Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang: Ganed yn Wigan ond gwnaed Nghymru: taith yr entrepreneur Lyndsay o fod yn weithiwr asiantaeth i fod yn arloeswr
22 Tachwedd, 2024
Thema Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang eleni, a gynhelir rhwng 18-24 Tachwedd, yw 'Mae entrepreneuriaeth i bawb', felly rydym yn tynnu sylw at sut mae PDC yn helpu darpar berchnogion busnes, a'r rhai sydd eisoes yn rhedeg eu mentrau eu hunain, i lwyddo. #GEW24
Pan adawodd Lyndsay Crompton yr ysgol yng nghanol y 90au, doedd ganddi ddim cymwysterau. 30 mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl dychwelyd i astudio, mae bellach yn gyfrifol am ei busnes ei hun ac wedi ennill Doethuriaeth.
Bellach yn 44 oed, mae’r fam i un wedi mynd o fod yn weithiwr asiantaeth i fod yn arloeswr - llwyddiant a ddaeth i’w rhan, i raddau helaeth, oherwydd y gefnogaeth a gafodd gan Brifysgol De Cymru (PDC).
Yn wreiddiol o Wigan, symudodd Lyndsay i Gymru yn 2003, gan ymgymryd â gwaith asiantaeth yn y GIG i ddechrau, yna gweithio i'r gwasanaeth iechyd yn llawn amser mewn gwahanol swyddi - gan gynnwys datblygu iechyd, hybu iechyd, a rolau cymunedol. Yn y pen draw, arweiniodd hyn at swydd o fewn yr adran AD.
Dechreuodd y rôl honno yn 2012, a flwyddyn yn ddiweddarach rhoddodd enedigaeth i’w merch. Wedyn, 'newidiodd fy mywyd'’ dywed Lyndsay.
Ar ôl cwblhau gradd mewn AD yn PDC, gwnaeth gais am swydd rheolwr AD, ond cafodd ei gwrthod oherwydd dywedwyd wrthi nad oedd ganddi ddigon o brofiad.
"Dyna oedd y trobwynt mewn gwirionedd," meddai. "Gofynnais i fi fy hun a oeddwn i wir eisiau gwneud y math hwnnw o waith am weddill fy mywyd.
"Fe ddywedais wrtha i fy hun, ‘Ti’n gwybod beth?'... Roeddwn i wastad wedi eisiau bod yn geiropractydd ond doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i'n gallu fforddio mynd i’r Brifysgol."
Arweiniodd cyfarfod ar hap gyda ffrind, a soniodd wrth Lyndsay am opsiynau o ran cyllid myfyrwyr, at wneud cais am gwrs Meistr mewn Ceiropracteg yn Sefydliad Ceiropracteg Cymru yn PDC.
Gan gyfuno ei phum mlynedd o astudio, ei dyletswyddau fel mam, a gweithio’n rhan amser yn y GIG, graddiodd Lyndsay gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2023 - cyflawniad sylweddol, yn enwedig ar ôl cael diagnosis o ddyslecsia yn ystod ei chwrs.
Ar ôl cwblhau ei gradd, fodd bynnag, wynebodd Lyndsay her gyfarwydd i bob ceiropractydd sydd newydd raddio: adeiladu sylfaen o gleifion, a gwneud bywoliaeth ar yr un pryd. Er mwyn gwneud i'r cyfan weithio gyda'i gilydd, dychwelodd i'r GIG yn rhan amser, tra hefyd yn gweithio mewn practis Ceiropracteg.
Roedd ei hysbryd entrepreneuraidd yn dal yn gryf fodd bynnag, ac ar ôl i Stiwdio Startup PDC - sy'n cynnig cymorth a mentora i ddarpar berchnogion busnes sydd wedi graddio o'r Brifysgol - gysylltu â hi , gwnaeth Lyndsay gais am y rhaglen LAUNCH+, sy'n cynnig 16 wythnos o gymorth datblygu busnes a £5,000 yn lle cyflog i egin entrepreneuriaid i’w galluogi i ganolbwyntio ar gychwyn eu cwmni.
"Roedd clywed bod gen i’r cyllid hwn yn anhygoel, ond roedd yn rhaid i fi ddweud wrth y bobl eraill roeddwn i'n gweithio iddyn nhw y byddai'n rhaid i fi wneud hyn ar y cyd â fy ymrwymiadau iddyn nhw," meddai. "Ond roedd yn gyfle rhy dda i’w wrthod a dyma oedd fy mreuddwyd, ac rwy mor ddiolchgar ’mod i wedi gallu cyflawni’r holl ymrwymiadau hyn."
Ar ôl cwblhau'r cwrs LAUNCH+, aeth Lyndsay yn ei blaen i’r cam nesaf - sefydlu ei phractis Ceiropracteg ei hun, a sicrhau cleientiaid er mwyn gwneud i’r busnes lwyddo.
A dyna lle roedd ei rhwydwaith o gysylltiadau yn werth y byd iddi. Mae Richie Turner, rheolwr Stiwdio Startup PDC, hefyd ar fwrdd Casnewydd Fyw - sy'n rheoli cyfleusterau hamdden.
"Roedd cysylltiad Richie gyda Chasnewydd Fyw yn golygu fy mod wedi gallu cysylltu â nhw, a dod o hyd i le addas i sefydlu fy musnes a chynnig sesiynau ceiro i'r rhai oedd eu hangen," meddai.
A hithau bellach wedi sefydlu ei busnes, nod Lyndsay yw tyfu'r practis, a chreu hyb iechyd cynhwysfawr yn y pen draw, o'r enw The Community Chiropractor, yn cynnig ystod o wasanaethau lles. Ac mae’n parhau’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth y mae hi wedi'i chael gan PDC a Stiwdio Startup.
"Mae wedi bod yn allweddol i gyrraedd lle rydw i, yn agor fy musnes fy hun," meddai.
"Mae'r Stiwdio wedi bod yn anhygoel. Os oes gyda chi gwestiynau nad yw Richie a'r staff yn gwybod yr atebion iddyn nhw, byddan nhw’n eich cyfeirio chi at rywun fydd yn gwybod. Mae fy nyled yn fawr iddyn nhw am y gefnogaeth maen nhw wedi'i rhoi i fi."
Wrth edrych tua’r dyfodol, hoffai Lyndsay hefyd roi rhywbeth yn ôl i'r Brifysgol yn gyfnewid am y gefnogaeth mae hi wedi'i derbyn yn ystod ei chyfnod yn astudio a sefydlu ei busnes.
"Byddwn i wrth fy modd yn mynd yn ôl i'r Brifysgol i wneud rhywfaint o addysgu a rhannu fy ngwybodaeth a fy mhrofiad gyda'r genhedlaeth nesaf," meddai.