Bwmerangio: pam mae rhai oedolion yn cadw cysylltiad agos â chartref eu rhieni - a sut i gadw'r heddwch
9 Rhagfyr, 2024
Mewn erthygl ar gyfer The Conversation, mae Sofia Christidi, Darlithydd Marchnata ym Mhrifysgol De Cymru, ac Amy Yau, Uwch Ddarlithydd Marchnata ym Mhrifysgol Caerdydd, yn archwilio’r term ‘bwmerangio’, sy’n cyfeirio at pan fydd oedolyn yn symud yn ôl i mewn gyda’i rieni ar ôl byw yn annibynnol.
Dychmygwch hyn: mae dyn yn ei bedwardegau yn dadbacio ei siwtces gwyliau, dim ond i ddod o hyd i rag cyfan o gig oen a phastai gaws enfawr wedi'u pacio’n ofalus ynddo gan ei fam.
I lawer o blant sy'n oedolion, fel y rhai a gymerodd ran yn ein hastudiaeth, mae'r profiad o gael gofal rhiant ystyrlon ond digymell yn annwyl, ond eto’n gallu gwylltio rhywun. Ac mae'n symbol o densiwn dyfnach mewn deinameg teuluol modern.
Mae ein hymchwil yn taflu goleuni ar y tensiynau hyn, ac yn cynnig strategaethau ymarferol i deuluoedd lywio’r ddeinameg esblygol yma.
Heddiw, mae arwyddion traddodiadol oedolaeth – symud allan, ennill annibyniaeth ariannol a dechrau teulu – yn destun oedi cynyddol neu’n anghyraeddadwy i oedolion ifanc. Roedd cyfrifiad 2021 y DU wedi canfod bod 4.9 miliwn o blant sy’n oedolion (pawb a ystyrir yn 18 oed a hŷn ac yn “blentyn nad yw’n ddibynnol”) yn byw gyda’u rhieni, cynnydd o 14.7% o’i gymharu â degawd ynghynt.
Mewn achosion eraill, mae plant sy'n oedolion yn parhau i fod wedi'u cysylltu'n agos â chartref y rhieni, hyd yn oed os ydynt yn byw yn rhywle arall, gan ddibynnu ar gymorth parhaus. Mae’r ffenomen hon, y cyfeirir ati’n aml fel “bwmerangio”, yn ail-lunio’r berthynas rhwng rhiant a phlentyn mewn ffyrdd dwys, gan niwlio’r ffiniau rhwng dibyniaeth ac annibyniaeth.
Mae’r syniad o “hedfan y nyth” fel cam clir i oedolaeth yn prysur fynd yn hen ffasiwn. Mae costau tai cynyddol, cyflogau disymud a dyled myfyrwyr yn golygu na all llawer o oedolion ifanc fforddio annibyniaeth ariannol. Ar yr un pryd, mae disgwyliad oes cynyddol yn galluogi rhieni – ac weithiau’n rhoi pwysau arnynt – i ddarparu cymorth estynedig, o gymorth ariannol i brydau wedi’u coginio.
Mewn diwylliannau cyfunolaidd, sy'n blaenoriaethu anghenion grŵp neu gymdeithas dros anghenion yr unigolyn, mae cyfranogiad estynedig rhieni yn aml yn fwy cyffredin. Ond hyd yn oed mewn cymdeithasau unigolyddol, mae heriau economi heddiw wedi lleddfu’r ffiniau rhwng cenedlaethau. Er bod llawer o blant sy'n oedolion yn gwerthfawrogi cymorth gan rieni, gall greu llinellau aneglur pan ddaw i ymreolaeth. Gall hyn arwain at densiynau perthynol.
Ein hymchwil
Er mwyn archwilio’r tensiynau hyn, fe wnaethom gynnal 17 cyfweliad manwl ac astudio lluniau a dynnwyd gan y cyfranogwyr o’u sefyllfaoedd eu hunain. Roeddem am ddeall cymhlethdodau plant sy'n oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain ond a oedd yn cael cymorth parhaus gan rieni.
Nodwyd pedair ffynhonnell gyson o densiwn gennym, mewn teuluoedd lle mae plant sy'n oedolion yn dibynnu ar gymorth parhaus gan rieni.
Yn gyntaf, ceir y tensiwn a ddisgrifiwn fel y “porth ymyrraeth”. Gall gweithredoedd gofal, fel cymorth ariannol neu goginio prydau, gael eu dehongli gan blant sy'n oedolion fel ymdrechion cynnil gan rieni i ddylanwadu ar eu penderfyniadau bywyd. Mae hyn yn aml yn cael ei weld fel ymddygiad rheolaethol, a gall arwain at wrthdaro dros ymreolaeth ac annibyniaeth.
Yn ail, mae arferion a chonfensiynau a osodir yn gallu creu anghytundeb. Mae byw o dan yr un to â rhiant – neu gadw at eu rheolau – yn aml yn golygu cydymffurfio â normau sefydledig y cartref, fel amser bwyd neu arferion glanhau. Gall hyn lesteirio gallu plant sy’n oedolion i ffurfio perthnasoedd newydd neu sefydlu trefn, gan eu gadael yn teimlo’n rhwystredig.
Yn drydydd, gall plant sy'n oedolion deimlo'n gaeth a’u bod wedi’u gadael yn nhir neb, pan fo rhieni'n ymwneud yn ormodol â diwallu eu hanghenion bob dydd, fel darparu prydau bwyd yn gyson. Gall y lefel hon o ofal eu gadael yn teimlo fel plentyn eto, gan ei gwneud yn anoddach camu’n llawn i oedolaeth.
Yn bedwerydd, mae'r mater o riant weithiau'n mabwysiadu agwedd “mam sy'n gwybod orau”, gan osod eu hunain fel y rhai mwy gwybodus neu brofiadol. Gall hyn wneud i blant sy'n oedolion deimlo’n rhwystredig, gan eu gadael yn teimlo'n fychan a heb eu gwerthfawrogi’n llawn.
Sut i gael cydbwysedd
Er mwyn lleihau tensiwn a meithrin perthnasoedd iachach, gall teuluoedd fabwysiadu pedair strategaeth ymarferol.
- Ymddieithrio
Gall plant sy'n oedolion fynnu eu hannibyniaeth trwy optio allan o rai mathau o ofal rhieni, fel gwrthod prydau bwyd digymell neu gymorth ariannol. Er gall hyn achosi anghytundeb, gall hefyd helpu i sefydlu ffiniau.
- Derbyniad amodol
Gall trafod ffiniau ynghylch pryd a sut y cynigir cymorth helpu i gadw ymreolaeth wrth gynnal cysylltiadau teuluol. Er enghraifft, efallai y bydd plentyn sy'n oedolyn yn cytuno i dderbyn cymorth gyda threuliau penodol, ond yn mynnu gwneud ei benderfyniadau ei hun.
- Normaleiddio
Gall defnyddio hiwmor i ail-fframio ymddygiad gormesol rhieni leddfu tensiwn a meithrin gwydnwch emosiynol. Er enghraifft, efallai y bydd plant sy'n oedolion yn ystyried ymddygiad penodol fel nodwedd wahanol sy’n benodol i genhedlaeth neu’n fynegiant diwylliannol o ofal.
- Ailddyfeisio dwyochrog
Yn hytrach nag ail-adrodd cymorth rhieni yn uniongyrchol – er enghraifft, coginio pryd o fwyd i rieni sydd â sgiliau coginio cryf – gall plant sy’n oedolion gynnig cymorth mewn ffyrdd eraill. Gall hyn gynnwys pethau fel dysgu sgiliau newydd i'w rhieni neu fynd â nhw ar dripiau allan, er enghraifft. Mae hyn yn helpu i feithrin parch y naill at y llall ac ymdeimlad o gydbwysedd.
Mae cael plant sy’n oedolion yn ôl yng nghartref y teulu – neu eu dibyniaeth barhaus ar gymorth rhieni – yn ail-lunio’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn oedolyn yn yr 21ain ganrif. Er gall y trefniadau hyn roi straen ar berthnasoedd, maent hefyd yn cynnig cyfleoedd i ail-ddychmygu rolau traddodiadol.
Mae’n ymddangos nad yw bod yn oedolyn bellach yn garreg filltir un-tro ond yn broses sy’n esblygu – ac nid yw hynny o reidrwydd yn beth drwg.
Mae'r erthygl hon wedi'i hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. Y farn a fynegir yn erthyglau The Conversation yw barn yr awdur(on) ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol De Cymru.