Diwrnod Nyrsio Anabledd Dysgu | Codi proffil nyrsio anabledd dysgu

1 Tachwedd, 2024

Portread o fenyw yn gwenu gyda gwallt golau, yn gwisgo top patrymog. I'r dde, mae cefndir coch yn dangos y testun 'Diwrnod Nyrsio Anabledd Dysgu 2024' mewn gwyn

Mae Dr Stacey Rees, Arweinydd Cwrs Nyrsio Anabledd Dysgu, ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), yn gweithio'n galed i hybu a hyrwyddo maes Nyrsio Anabledd Dysgu, trwy ymchwil, cydweithio ac eiriolaeth.

Ffocws allweddol gwaith Dr Rees fu mynd i'r afael â'r diffyg cydnabyddiaeth mewn nyrsio anabledd dysgu, a amlygwyd yn arbennig yn ystod pandemig COVID-19. Fe wnaeth yr Athro Emeritws Ruth Northway wahodd Dr Rees i ymuno â chydweithrediad ymchwil rhyngwladol sy'n canolbwyntio ar effaith y pandemig ar nyrsio anabledd dysgu, sydd wedi dod ag arbenigwyr ynghyd o 11 o wledydd.

"Trwy gydol y pandemig, canolbwyntiodd y cyfryngau ar arwyr gofal iechyd, ond yn aml roedd cyfraniad nyrsys anabledd dysgu yn cael ei edrych heibio," meddai.

"Roedden nhw ar y rheng flaen hefyd, yn gorfod gwneud newidiadau enfawr o fewn eu rolau. Sefydlwyd y Cydweithrediad Ymchwil Nyrsio Anabledd Deallusol Byd-eang yn wreiddiol i gofnodi profiadau'r nyrsys hyn yn y pandemig. Ers hynny, mae'r rhwydwaith wedi cyhoeddi nifer o bapurau ymchwil sy'n tynnu sylw at y gwaith hanfodol y mae nyrsys anabledd dysgu yn ei wneud, gyda'r nod o wella'r ddealltwriaeth, ymchwil, polisi, gofal clinigol a chymorth a ddarperir i bobl ag anabledd dysgu."

Mae Dr Rees hefyd yn angerddol am gynnwys pobl ag anableddau dysgu yn weithredol wrth lunio blaenoriaethau ymchwil, cymryd rhan mewn addysgu a chyfweld â myfyrwyr nyrsio. Mae'n arwain y Pwyllgor Cynghori Ymchwil Addysgu (TRAC), grŵp hirsefydlog o oedolion ag anableddau dysgu sy'n cyfarfod yn rheolaidd yn PDC.

"Mae aelodau TRAC yn rhoi mewnwelediadau amhrisiadwy i'r hyn sydd bwysicaf i unigolion ag anableddau dysgu, gan sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol ac yn effeithiol," meddai. Mae myfyrwyr PDC yn cael cyfle i weithio'n agos gydag aelodau TRAC, gan ennill dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau byw’r rhai y byddant yn eu cefnogi yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol."

Mae cyfraniadau Dr Rees yn ymestyn y tu hwnt i ymchwil. Yn ddiweddar, sicrhaodd gyllid Taith i deithio i Brifysgol Massachusetts yn Dartmouth, UDA. Mae'n bwriadu sefydlu partneriaeth gyda'r brifysgol a chreu cymuned ymarfer rithwir, gan ganiatáu i fyfyrwyr nyrsio, yng Nghymru ac yn UDA, archwilio anghydraddoldebau iechyd a rhannu arferion gorau. Dywedodd: "Yn America, does ganddyn nhw ddim nyrsys anabledd dysgu arbenigol fel sydd gennym ni yma. Mae nyrsys cyffredinol yn gofalu am unigolion ag anableddau dysgu sy'n cyflwyno heriau unigryw. Bydd y cydweithrediad hwn yn galluogi myfyrwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac archwilio datrysiadau gofal iechyd byd-eang."

Yn ogystal â gwaith rhyngwladol, mae Dr Rees wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo nyrsio anabledd dysgu yn lleol. "Roedd gostyngiad cenedlaethol mewn ceisiadau i nyrsio anabledd dysgu, a arweiniodd at brinder yn y gweithlu," meddai.

"Fe wnes i gais am gyllid i gyflogi dau fyfyriwr fel gweithwyr allgymorth. Aeth dau o'n llysgenhadon myfyrwyr, Aimee a Claire, allan i ysgolion a cholegau i godi ymwybyddiaeth o'n cangen gofal iechyd. Maen nhw wedi gwneud gwaith anhygoel. Mae eu hymdrechion wedi helpu i godi proffil nyrsio anabledd dysgu yn ogystal â chynyddu nifer y ceisiadau, nid yn unig yn PDC, ond mewn prifysgolion eraill hefyd. Rwy'n falch o ddweud bod Aimee a Claire wedi cael eu cydnabod am eu gwaith rhagorol gan ennill lle yng ngwobrau Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru yng Nghaerdydd."

Wrth edrych i'r dyfodol, mae Dr Rees yn parhau i fod yn ymrwymedig i ehangu ei gwaith, drwy ymchwil barhaus a thrwy annog y genhedlaeth nesaf o nyrsys anabledd dysgu. Ei nod yw cynyddu cydweithio rhyngwladol, gyda'r gobaith o gynnwys mwy o brifysgolion, ac ehangu lleisiau unigolion ag anableddau dysgu.

"Mae popeth rydyn ni'n ei wneud er mwyn sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael y gofal maen nhw'n ei haeddu," meddai.