Mae Abi ac Elan yn arwain y ffordd ar gyfer cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol eiddo tirol
13 Chwefror, 2025
Mae’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau,, ac i dynnu sylw at y gwaith a wnawn i gefnogi prentisiaid, rydym yn edrych ar rai o’r cyfleoedd rydym yn eu cynnig i’r rhai a allai fod eisiau dysgu mewn ffordd wahanol at ddysgu.
Mae dwy fenyw o Orllewin Cymru yn torri tir newydd ar gyfer cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol fel rhan o'r cwrs cyntaf o'i fath yng Nghymru ers dros 20 mlynedd.
Mae Abi Blackburn, 20, o Hwlffordd, Sir Benfro, ac Elan Thomas, sydd hefyd yn 20, o Feidrim, Sir Gaerfyrddin, yn rhan o’r garfan gyntaf o fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y Brentisiaeth Gradd Tir ac Eiddo. Mae’r cwrs hwn wedi cael ei achredu gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ac fe’i lansiwyd yr hydref diwethaf ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).
Cynigiwyd y cwrs olaf a oedd yn canolbwyntio ar eiddo tirol yng Nghymru ac oedd hefyd wedi’i hachredu gan RICS gan Brifysgol Morgannwg, sef PDC bellach. Daeth y cwrs hwn i ben yn y 2000au cynnar.
I Abi ac Elan, mae bod yn rhan o’r cwrs yn eu helpu i adeiladu pont rhwng eu cefndir gwledig a’u huchelgeisiau proffesiynol, ymdrechion a gefnogir gan eu cyflogwr, Rees Richards and Partners o Orllewin Cymru, sy’n arbenigo mewn tirfesur siartredig, prisio eiddo a gwerthu, ynghyd â rheoli ystadau.
Ar ôl cwblhau ei harholiadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru, bu Abi yn gweithio yn y maes manwerthu cyn derbyn rôl gyda Rees Richards and Partners yn 2023. Yno, canolbwyntiodd ar ochr eiddo’r busnes, gan drefnu apwyntiadau i edrych ar dai, cysylltiadau â thenantiaid, a pharatoi eiddo.
Dywed Abi fod y rôl wedi rhoi cyfle iddi ddilyn ei huchelgeisiau.
“Roedd llawer o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa yn y rôl hon, sy’n rhywbeth y cefais fy ysbrydoli’n fawr ganddo,” meddai.
Dilynodd Elan lwybr mwy amrywiol tuag at ei phrentisiaeth gradd. Ar ôl cael ei magu ar fferm laeth a bod yn rhan o gymuned amaethyddol Gorllewin Cymru, dechreuodd astudio ar gyfer gradd ond rhoddodd y gorau i’w hastudiaethau i weithio ar ffermydd yn Seland Newydd a theithio.
Ar ôl dychwelyd i’r DU, penderfynodd ddilyn llwybr mwy ymarferol a oedd yn canolbwyntio ar yrfa, gan dderbyn swydd yn y maes tirfesur gwledig gyda Rees Richards and Partners. Mae gweithio yn y rôl hon, ochr yn ochr ag astudio, yn gyfuniad perffaith iddi.
“Doeddwn i ddim wir yn mwynhau bywyd prifysgol pan oeddwn yn gwneud gradd amser llawn, a doedd eistedd mewn ystafell ddosbarth bum niwrnod yr wythnos ddim yn bleserus i mi,” dywedodd Elan.
"Ar ôl dychwelyd o Seland Newydd, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n cael cyfle i ymuno â’r maes tirfesur oherwydd fy mod i wedi rhoi'r gorau i'm gradd. Ond fe wnaeth fy nhad fy annog i chwilio am swydd y tu allan i'r fferm. Gwelodd yr hysbyseb ar gyfer rôl syrfëwr gyda chwmni Rees Richards, a oedd yn cynnwys y brentisiaeth gradd. Roeddwn wrth fy modd gallu parhau i astudio cwrs sy'n uniongyrchol gysylltiedig â fy swydd."
I Abi ac Elan, mae’r bartneriaeth rhwng PDC a’u cyflogwr yn eu galluogi i gadw mewn cysylltiad â’u cymunedau cartref yn ogystal â chael profiad gwerthfawr o’u proffesiwn yn y byd go iawn, sy'n ategu eu haddysg ffurfiol.
Ar ôl iddynt gwblhau eu prentisiaethau gradd, mae'r ddwy yn bwriadu ychwanegu Asesiad Cymhwysedd Proffesiynol (APC) gan RICS at eu rhestr o gyflawniadau.
Mae’r cwrs hefyd yn caniatáu i’r ddwy gyfrannu at eu cymuned leol a bod yn aelodau allweddol o’r genhedlaeth iau sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd a thwf diwydiannau gwledig.
“Roeddwn i bob amser eisiau cwblhau gradd ond doeddwn i ddim yn gwbl hapus i symud oddi cartref, a wnes i ddim sylweddoli nes i mi ddechrau fy swydd gyda Rees Richards and Partners y gallwn i wneud y brentisiaeth gradd,” meddai Abi.
“Ond rwy’n meddwl i mi wneud y penderfyniad cywir, gan fod hyn wedi rhoi cyfle unigryw i mi symud ymlaen yn fy ngyrfa a dysgu sgiliau gwerthfawr y gallaf eu defnyddio’n uniongyrchol yn fy ngwaith.”
Ychwanegodd Elan: “Mae cael y cyfle i aros yn fy nghymuned, gweithio mewn rôl sy’n cyd-fynd â’m cefndir amaethyddol, a dysgu wrth weithio, yn golygu bod y llwybr prentisiaeth hwn yn ddelfrydol i mi.
“Mae hefyd yn wych bod yna bobl yn y busnes sy’n brofiadol mewn amrywiaeth o rolau sy’n berthnasol i’n hastudiaethau ac sy’n gallu ein helpu ni yn yr amgylchedd gwaith.”
Dywedodd Shane Galvin, sy’n rhedeg y cwrs yn PDC: “Mae llwyddiant myfyrwyr fel Abi ac Elan yn dangos gwerth prentisiaethau gradd o ran cysylltu nodau addysgol â thwf proffesiynol ymarferol, gan alluogi ein myfyrwyr i ragori yn eu gyrfaoedd a chyfrannu at eu cymunedau ar yr un pryd.
“Mae hefyd yn wych eu gweld yn dod yn rhan o’r gymuned myfyrwyr Tir ac Eiddo sydd wedi’i hatgyfodi yng Nghymru ar ôl bod yn segur wedi i’r hen gwrs ddod i ben ar ddechrau’r 2000au, gan ddangos pa mor bwysig yw’r proffesiwn i’r economi a’r gymuned mewn sawl ardal ledled Cymru.”
Dywedodd Dylan Williams, Partner yn Rees Richards: “Fel cwmni, rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y rôl allweddol rydym yn ei chwarae yn nyfodol eiddo tirol, ac mae’r cynnig o brentisiaeth gradd wedi ein galluogi i ddenu rhai o dalentau ifanc gorau Gorllewin Cymru.
“Mae’n bleser mawr gweld Abi ac Elan yn dilyn eu hastudiaethau gan ddod yn rhan allweddol o deulu Rees Richards ar yr un pryd.”
Dywedodd llefarydd ar ran RICS: “Mae Bwrdd RICS Cymru yn falch iawn o fod â chysylltiad mor gryf â PDC, yn enwedig drwy’r cyrsiau sydd wedi’u hachredu gan RICS a gyflwynwyd yn ddiweddar.
“Drwy ein cysylltiad parhaus â PDC, rydym am weld mwy o fyfyrwyr yn ymgymryd â Phrentisiaethau Gradd neu’n ymuno â chynllun Rhwydwaith75, ac rydym yn gobeithio y gallwn ddefnyddio ein dylanwad i annog mwy o gyflogwyr i ddarparu cyfleoedd i brentisiaid.”