'Dwi’n gweithio i chwalu stereoteipiau, gan greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol'
11 Chwefror, 2025
Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, rydym yn tynnu sylw at nifer o gydweithwyr PDC sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
Mae’r darlithydd Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau Lali Gandhi yn un o ganran fach iawn – credir ei fod yn tua 3% - o fenywod sy’n gweithio yn y sector peirianneg cynnal a chadw awyrennau.
Ond o fod yn rhan o grŵp mor fach, mae Lali’n teimlo bod ganddi gyfrifoldeb i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gymryd rôl yn y sector.
“Drwy fod yn weladwy ac yn llwyddiannus yn y maes hwn, dwi’n anelu at ddangos na ddylai rhyw fyth fod yn rhwystr rhag mynd i mewn a rhagori mewn diwydiannau sy’n cael eu dominyddu yn draddodiadol gan ddynion, fel hedfanaeth,” meddai.
Yn gweithio tuag at ei PhD ar hyn o bryd, roedd Lali, sy’n wreiddiol o Malaysia – lle cwblhaodd ei gradd israddedig – wedi bod yn gweithio yn y sector hedfanaeth am nifer o flynyddoedd cyn iddi ddechrau yn ei swydd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), swydd sydd wedi caniatáu iddi rannu ei chariad am y pwnc.
“Penderfynais ddilyn gyrfa fel Darlithydd Cynnal a Chadw Awyrennau oherwydd fy angerdd dros hedfanaeth a fy awydd i gyfrannu at ddatblygiad gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn y dyfodol,” meddai.
“Ar ôl blynyddoedd o weithio yn y maes, ces i wybodaeth a phrofiad ymarferol helaeth, ac roeddwn i eisiau ei drosglwyddo i ddarpar beirianwyr.”
Ychwanegodd fod addysgu yn caniatáu iddi ysbrydoli eraill trwy rannu arbenigedd a thynnu sylw at bwysigrwydd diogelwch, manyldeb, ac arloesedd, wrth gynnal a chadw awyrennau.
“Trwy siapio sgiliau a meddylfryd y genhedlaeth nesaf, dwi’n credu fy mod yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau dyfodol y diwydiant hedfanaeth,” meddai. “Mae’r effaith hon yn hynod o werthfawr, wrth i mi weld fy myfyrwyr yn graddio, yn ffynnu yn y diwydiant, ac yn cario’r gwersi dwi wedi’u rhoi.
“Yn ogystal â hyn, mae bod yn ddarlithydd yn fy ngalluogi i barhau i ymgysylltu â datblygiadau mewn technoleg, cydweithio â myfyrwyr chwilfrydig ac uchelgeisiol, a chyfrannu’n ystyrlon at faes sydd wastad yn esblygu. Mae’n rhoi boddhad mawr gweld myfyrwyr yn tyfu, yn llwyddo, ac yn rhoi eu marc ar y diwydiant hedfanaeth yn y pen draw.”
Gyda chymaint o brofiad, dywed Lali ei bod yn teimlo’n freintiedig i allu trosglwyddo’r wybodaeth honno i fenywod a merched sy’n teimlo eu bod wedi’u hysbrydoli i ddilyn ei thaith.
“Drwy fod yn weladwy ac yn llwyddiannus yn y maes hwn, dwi’n anelu at ddangos na ddylai rhyw fyth fod yn rhwystr rhag mynd i mewn a rhagori mewn diwydiannau sy’n cael eu dominyddu yn draddodiadol gan ddynion, fel hedfanaeth,” meddai.
“Un o’r ffyrdd dwi’n ysbrydoli yw rhannu fy nhaith, yr heriau dwi wedi’u hwynebu, y sgiliau dwi wedi’u meistroli, a’r gwobrau dwi wedi’u hennill er mwyn iddynt weld beth sy’n bosib pan fyddwch chi’n dilyn eich angerdd.
“Dwi’n annog merched ifanc i gredu yn eu galluoedd, gan eu hatgoffa bod eu safbwyntiau a’u doniau unigryw nid yn unig i’w croesawu ond hefyd yn hanfodol wrth siapio dyfodol hedfanaeth.
“Dwi hefyd yn mynd ati i greu cyfleoedd ymgysylltu, boed yn fentora neu’n siarad mewn digwyddiadau, lle fedrai gysylltu’n uniongyrchol a rhoi arweiniad ac anogaeth iddynt.
“Dwi’n gweithio i chwalu stereoteipiau, gan greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle mae menywod yn teimlo eu bod yn gallu gofyn cwestiynau, cymryd risgiau, a goresgyn unrhyw rwystrau y gallent eu hwynebu.
“Yn y pen draw, dwi eisiau dangos i ferched ifanc a merched eu bod yn perthyn yn y maes yma. Nid gyrfa yn unig yw Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau, mae’n llwyfan ar gyfer arloesi, datrys problemau, a chael effaith ar hedfanaeth yn fyd-eang.”