Wythnos Anabledd Dysgu 2024 | “Roeddwn i am fod y Nyrs Anabledd Dysgu roedd fy mab yn ei haeddu”

19 Mehefin, 2024

Person yn sefyll o flaen drws ysbyty

Arferai Teri Webster, o’r Coed Duon, weithio i Nwy Prydain yn cynnig hyfforddiant i staff canolfan alwadau, ond penderfynodd newid gyrfa’n llwyr a dod yn Nyrs Anabledd Dysgu, wedi’i hysbrydoli gan nyrsys oedd wedi gofalu am ei mab.

Cafodd mab 15 oed Teri ddiagnosis o anhwylder proses synhwyraidd, awtistiaeth ac oedi datblygiadol cyffredinol cyn ei ben-blwydd yn dair oed. Gadawodd Teri ei gwaith er mwyn bod yn ofalwr llawn amser iddo. Ers hynny, cafodd ddiagnosis ychwanegol o anabledd dysgu ac yn ddiweddar mae wedi symud i gael gofal preswyl.

Meddai: “Wyddwn i ddim o’r iaith ynghylch anableddau dysgu ac awtistiaeth cyn iddo gael ei eni. Sylwais nad oedd yn cyrraedd ei gerrig milltir ac yn sydyn cefais fy moddi gan y byd newydd sbon hwn o labeli, diagnosau, therapïau, a thimau gofal iechyd. Ers hynny, rwyf wedi symud drwy’r system iechyd a gofal cymdeithasol ac wedi cael llawer o wybodaeth.

“Wrth i fy mab dyfu’n hŷn, sylweddolais na fyddwn yn y pendraw yn gallu ateb ei anghenion yn y cartref. Mae gen i fab arall ac mae wedi bod yn newid mawr i ni i gyd, ond mae wedi bod er gwell ac mae pawb yn ffynnu nawr.”

Yn hytrach na dychwelyd at Nwy Prydain, penderfynodd Teri ddefnyddio ei gwybodaeth a’i phrofiad i astudio Nyrsio Anabledd Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru (PDC). Penderfynodd yn benodol i wneud y cwrs hwn am ei bod wedi gweld stori ar-lein am nyrs a raddiodd yn PDC a fu’n gweithio gyda’i mab.

“Yr eiliad y gwelais i’r stori honno gwyddwn mai dyma oeddwn am ei wneud. Roedd yn benderfyniad hawdd i mi. Roeddwn i am fod y Nyrs Anabledd Dysgu roedd fy mab yn ei haeddu.” meddai.

“Roedd yn bendant yn heriol. Roeddwn yn jyglo gofal plant, lleoliadau gwaith ac aseiniadau, ond roedd fy angerdd dros weithio yn y maes hwn yn fy nghynnal i.

“Mae bod yn ofalwr yn gallu bod yn ynysig a rhoddodd yr astudio rhyw annibyniaeth i mi. Ar adeg pan oeddwn yn cymryd cam yn ôl o ofalu llawn amser a chefnogi fy mab, fy nod oedd gwneud rhywbeth, nad oedd o fudd i mi yn unig, ond a fyddai hefyd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill – helpu pobl a fu mewn sefyllfa debyg i mi.”

Bellach yn nyrs gymwysedig, bydd Teri yn graddio o PDC ym mis Gorffennaf ac mae wedi sicrhau swydd, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn y Gwasanaeth Lles Emosiynol a Iechyd Meddwl.