Athro wedi ysbrydoli Jen i ddilyn gyrfa mewn cyfrifiadureg
11 Chwefror, 2025
Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, rydym yn tynnu sylw at nifer o staff Prifysgol De Cymru sy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.
Mae’r darlithydd Cyfrifiadureg, Jennifer Whewell, yn esiampl o sut gall menywod a merched ffynnu mewn sector sy’n dal i gael ei ddominyddu gan ddynion – er nad oedd hon yn yrfa yr oedd ganddi uchelgais i’w dilyn nes iddi ddechrau ar ei thaith addysg bellach.
Ar ôl gorffen ei harholiadau TGAU a phenderfynu astudio technoleg gwybodaeth gymhwysol, cymdeithaseg a chyfrifiadureg, yn ogystal â Bagloriaeth Cymru, fel pynciau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Gatholig St Albans ym Mhont-y-pŵl, Torfaen, syrthiodd Jen mewn cariad â chyfrifiadureg.
Cyn hynny, ychydig iawn o gysylltiad roedd wedi'i gael â’r pwnc, ond fe wnaeth athro ysbrydoledig newid cwrs ei bywyd academaidd a phroffesiynol.
“Doeddwn i ddim yn gwybod dim am gyfrifiadureg tan i fy athro Safon Uwch ei gyflwyno i mi,” meddai.
“Mae’n debyg mai ef oedd fy ysbrydoliaeth fwyaf oherwydd datrys problemau yw’r pwnc yn ei hanfod, sy’n rhywbeth rydw i wrth fy modd yn ei wneud. Os ydych chi’n hoffi posau a deall sut mae systemau’n gweithio, mae’n faes anhygoel i fod ynddo.”
Er bod Jen yn un o ddim ond dwy ferch mewn dosbarth o 35, cofleidiodd yr her, gan brofi na ddylai rhywedd fyth fod yn rhwystr rhag dilyn diddordeb mewn gwyddoniaeth.
“Roedd yr anogaeth a gefais gan fy athro yn allweddol i fy llwyddiant, ac yn dangos nad cynrychiolaeth yw’r unig beth sydd ei angen i ysbrydoli menywod ifanc i fynd ar drywydd gwyddoniaeth – mae mentora a chredu yn eich potensial yr un mor bwysig,” meddai.
Ar ôl cwblhau ei harholiadau Safon Uwch, daeth Jen yn syth i Brifysgol De Cymru i ddilyn gradd mewn cyfrifiadureg, gan ennill gradd dosbarth cyntaf gydag anrhydedd yn 2022. A'r gefnogaeth a oedd yn cael ei chynnig ym Mhrifysgol De Cymru wnaeth ddylanwadu ar benderfyniad Jen i wneud ei gradd yn y Brifysgol yma.
“Es i gryn dipyn o gyfweliadau mewn prifysgolion, ond y prif beth wnaeth fy nenu at Brifysgol De Cymru oedd y berthynas agos rhwng y myfyrwyr â’r darlithwyr,” meddai.
“Roeddwn i'n hoff iawn o'r rhwydwaith cefnogi a oedd yn amlwg yn rhan fawr o ddiwylliant y Brifysgol, ac mae hynny'n rhywbeth rydw i wedi ceisio ei gynnal fel darlithydd – mae gen i bolisi drws agored ar gyfer fy holl fyfyrwyr oherwydd rydw i'n gwybod pa mor bwysig y gall hynny fod."
Yn dilyn ei gradd, parhaodd Jennifer â’i hastudiaethau ym Mhrifysgol De Cymru ac astudiodd am radd Meistr mewn Gwyddor Data. Roedd y cwrs blwyddyn yn ‘heriol’ yn ôl Jen, ond roedd ei chariad at y pwnc yn golygu ei bod wedi llwyddo i sicrhau rhagoriaeth. Roedd ei phrosiect yn un eithaf anghyffredin hefyd.
“Rydw i wrth fy modd â rygbi,” meddai. “Felly penderfynais ddatblygu algorithm a fyddai’n rhagweld canlyniadau’r gemau yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023.
“Roedd ambell rwystr ar y dechrau ynghylch fformat dyddiadau’r gemau, ond ar ôl rhoi trefn ar hynny, roedd yn gweithio’n dda iawn ac fe ragfynegodd yr holl ganlyniadau’n gywir, gan gynnwys tair sgôr berffaith, a’r enillwyr yn y pen draw – sef De Affrica.
“Roedd hynny'n enghraifft wych o sut mae cyfrifiadureg yn gweithio. Yn y bôn, rydych chi’n hyfforddi model i ddeall sut mae pethau’n cael eu gwneud ac yna’n defnyddio hynny i gael y rhagfynegiad.”
Mae llwyddiant academaidd Jen wedi sicrhau swydd darlithydd iddi ym Mhrifysgol De Cymru, swydd y mae hi'n ei gwneud ochr yn ochr ag astudiaethau pellach. Yn ddiweddar, dechreuodd ar PhD sy’n canolbwyntio ar ddysgu peirianyddol a rhwydweithiau niwral, yn ogystal â datblygu modelau deallusrwydd artiffisial sy’n gallu helpu meddygon i wneud diagnosis o ganser y croen.
Mae hi’n teimlo y gallai ei llwyddiant ysbrydoli eraill i ddilyn ei hesiampl.
“Ydy, mae’n faes sydd wedi'i ddominyddu gan ddynion, ond rwy’n credu bod angen i chi ddod o hyd i rywbeth rydych chi’n ei fwynhau ac mae gennych chi’r hyder i fynd ag ef i’r pen – dim ots os mai chi yw’r unig un sy’n dilyn y llwybr hwnnw,” meddai.