yn fanwl gywir at dargedau, ond mae ymosodiadau diweddar Israel wedi diddymu llawer o systemau gorchymyn a rheoli Hezbollah ac wedi amharu’n fawr ar eu cydbwysedd gweithredol. Mae llofruddiaethau llawer o uwch arweinwyr Hezbollah – a Nasrallah ei hun erbyn hyn – i bob pwrpas, wedi dinistrio cadwyn orchymyn filwrol y grŵp.

Hyd yn hyn ni fu unrhyw arwydd oddi wrth Tehran bod Iran yn bwriadu ymyrryd yn filwrol i helpu Hezbollah. Mae hyn yn esgor ar gwestiynau difrifol o ran manteision gweithredu fel un o brif brocsïaid y wlad yn y rhanbarth. Yn y cyd-destun hwn, mae’n siŵr bod llawer yn Beirut, Damascus, Sana'a a Gaza bellach yn gofyn iddyn nhw eu  hunain a oes gwerth bod yn genhadon dros Iran, os yw'r wlad honno’n eu gadael ar eu pennau eu hunain i wynebu Israel.

Cadoediad yn annhebygol?

O ganlyniad, y prif obaith i Hezbollah – a Libanus ei hun, y mae Hezbollah wedi ymsefydlu mor gadarn yn ei strwythurau economaidd a gwleidyddol – yw y bydd y gymuned ryngwladol yn gorfodi cadoediad ar y ddwy ochr mewn ymdrech i osgoi hyn rhag tyfu’n wrthdaro rhanbarthol ehangach. Mae'r Unol Daleithiau a Ffrainc wedi galw am gadoediad 21 diwrnod. Ond mae'n ymddangos, fel gyda’u brwydr yn erbyn Hamas yn Gaza, fod Israel yn benderfynol o barhau â'r ymgyrch filwrol yn erbyn Hezbollah.

Mae'r byd bellach yn aros i weld a fydd Israel yn anfon milwyr i Libanus. Eisoes mae miloedd o ddinasyddion o dde'r wlad wedi ffoi i'r gogledd. Ond er gwaethaf datganiad gan bennaeth staff yr IDF, yr Uwch Gadfridog Herzi Halevi, bod yr IDF yn paratoi i lansio ymgyrch ar dir Libanus, nid yw'n sicr o gwbl fod Israel eisiau dychwelyd i dir Libanus.

Ym mis Mai 2000 tynnodd yr IDF yn ôl o dde Libanus i'r ffin ryngwladol ar ôl 18 mlynedd o feddiant, a gwnaeth yr un peth yn 2006 yn unol â phenderfyniad 1701 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Mae posibilrwydd real hefyd, o ystyried llwyddiant ei ymgyrch cyrchoedd awyr yn  niwtraleiddio'r bygythiad milwrol gan Hezbollah, na fydd penderfyniad i ymladd ar lawr gwlad am y tro.

Mae'r Unol Daleithiau a gwledydd eraill, gan gynnwys y DU, wedi annog Israel i oedi cynlluniau i oresgyn Libanus, a chytuno ar gadoediad. Mae'n golygu dewis anodd i weinyddiaeth Biden, sy'n ymwybodol iawn o'r angen i gadw pleidleiswyr Iddewig ac Arabaidd yn gefn iddi. Ond mae'n anodd credu y bydd Biden, yn enwedig yn ystod ymgyrch etholiadol ac yng ngoleuni'r berthynas arbennig rhwng y gwledydd, yn rhoi pwysau ar Jerwsalem i atal ei brwydr yn erbyn terfysgaeth brocsi Iran.

 

Gan Ori Wertman, Cymrawd Ymchwil, Prifysgol De Cymru

Mae'r erthygl hon wedi'i hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. Y farn a fynegir yn erthyglau The Conversation yw barn yr awdur(on) ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol De Cymru.