Arbenigwyr technoleg y Brifysgol yn rhoi cipolwg i ymwelwyr ar stori tu mewn i’r Castell
20 Chwefror, 2025
Mae ein harbenigwyr wedi helpu i roi mynediad rhithiol i un o safleoedd mwyaf hanesyddol De Cymru drwy ddefnyddio technoleg 360 gradd i sganio ei du mewn.
Fel rhan o arddangosfa i nodi daucanmlwyddiant Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful, defnyddiodd tîm y Brifysgol dronau, sganiau laser, a lluniau llonydd i ddangos ardaloedd anhygyrch o’r castell yn ei holl ogoniant.
Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi helpu i ddarparu mynediad rhithiol i ardal anhygyrch o un o safleoedd mwyaf hanesyddol y rhanbarth fel rhan o arddangosfa i nodi ei ddaucanmlwyddiant.
Yn agor y mis hwn, bydd arddangosfa Sefydliad Cyfarthfa – Cyfarthfa: Y Gorffennol. Y Presennol. Y Dyfodol – sy’n cael ei chynnal yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa ym Merthyr Tudful – yn cyflwyno naratif sy’n amlygu amserlen gyfoethog y safle.
Mae rhain yn amrywio o’r sylfeini daearegol a luniodd y Chwyldro Diwydiannol, i’w rôl fel cartref, ysgol, a chanolbwynt diwylliannol, dros y ddwy ganrif ddiwethaf.
Bydd ymwelwyr â’r arddangosfa yn gallu archwilio effaith fyd-eang diwydiant haearn Merthyr Tudful, bywydau bob dydd y rhai sy’n gysylltiedig â’r Castell, a’r atgofion a rennir o ddyddiau ysgol, gwyliau a digwyddiadau sydd wedi digwydd yn y parc, gan gadarnhau ei le wrth galon y gymuned.
Mae’r arddangosfa hefyd yn amlygu’r cynlluniau adfer sy’n cael eu cefnogi gan Sefydliad Cyfarthfa, gan gyfuno cadwraeth hanesyddol â chreadigedd beiddgar.
Fel rhan o’r arddangosfa, mae arbenigwyr o Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC wedi cynhyrchu sgan 360 gradd unigryw o ardaloedd mewnol y castell sydd ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd.
Roedd Dr Emmajane Mantle, Uwch Ddarlithydd mewn Amgylchedd Adeiledig yn PDC, yn rhan o dîm y Brifysgol a luniodd nifer o ddarnau o gynnwys gweledol ar gyfer yr arddangosfa, gan gynnwys taith VR a thaith cyfrifiadur o’r ysgol.
“Roedd yn wych bod yn rhan o’r prosiect hwn a defnyddio ein harbenigedd i ddod â’r safle yn ôl yn fyw – doeddent methu credu pa mor gyffrous oeddem ni,” meddai Dr Mantle.
“Roedd yn her enfawr o’r cychwyn cyntaf oherwydd fe gyfunom gannoedd o luniau i greu’r daith, yna cynnal sgan laser 3D gyda’n cydweithiwr Nathan Thomas, a wnaeth hefyd hedfan drôn a chreu print 3D o’r castell, a defnyddio dronau i gael hyd yn oed mwy o gynnwys i’w ddefnyddio yn yr arddangosfa. Fe wnaethom hyd yn oed gynhyrchu model 3D o’r sganiau a wnaethom.
“Roedd gallu defnyddio’r arbenigedd sydd ar gael yn y Brifysgol ar y math hwn o brosiect yn brofiad gwych, a dwi’n falch bod y dechnoleg fodern hon yn gallu rhoi dealltwriaeth i bobl o sut roedd y byd yn edrych ddwy ganrif yn ôl.”
Fel rhan o’r arddangosfa – sy’n rhan o ddathliad Cyfarthfa200 sy’n flwyddyn o hyd – gall gwesteion hefyd fwynhau gwaith celf cyfoes sy’n ymateb i’r newidiadau bywiog sydd i ddod, gan gynnwys gwaith celf sydd newydd gael ei gomisiynu gan Amanda Turner, artist o Dde Cymru a gafodd ei haddysg yng Nghastell Cyfarthfa yn ystod ei amser fel ysgol.
Mae Sefydliad Cyfarthfa yn sefydliad elusennol sy’n hyrwyddo’r weledigaeth i drawsnewid Castell a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful – crwsibl o’r chwyldro diwydiannol – yn ganolfan ddiwylliannol ac yn atyniad i ymwelwyr o ansawdd rhyngwladol ac yn beiriant adnewyddiad cymdeithasol.
Mae arddangosfa’r Sefydliad hefyd yn cyd-fynd â dyfodiad ei Brif Weithredwr newydd, Jess Mahoney. Magwyd Jess ym Merthyr Tudful a chyn hynny bu’n gweithio fel Pennaeth Caerdydd Creadigol, wedi’i lleoli yng Nghanolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd Jess Mahoney “Dwi wrth fy modd i fod yn ymuno â Sefydliad Cyfarthfa ar yr adeg gyffrous iawn hon i arwain y gwaith o wireddu gweledigaeth arwyddocaol ac uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i Barc a Chastell Cyfarthfa. Mae’r arddangosfa hon yn ddechrau addas i flwyddyn y daucanmlwyddiant: cyfle amserol i edrych yn ôl a dathlu hanes ysbrydoledig, arwyddocaol yn fyd-eang Merthyr Tudful dros y ddwy ganrif ddiwethaf, tra ei fod hefyd yn foment i amlygu pwysigrwydd buddsoddi yn ein dyheadau ar gyfer y dyfodol ar gyfer Cyfarthfa nawr, a’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i hyrwyddo ei ddatblygiad a’i adfer.”
Mae’r arddangosfa wedi bod yn bosib diolch i gefnogaeth gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, PDC, Merthyr’s Roots, a chyllid gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.