Myfyrwyr Hysbysebu yn creu brandio dwyieithog ar gyfer Welsh Brew Tea
4 Rhagfyr, 2024
Mae myfyrwyr hysbysebu ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi helpu i greu dyluniadau dwyieithog ar gyfer Welsh Brew Tea – busnes teuluol sy’n gwerthu 60 miliwn o fagiau te bob blwyddyn.
Gwelodd y prosiect y myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn cael y dasg o gynhyrchu hysbyseb ddwyieithog ar gyfer arosfannau bysiau a hysbysfyrddau ledled Cymru, gan roi profiad iddynt o weithio gyda chleient ar friff dylunio bywyd go iawn.
Fel rhan o’r dasg, cefnogwyd y myfyrwyr gan dîm cyflogadwyedd cyfrwng Cymraeg PDC gyda sesiwn trafod syniadau ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu dyluniadau.
Wedi’i ariannu’n rhannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r tîm yn annog myfyrwyr Cymraeg eu hiaith i barhau i ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg tra yn y brifysgol, ac yn helpu i ddarparu’r sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen arnynt yn y gweithle.
Yna bu iddynt gyflwyno eu syniadau i Sarah France, Prif Swyddog Gweithredol Welsh Brew Tea; Lee Thomas, Arweinydd Cwrs ar gyfer Hysbysebu; Sian Harris, uwch ddarlithydd mewn cyflogadwyedd cyfrwng Cymraeg; a Steven Wright, Pennaeth Ffasiwn, Marchnata a Ffotograffiaeth.
Mae Najla Ogabi, 26, yn un o'r myfyrwyr Hysbysebu blwyddyn gyntaf a gymerodd ran yn y prosiect. Defnyddiodd ddraig Gymreig yn ei chynllun ar gyfer y brand newydd, ar ôl ymchwilio i symbolau Cymru a’r faner genedlaethol.
Meddai: “Roedd gweithio gyda Welsh Brew Tea yn gyfle anhygoel, a mwynheais y profiad yn fawr. Fe wnes i flasu’r te a syrthiais mewn cariad â’r blas ar unwaith, ac fe wnaeth hynny fy ysbrydoli i gyfleu balchder a thraddodiad Cymreig yn fy nghynllun.
“Defnyddiais ddelwedd o gronfa ddŵr naturiol yn y cefndir, yn dangos harddwch Cymru, ei dŵr a’i thirwedd. Mae hefyd yn rhoi naws organig, a fyddai, yn fy marn i, yn atseinio gyda charwyr te Cymreig a di-Gymraeg sy’n gwerthfawrogi moeseg ecogyfeillgar y brand.”
Dywedodd Sarah France, Prif Swyddog Gweithredol Welsh Brew Tea: “Roedd gweithio gyda’r myfyrwyr Hysbysebu ar y prosiect hwn yn brofiad buddiol i Welsh Brew Tea, a gobeithio wedi helpu’r myfyrwyr i gael cipolwg da ar weithio gyda brand llwyddiannus.
“Galluogodd yr adborth a gawsom ni i feddwl am wahanol ffyrdd o farchnata ein cynnyrch a chodi ymwybyddiaeth brand, ac roedd dyfnder eu hymchwil yn amlwg trwy gydol eu cyflwyniadau.”
Cymerodd Sanchari Mukhopadhyay (prif ddelwedd, uchod) ran yn y briff byw hefyd. Yn wreiddiol o India, magwyd Sanchari 20 oed yn Rwsia a mwynhaodd ddysgu rhai ymadroddion Cymraeg y gallai eu cynnwys yn ei chynllun.
Meddai: “Fel myfyriwr rhyngwladol, roedd yn ddiddorol iawn dysgu mwy am y diwylliant te yng Nghymru. Synnais i weld bod bagiau te Welsh Brew yn grwn - o'u cymharu â rhai hirsgwar yn Rwsia - a wnaeth fy ysbrydoli i wneud cymeriad allan o'r bag te.
“Canolbwyntiais ar genhadaeth brand y cwmni sef bod y te yn cael ei wneud yn arbennig ar gyfer dŵr (meddal) Cymreig, a phenderfynais gadw thema fy nyluniad yn hwyl ac yn fywiog, gan dargedu cynulleidfa iau. Roedd y prosiect hwn yn brofiad dysgu gwych, ac rwy’n ddiolchgar iawn amdano.”
Ychwanegodd Lee Thomas, Arweinydd Cwrs ar gyfer Hysbysebu: “Mae’r prosiect hwn wedi helpu’r myfyrwyr i ddeall pa mor werthfawr yw hi i gael cydweithiwr sy’n siarad Cymraeg mewn tîm, i gynghori a all brawddeg yn Saesneg hefyd gael yr un ystyr yn Gymraeg. Maen nhw wedi dysgu na allwch chi ddibynnu ar gyfieithu peirianyddol, gan fod y risgiau o greu brawddeg heb yr un ystyr yn fawr, a gallai achosi niwed sylweddol i enw da brand.”
Mae Lee bellach yn cynllunio prosiectau pellach gyda'r tîm cyflogadwyedd cyfrwng Cymraeg i barhau i ddarparu persbectif dwyieithog i'w fyfyrwyr.