Gwaith partneriaeth yn anelu at wella effeithlonrwydd cynhyrchu hydrogen
13 Tachwedd, 2024
Mae arbenigwyr mewn ymchwil hydrogen ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn rhan o brosiect a allai helpu i wella effeithlonrwydd systemau sy'n cynhyrchu'r nwy yn sylweddol.
Gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr yn HyWaves, cwmni ymchwil o Brifysgol Cranfield, mae gwyddonwyr yng Nghanolfan Hydrogen PDC ym Maglan, ger Abertawe, yn hwyluso datblygiad system a all gynyddu effeithlonrwydd a gwella cost-effeithiolrwydd cynhyrchu hydrogen gwyrdd.
Cynhyrchir hydrogen gwyrdd trwy ddefnyddio trydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy i bweru electroleiddiwr, sy'n rhannu dŵr yn hydrogen ac ocsigen. Mae'r cysylltiad rhwng y ffynhonnell ynni adnewyddadwy a'r electroleiddiwr fel arfer yn cynnwys electroneg pŵer sy'n rheoli trawsnewidiad a throsglwyddiad pŵer trydanol.
Ar hyn o bryd gall hyn golli tua 10% o'u trydan mewnbwn trwy drawsnewid a throsglwyddo pŵer trydanol, gan arwain at broses gyffredinol lai effeithlon. Fodd bynnag, mae'r tîm yn HyWaves wedi datblygu proses newydd a all leihau'r colledion hyn i lai na 1%
Dywedodd Dr Stephen Carr, sy'n Gymrawd Ymchwil yn PDC: "Gellir cynhyrchu hydrogen trwy gysylltu paneli solar ag electroleiddiwr, sy'n defnyddio'r trydan a gynhyrchir gan y paneli i rannu ocsigen yn ddŵr a hydrogen di-garbon. Yna gellir defnyddio hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys i bweru cerbydau hydrogen.
"Yn y Ganolfan Hydrogen rydym yn canolbwyntio ar ymchwil i ddatblygiad cynhyrchu a storio hydrogen adnewyddadwy, gydag ymchwil bellach yn edrych ar ddatblygiad cerbydau hydrogen, cymwysiadau celloedd tanwydd, a systemau ynni hydrogen cyffredinol.
"Mae gennym arbenigedd helaeth mewn datblygu partneriaethau rhwng y byd academaidd a’r diwydiant, gan gynnwys fel rhan o Glwstwr Diwydiannol De Cymru a Diwydiant Sero Net Cymru, ac mae gennym y cyfleusterau i gynhyrchu ac yna storio hydrogen, felly mae gennym y gallu perffaith i HyWaves brofi ei ddatblygiad."
Esboniodd Dr Thomas Delaney, Prif Swyddog Gweithredol HyWaves, sut mae'r system yn gweithio.
“Mae HyWaves yn darparu'r cerrynt union (DC) o'r paneli solar ffotofoltäig (PV) i electroeiddiwr heb fod angen camau trawsnewid pŵer canolraddol a welir mewn cyfleusterau cyfredol.
"Mae dull HyWaves o drawsnewid yn effeithlon iawn, gyda hyd at 99.5% o'r ynni PV yn cael ei drosglwyddo i gynhyrchiad hydrogen, gan roi cyfaint cynhyrchu uwch o safle penodol, a lleihau cost hydrogen wedi’i lefelu (LCOH) ynghyd â chael gwared ar yr angen am electroneg pŵer drud.
"Ar ôl datblygu a phrofi ar raddfa lai, mae cyfleuster solar i hydrogen mwy yn cael ei sefydlu yng Nghanolfan Hydrogen PDC yn rhannol diolch i gyllid o £386,000 gan Innovate UK fel rhan o raglen ‘Launchpad’ Sero Net De-orllewin Cymru.
"Mae gweithio gyda Phrifysgol De Cymru wedi bod yn wych. Mae wedi bod yn hawdd iawn cael pethau wedi'u cymeradwyo ac ar ben ffordd."
Yn y llun, Niall Haughian, Prif Swyddog Gweithredu HyWaves, a Dr Steven Carr, Ymchwilydd, Canolfan Ymchwil ac Arddangos Hydrogen Prifysgol De Cymru