Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang: Hyfforddiant busnes am ddim ar gael i entrepreneuriaid drwy raglen ddatblygu'r Brifysgol

20 Tachwedd, 2024

Campws Casnewydd

Thema Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang eleni, a gynhelir rhwng 18-24 Tachwedd, yw 'Mae entrepreneuriaeth i bawb', felly rydym yn tynnu sylw at sut mae PDC yn helpu darpar berchnogion busnes, a'r rhai sydd eisoes yn rhedeg eu mentrau eu hunain, i lwyddo. #GEW24

Mae entrepreneuriaid sydd â syniadau i wireddu eu busnesau yn cael cynnig mynediad at hyfforddiant arbenigol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn y flwyddyn newydd.

Bydd ail rownd o weithdai Datblygu Busnes Casnewydd, a gyflwynir gan Stiwdio Sefydlu PDC, mewn partneriaeth â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, yn dechrau ar 16 Ionawr.

Er bod y rhaglen gyntaf wedi'i hanelu at entrepreneuriaid yn y Diwydiannau Creadigol yn unig, mae'r ail yn agored i'r rhai sydd â syniad busnes newydd mewn unrhyw sector - o ffasiwn, harddwch a thechnoleg ariannol, i fwyd a diod.

Er mwyn cynyddu cynhwysiant ac ehangu ymgysylltiad, mae'n targedu ymgeiswyr o gefndir mwyafrif byd-eang yn benodol, y rhai sy'n F/fyddar, anabl, niwroamrywiol, LHDTCRhA+, anneuaidd, neu’n dod o unrhyw gefndir dan anfantais yn gymdeithasol, yn addysgol neu’n economaidd.

Cyflwynir y rhaglen yn Hyb Ymgysylltu Casnewydd pwrpasol PDC. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i rwydweithio â busnesau eraill yn y gofod ac ehangu eu cysylltiadau'n organig, o fewn ac o amgylch y sesiynau mentora a’r gweithdai a gynhelir bob dydd Iau. Yn y cyfamser, bydd cymorth arbenigol ar gael gan sefydliadau fel Capital Law, Llama Accounting a Gambit / Mode Insurance.

Bydd mynychwyr hefyd yn cael cyfle i gwrdd â'r garfan flaenorol o entrepreneuriaid, a bydd pob un ohonynt yn cael cynnig lle yng ngofod cydweithio’r Stiwdio Sefydlu pan fyddant yn cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, ddiwedd mis Tachwedd. 

Mae 15 o entrepreneuriaid cymunedol yn cymryd rhan yn y rhaglen diwydiannau creadigol presennol a'r gobaith yw y byddant yn ysbrydoli'r garfan nesaf o entrepreneuriaid ac yn adeiladu sylfeini cymuned gefnogol a chydweithredol, ochr yn ochr ag entrepreneuriaid graddedig sydd eisoes wedi'u lleoli yn yr Hwb.

Mae'r rhaglenni'n cael eu darparu gyda chyllid gan Gyngor Dinas Casnewydd, trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ac maent yn rhan o ffocws yr awdurdod lleol ar dyfu ei economi egin fusnesau.

Dywedodd Richie Turner, Rheolwr Uned Egino: "Rydym bellach wedi rhedeg dwy raglen datblygu busnes lwyddiannus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda ffocws ar ddiwydiannau creadigol. Roeddem yn teimlo y dylem ehangu ein cwmpas a helpu'r rhai a allai fod wedi'u heithrio o fentrau datblygu busnes o'r blaen, ac ehangu'r cwmpas i bob sector."

Gellir dod o hyd i'r amserlen lawn a'r ddolen i'r ffurflen gais yma. Am drafodaeth anffurfiol, e-bostiwch [email protected]