Merched Cymru'n hawlio sylw ar ôl cymhwyso ar gyfer Euro 2025 - beth mae hyn yn ei olygu i'r gêm?
18 Rhagfyr, 2024
Robyn Pinder, Darlithydd mewn Hyfforddi Pêl-droed Cymunedol sy'n ysgrifennu yn The Conversation am lwyddiant pêl-droed merched Cymru.
Mae tîm cenedlaethol merched Cymru wedi cymhwyso ar gyfer eu twrnamaint mawr cyntaf sef Pencampwriaethau Ewropeaidd Merched UEFA. Fe wnaeth slogan ymgyrchu’r tîm, "i ni, iddyn nhw, iddi hi", grisialu natur drawsnewidiol y garreg filltir hon - nid yn unig i'r chwaraewyr a'r staff oedd yn rhan o'u buddugoliaeth o 2-1 dros Weriniaeth Iwerddon yn Nulyn, ond ar gyfer dyfodol pêl-droed merched yng Nghymru.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd mawr wedi bod yn y nifer sy’n cefnogi tîm merched Cymru, gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn adrodd bod y nifer sy'n mynychu’r gemau wedi treblu, a’r nifer cyfartalog o fwy na 5,000 y gêm. Mae’r tyfiant gêm y merched i’w weld yn amlwg yn y nifer sy’n mynychu ond mae’n amlwg hefyd ar y cae. Mae’r nifer o fenywod a merched sydd yn cymryd rhan yn y gêm wedi cynyddu 45% ers 2021 - gydag ychydig o dan 16,000 yn chwarae pêl-droed yn ystod tymor 2023-24. Mae'n rhesymol i awgrymu bod perfformiadau'r tîm cenedlaethol wedi cyfrannu at y cynnydd hwn.
Roedd y dorf fwyaf erioed o 16,845 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer cymal cyntaf y gêm ail gyfle yn erbyn y Gwyddelod yn arwydd o'r angerdd cynyddol dros y gamp. Y flwyddyn nesaf, pan fydd y tîm yn mynychu Euro 2025 yn y Swistir, bydd merched ifanc yng Nghymru yn gweld menywod yn cyflawni rhywbeth eithriadol. Mae'r gwelededd hwn yn bwysig. Mae'n dangos i ferched bod eu breuddwydion o chwarae pêl-droed ar y lefel uchaf o fewn eu cyrraedd. Mae llwyddiant ar y lefel uchaf yn aml yn cael effaith ehangach. Bu twf mewn cyfranogiad ar lawr gwlad yn sgil buddugoliaeth Lloegr yn Ewro 2022. Ysbrydolodd ymddangosiad cyntaf Iwerddon yng Nghwpan y Byd Merched FIFA 2023 don o chwaraewyr, hyfforddwyr a swyddogion newydd.
Gall fod yr un mor drawsnewidiol i Gymru hefyd. Gyda mwy o ferched wedi'u hysbrydoli i ymuno â chlybiau a rhieni sy'n awyddus i gefnogi eu huchelgeisiau, rhaid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fanteisio ar y brwdfrydedd cynyddol hwn drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau, hyfforddiant a chyfleoedd.
Mae Euro 2025 yn garreg filltir ym myd chwaraeon a hefyd yn drobwynt ariannol posibl ar gyfer gêm y merched yng Nghymru. Gall mwy o gymorth ariannol helpu i wella cyfleusterau, hyfforddi a llwybrau i chwaraewyr ifanc. Rhaid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fanteisio ar y llwyddiant hwn a sicrhau ei bod yn cynllunio ac yn lansio rhaglenni i gynnal y brwdfrydedd. Mae hyn yn cynnwys llwybrau estynedig ar gyfer chwaraewyr a hyfforddwyr benywaidd, ac integreiddio mwy o fenywod ar bob lefel ym myd pêl-droed.
Arweinyddiaeth
Mae arweinyddiaeth yn hanfodol er mwyn i'r cynnydd fod yn gynaliadwy. Mae penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i beidio llenwi rôl ei chyn-bennaeth pêl-droed menywod a merched, Lowri Roberts, yn codi pryderon. Mae arweinyddiaeth bwrpasol yn hanfodol er mwyn sicrhau tegwch a thwf. Hebddo, mae perygl y bydd gêm y merched yn cael ei gwthio i'r cyrion.
Er bod llwyddiant Menywod Cymru yn amlwg ar y llwyfan rhyngwladol, nid yw’r sefyllfa yng Nghymru wedi datblygu'n ddigonol. Nid oes yr un o chwaraewyr y tîm cenedlaethol yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Adran Cymru ar hyn o bryd, ac mae hyn yn tynnu sylw at y bwlch rhwng pêl-droed llawr gwlad a phêl-droed elitaidd yng Nghymru. Mae cynghrair ddomestig ffyniannus yn allweddol i feithrin talent ac annog chwaraewyr i aros yng Nghymru. Byddai buddsoddi yng nghynghrair Adran Premier yn gwella datblygiad chwaraewyr yn ogystal â dod â phêl-droed o’r safon uchaf yn agosach at gefnogwyr, gan ysbrydoli chwaraewyr ifanc drwy weld modelau rôl yn eu cymunedau lleol.
Mae llwyddiant cynghreiriau fel Uwch Gynghrair Merched Lloegr a Liga F Sbaen yn dangos effaith sylfaen ddomestig gref. Gallai Cymru wneud yr un peth, gan deilwra ei huchelgeisiau i'w hadnoddau wrth anelu at ragoriaeth.
Mae llwyddiant Menywod Cymru i gymhwyso ar gyfer Euro 2025 yn gyflawniad aruthrol, ond dim ond megis dechrau yw hyn. Er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwn, rhaid i awdurdodau pêl-droed Cymru flaenoriaethu datblygu ar lawr gwlad ac elitaidd, gan sicrhau bod y seilwaith yn ei le i gefnogi ton newydd o chwaraewyr.
Gyda'r buddsoddiad, yr arweinyddiaeth a'r weledigaeth gywir, gallai'r foment hanesyddol hon nodi dechrau cyfnod euraidd i bêl-droed merched yng Nghymru - cyfnod lle mae'r freuddwyd o chwarae i Gymru yn dod yn realiti i ferched ar ledled y wlad.
Mae'r erthygl hon wedi'i hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. Y farn a fynegir yn erthyglau The Conversation yw barn yr awdur(on) ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol De Cymru.