Anrhydeddu arweinydd seiber PDC yng ngwobrau cydraddoldeb STEM

31 Ionawr, 2025

Sharan Johnstone

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ennill gwobr arall am ei gwaith yn arloesi cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn pynciau STEM.

Yng Ngwobrau WISE, a gynhaliwyd yn Llundain ddydd Iau diwethaf, enillodd Sharan Johnstone, Pennaeth Seiberddiogelwch PDC, Wobr Menyw Eithriadol mewn Technoleg, sy'n dathlu menywod nodedig sy’n gwneud gwahaniaeth mawr yn y diwydiant technoleg.

Mae'n anrhydeddu unigolion y mae eu gwaith ym maes technoleg yn ysgogi arloesedd, ac hefyd yn ysbrydoli ac yn grymuso cenedlaethau'r dyfodol o fenywod i ddilyn gyrfaoedd yn y maes dynamig hwn.

Roedd dau gydweithiwr arall o PDC hefyd yn rownd derfynol y gwobrau.

Roedd Hayley Burns, Dirprwy Ddeon Cyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC, yn un o’r rhai a gyrhaeddodd rhestr fer y Wobr Cynghreiriaid STEM, sy'n cydnabod unigolion neu sefydliadau sy'n mynd ati’n bwrpasol i hyrwyddo menywod ym maes STEM, gan ddefnyddio eu dylanwad, eu gweithredoedd a'u platfformau i greu diwydiant mwy cynhwysol a theg. 

Cyrhaeddodd Beth Jenkins, Darlithydd mewn Fforenseg Ddigidol a Seiberddiogelwch, restr fer Gwobr Seren Newydd y Dywysoges Frenhinol, sy'n cydnabod menywod ifanc rhagorol sy'n cael effaith sylweddol yn gynnar yn eu gyrfaoedd STEM, gan wasanaethu fel modelau rôl ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

Mae Gwobrau WISE yn dathlu menywod rhagorol ym maes STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) ac arloeswyr ym maes Amrywiaeth a Chynhwysiant (AaCh), gan gynnwys cynghreiriaid a sefydliadau sy'n gwneud pethau gwych i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym maes STEM.

Mae'r gwobrau'n tynnu sylw at waith caled, llwyddiant, penderfyniad ac ymrwymiad unigolion a sefydliadau sy'n helpu i gynyddu nifer y menywod yng ngweithlu STEM y DU ac sy’n gwneud newidiadau effeithiol i’r cydbwysedd rhwng y rhywiau yn eu sefydliadau.

Dywedodd yr Athro Georgina Harris, Deon Dros Dro Cyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC: "Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol De Cymru wedi cael ei chydnabod unwaith eto am ein gwaith yn hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym maes STEM.

"Roedd tair o’n cydweithwyr yn rowndiau terfynol y gwobrau hyn ac maen nhw i gyd wir yn arwain yn eu meysydd, Sharan Johnstone, Hayley Burns a Beth Jenkins. Mae buddugoliaeth Sharan yn cadarnhau rôl PDC fel arloeswr ym maes addysg seiber, sy’n ysgogi ymdrechion i ddod â mwy o fenywod i'r sector ac ysbrydoli merched i ystyried seiber fel llwybr gyrfa hyfyw.

"Mae'n anrhydedd sefyll ochr yn ochr yn y Gyfadran â’r menywod eithriadol a thalentog hyn, a phawb arall sydd hwythau hefyd yn chwalu rhwystrau ac yn grymuso cyfoedion i ddilyn yn ôl eu traed."