Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang: Pêl-droed, ffasiwn a theimladau - Taith Calum i lwyddiant entrepreneuraidd

18 Tachwedd, 2024

mae Calum O'Neill eisoes yn ennyn sylw gyda'i gyfuniad unigryw o bêl-droed

Thema Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang eleni, a gynhelir rhwng 18-24 Tachwedd, yw 'Mae entrepreneuriaeth i bawb', felly rydym yn tynnu sylw at sut mae PDC yn helpu darpar berchnogion busnes, a'r rhai sydd eisoes yn rhedeg eu mentrau eu hunain, i lwyddo.

Yn ddim ond 26 oed, mae Calum O'Neill eisoes yn ennyn sylw gyda'i gyfuniad unigryw o bêl-droed, busnes, a chenhadaeth o'r galon i fynd i'r afael ag iechyd meddwl, yn arbennig mewn chwaraeon dynion.

Wrth dyfu i fyny ym Mhenarth, dechreuodd taith Calum gyda chariad at bêl-droed ac uchelgais i wneud gwahaniaeth ystyrlon, ond cymerodd ei lwybr sawl tro annisgwyl cyn iddo ddod o hyd i'w alwedigaeth go iawn.

Ar ôl gadael yr ysgol yn 2016, lle cyflawnodd Lefel A yn y celfyddydau perfformio, drama, astudiaethau ffilm, a hanes, canlynodd Calum gyrfa actio ym Mryste.

Fodd bynnag, roedd byd pêl-droed bob amser yn ei alw'n ôl. Arweiniodd ei angerdd am y gêm at hyfforddi ac, yn ddiweddarach, astudiodd hyfforddi a pherfformiad pêl-droed ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), lle graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf.

Trwy ei brofiadau personol a rhai ei ffrindiau agos, daeth Calum yn ymwybodol o'r materion iechyd meddwl difrifol sy'n gyffredin ym myd pêl-droed, yn enwedig ymhlith dynion ifanc.

Wrth dyfu i fyny mewn amgylchedd lle’r oedd mynegi emosiynau yn aml yn cael ei ystyried yn wendid, sylwodd Calum ar y diffyg sgwrs ynghylch iechyd meddwl. Fe wnaeth stori ei ffrind - pêl-droediwr talentog a gollodd ei le mewn academi oherwydd anaf, ac a gafodd ei adael i ddod drwyddi ar ei ben ei hun – gael effaith arbennig o fawr.

"Dyna pryd sylweddolais fod iechyd meddwl yn frwydr gudd i lawer o athletwyr ifanc," meddai Calum.

O'r sgyrsiau hyn, ganwyd y syniad ar gyfer Mentality. Yn gyflym iawn, trawsnewidiodd yr hyn a ddechreuodd fel menter hyfforddi pêl-droed i fod yn rhywbeth llawer mwy - platfform i fynd i'r afael ag iechyd meddwl yn agored a chwalu stigma.

Dechreuodd y brand Mentality fel casgliad dillad, a gynlluniwyd i ddynodi undod a bod yn agored am frwydrau iechyd meddwl. Ei nod oedd creu cymuned lle gallai dynion ifanc fynegi eu hunain heb ofni cael eu barnu, yn syml trwy wisgo crys-T neu hwdi a oedd yn symbol o brofiadau a rennir.

"Y nod oedd creu rhywbeth y gallai dynion ei wisgo a'i weld mewn eraill, gan deimlo cysylltiad di-eiriau," meddai Calum.

"Wnes i ddim dechrau'r busnes oherwydd roedd gen i gariad enfawr at ffasiwn - roeddwn i eisiau iddo fod yn symudiad tuag at fod yn agored, mewn mannau lle nad oedd hyn yn cael ei gofleidio'n aml."

Gyda chymorth Tîm Menter PDC, a chymorth ariannol gan raglenni sy'n cael eu rhedeg gan y Brifysgol, mae busnes Calum wedi ffynnu. Darparodd y Brifysgol adnoddau amhrisiadwy, o fentoriaeth i ofod swyddfa, gan ei helpu i lywio heriau cynnar adeiladu brand.

Mae cydweithrediadau gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Girls Who Run wedi ysgogi twf Mentality ymhellach, gan ganiatáu i Calum gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach a pharhau i ledaenu ei neges o ymwybyddiaeth iechyd meddwl.

Fodd bynnag, dydy ei daith ddim yn stopio gyda dillad. Ochr yn ochr â'r brand, mae'n cynnal sesiynau pêl-droed galw heibio iechyd meddwl wythnosol yng Nghaerdydd. Mae'r rhain yn cynnig gofod lle gall dynion chwarae'r gêm y maen nhw'n dwli arni wrth feithrin ymdeimlad o gymuned a bod yn agored.

"Anaml y byddwn ni'n siarad yn uniongyrchol am iechyd meddwl, ond yr amgylchedd rydyn ni'n ei greu sy'n caniatáu i ddynion deimlo'n ddigon cyfforddus i fod yn agored os oes angen," meddai Calum.

Wrth edrych ymlaen, mae'n bwriadu ehangu'r casgliad dillad a'r sesiynau pêl-droed, gan weithio gyda sefydliadau mwy i ddod â Mentality i fwy o bobl.

"Dwi eisiau parhau i chwalu'r rhwystrau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl mewn pêl-droed a thu hwnt, un sgwrs - ac un crys-T - ar y tro," meddai Calum.

I gael gwybodaeth am gymorth busnes a chychwyn busnes yn PDC, cysylltwch â [email protected]