Myfyriwr hyfforddi pêl-droed i chwarae dros ei gwlad yng Nghwpan y Byd ar gyfer y rhai sydd wedi colli rhan o’u corff

17 Medi, 2024

Delwedd o Tayla ar gae gyda phĂȘl-droed ar y ddaear. Mae hi'n gwisgo cit pĂȘl-droed du ac yn defnyddio baglau.

Mae Tayla Page, sy’n astudio am radd mewn Hyfforddi a Datblygu Pêl-droed Cymunedol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), wedi’i dewis i gynrychioli Lloegr yng Nghwpan Pêl-droed y Byd sydd ar ddod ar gyfer y rhai sydd wedi colli rhan o’u corff. Bydd y twrnamaint, sydd i'w gynnal ym mis Tachwedd yng Ngholombia, yn gweld Tayla yn cystadlu ar lwyfan y byd.

Dechreuodd taith Tayla i bêl-droed yn ifanc, wedi'i hysbrydoli gan gariad ei thad at y gamp. Datblygodd angerdd am bêl-droed yn gyflym, gan chwarae'n rheolaidd wrth dyfu i fyny yn Stevenage.

Mae Tayla wedi parhau i fod yn ymroddedig i'w champ ac mae'n astudio yng Nghlwb Pêl-droed Wolverhampton gyda chyfnodau preswyl ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hi’n hyfforddi gyda’r tîm pêl-droed cenedlaethol ar gyfer y rhai sydd wedi colli rhan o’u corff yng Ngholeg Reaseheath yn Nantwich, sef ‘the home of amputee football ‘. Daeth ei dewis ar gyfer y tîm cenedlaethol ar ôl iddi gael ei sylwi am ei rhan weithredol mewn hyfforddi a’i rôl fel buddiolwr Sefydliad Richard Whitehead.

Mae gan Tayla goes brosthetig ond mae pêl-droed ar gyfer y rhai sydd wedi colli rhan o'u corff yn cael ei chwarae ar faglau, rhywbeth roedd Tayla a'i meddyg yn wyliadwrus ohono oherwydd ei chyflwr penodol, ond fe addasodd yn gyflym. Meddai: “Roeddwn i wrth fy modd. Y tro cyntaf i mi chwarae, roeddwn i wrth fy modd ac yn gwenu trwy'r amser.”

I Tayla, mae cael eich dewis i gynrychioli Lloegr yn gwireddu breuddwyd.

"Mae'n golygu cymaint ei fod yn anodd ei roi mewn geiriau. Mae cynrychioli eich gwlad yn golygu popeth," meddai.

"Rydych chi'n dangos i bawb beth rydych chi wedi'ch gwneud."

Yn ogystal â'i hastudiaethau a'i gyrfa chwarae, mae Tayla yn angerddol am hyfforddi, yn enwedig mewn pêl-droed anabledd. Ar hyn o bryd mae’n hyfforddi rhai dan 12, dan 16, ac oedolion, ac yn breuddwydio am ddilyn gyrfa fel Swyddog Cymuned a Chydlyniant neu hyfforddwr academi ar ôl graddio.

Mae penderfyniad Tayla yn amlwg, nid yn unig yn ei chyflawniadau athletaidd ond hefyd yn ei dyfalbarhad yn dilyn llawdriniaeth ddiweddar sydd wedi cyfyngu ar ei symudedd dros dro. Er gwaethaf yr anhawster, mae Tayla yn parhau i fod yn bositif ac yn canolbwyntio ar ei hadferiad, yn awyddus i ddychwelyd i'w ffordd egnïol o fyw a chyfrannu ar y cae ac oddi arno.