Menywod yn arwain y ffordd ar ddatblygu adeilad uwch-dechnoleg newydd y Brifysgol

11 Chwefror, 2025

Jess Morgan, Sophie Hawker, Miranda Thomas, Egle Maksimaviciute, Hester Brough, a Emma Woods

Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, rydym yn tynnu sylw at nifer o gydweithwyr yn y Brifysgol a chydweithwyr allanol sy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

Fel rhan o'r gwaith o adeiladu cyfleuster mawr newydd ar Gampws Trefforest Prifysgol De Cymru (PDC), mae chwe menyw yn arwain y ffordd fel rhan o'r tîm sy'n cynllunio'r adeilad uwch-dechnoleg newydd.

Pan fydd wedi'i gwblhau'r flwyddyn nesaf, bydd yn cynnwys mannau dysgu ac ymchwil, labordai electroneg a hydroleg, efelychydd hedfan, labordy roboteg, mannau ymchwil glân a diwydiannol, mannau addysgu cydweithredol, gallu realiti rhithwir, a mannau arddangos.

Penodwyd cwmni adeiladu BAM i gyflawni’r prosiect, gyda nifer o’i staff benywaidd yn arwain y prosiect.

Jess Morgan yw Rheolwr Cynaliadwyedd Cymdeithasol BAM, rôl sy’n ymwneud â chyflawni cynaliadwyedd cymdeithasol, codi dyheadau’r dyfodol, a gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo gyrfaoedd STEM. Mae Sophie Hawker, Syrfëwr Prosiect BAM, yn goruchwylio rheolaeth isgontractwyr, goruchwyliaeth ariannol, a rhyngweithio â chleientiaid, fel rhan o brosiect adeiladu PDC.

Miranda Thomas yw Pennaeth Prosiectau Strategol PDC a Rheolwr Prosiect COMET. Egle Maksimaviciute, sy'n Brif Beiriannydd Strwythurol ar gyfer cwmni dylunio, peirianneg, a thechnegol ARUP, yw prif beiriannydd y prosiect ac arweinydd y tîm strwythurol.

Hester Brough, Uwch Bensaer Cyswllt yng nghwmni pensaernïaeth Stride Treglown, yw'r Pensaer a'r Prif Ddylunydd ar yr adeilad. Hefyd, mae Emma Woods, Cyfarwyddwr Currie and Brown, yn darparu gwasanaethau Rheoli Costau a Phrif Ddylunydd ar yr adeilad newydd.

Gan edrych i’r dyfodol, esboniodd nifer o’r rhai sy’n rhan o brosiect PDC pam y dylai mwy o fenywod a merched ystyried gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, a sut y mae modd eu helpu i gyflawni eu huchelgeisiau.

“Mae yna fodelau rôl benywaidd gwych ym maes adeiladu a pheirianneg, ac mae’r diwydiant yn cynnwys cyfleoedd a datblygiadau cyffrous iawn yn y dechnoleg ddiweddaraf,” meddai Jess Morgan.

“Byddwch yn chwilfrydig ac ewch ati i archwilio, gan fod mwy na 200 o wahanol fathau o swyddi yn y diwydiannau hyn.  Mae gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.” 

Ychwanegodd Miranda Thomas: “Mae yna lawer o lwybrau gyrfa hynod gyffrous a gwerth chweil ym maes adeiladu gyda swyddi a chyfleoedd amrywiol i fenywod, er efallai nad ydych chi'n meddwl mai dyna'r achos i ddechrau.

“Fe gewch chi weithio gyda thimau gwahanol a chwrdd â phobl newydd drwy'r amser a bydd y gwaith wnewch chi yn arwain at ganlyniadau go iawn yn y cymunedau rydych chi'n byw ynddyn nhw, felly fe fyddwch chi’n gwneud gwahaniaeth go iawn drwy eich gwaith.

“Mae pob diwrnod yn wahanol, mae pob prosiect y byddwch chi’n gweithio arno yn unigryw ac felly dyw e byth yn mynd yn ddiflas.”

Dywedodd Egle Maksimaviciute: “Rwy’n meddwl bod gweld yr enghreifftiau o fenywod mewn rolau arweiniol o fewn prosiectau STEM yn ddefnyddiol gan ei fod yn dangos yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw yn y diwydiant.

“Hefyd, mae cynnal prosiectau allgymorth a siarad gyda merched mewn ysgolion yn helpu i wella’r ymwybyddiaeth - fe hoffwn i pe bai mwy o hyn wedi’i wneud pan oeddwn i yn yr ysgol i hyrwyddo cyfleoedd fel hyn.”

Dywedodd Hester Brough: “Mae pensaernïaeth a pheirianneg yn feysydd cydweithredol sy’n gofyn am waith tîm ac arweinyddiaeth, creadigrwydd ac arloesedd. Fy marn i yw y dylai unrhyw amgylchedd gwaith iach gynnwys dynion a menywod ac rwy’n falch o weld bod hynny’n rhan o lawer o gwmnïau pensaernïaeth erbyn hyn.”

Yn olaf, dywedodd Emma Woods: “Mae annog mwy o ferched a menywod i ddilyn STEM yn gofyn am ddull amlweddog sy'n mynd i'r afael â rhwystrau cymdeithasol, addysgol a systemig.

“Mae angen i’r rhain gynnwys modelau rôl STEM, cwricwlwm deniadol, cynrychiolaeth gadarnhaol yn y cyfryngau, mynd i’r afael â syndrom y ffugiwr, polisïau cefnogol yn y gweithle, arferion cyflogi amrywiol, datblygiad proffesiynol, a mentrau cymunedol a llywodraeth.”