Myfyrwyr ysgolion a cholegau o bob rhan o’r wlad yn cystadlu mewn cystadleuaeth sgiliau i Gymru gyfan

14 Chwefror, 2025

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur.

Daeth myfyrwyr ysgolion a cholegau o sefydliadau ledled Cymru at ei gilydd ar Gampws Casnewydd Prifysgol De Cymru (PDC) ar gyfer digwyddiad Cystadleuaeth Sgiliau Cymru – cyfres o gystadlaethau yn y maes digidol, busnes a chreadigol.

Menter wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, a’i  chydlynu gan brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, yw Cystadleuaeth Sgiliau Cymru. Mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a chynyddu eu sgiliau. Mae'r gystadleuaeth yn rhagflaenu menter ehangach, sef cystadleuaeth ryngwladol y Gemau Sgiliau Olympaidd.

Yn ystod y digwyddiad, cymerodd dros 120 o ddisgyblion o sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ran mewn gweithgareddau a heriau mewn amrywiaeth o feysydd, fel cyfrifeg, menter, TG, codio, seiberddiogelwch, datblygu gwe, a'r cyfryngau. Cefnogwyd y rhain gan bartneriaid o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru, gan gynnwys elusen Cyber Women Groups. Dywedodd Sophie, un o gyd-sylfaenwyr a chyfarwyddwyr Cyber Women Groups:

"Roedden ni’n falch iawn o gefnogi'r gystadleuaeth trwy gynnig her ryngweithiol 'Dal y Faner' lle gallai myfyrwyr ddysgu, ymgysylltu a phrofi eu gwybodaeth seiber. Mae ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiber wrth wraidd ein sefydliad, a meithrin cymunedol gynhwysol y gall myfyrwyr fod yn rhan ohoni."

Dywedodd Paul Evans, Cyfarwyddwr Prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru: "Mae profiadau fel hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o baratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithlu. Maen nhw’n galluogi pobl ifanc i gymhwyso eu dysgu i sefyllfaoedd yn y byd go iawn, boed yn waith codio, cyfrifeg neu'r cyfryngau.

"Drwy gynnal y digwyddiad yn PDC, bu modd i ni gynnig mynediad at adnoddau o'r radd flaenaf i’r myfyrwyr, gan sicrhau profiad ystyrlon i gyfoethogi eu sgiliau technegol a’u sgiliau meddal.

"Mae'n wych gweld myfyrwyr yn eu herio eu hunain mewn meysydd fel seiberddiogelwch a datrysiadau busnes, sy'n hanfodol i ddyfodol ein heconomi."

Dywedodd Pennaeth Seiberddiogelwch a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Seiberddiogelwch PDC, Sharan Johnstone: "Mae timau Seiberddiogelwch a Chanolfan Ragoriaeth Academaidd PDC yn falch iawn o hwyluso'r digwyddiad hwn, i ddangos ein cefnogaeth a'n brwdfrydedd wrth rymuso'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr digidol yng Nghymru."

Yn fenter wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, roedd Peredur Owen Griffiths AS yn bresennol ar gyfer y digwyddiad. Dywedodd: “Mae’r math o sgiliau galwedigaethol sy’n cael eu meithrin mewn cystadlaethau fel hyn yn hanfodol i ddatblygiad yr economi yng Nghymru.

“Mae’n annog y dalent a fydd yn allweddol i arfogi ein gwlad â’r sgiliau angenrheidiol yn ogystal â chreu cyfleoedd cyflogaeth.

“Fel myfyriwr graddedig mewn peirianneg, rwy’n gwerthfawrogi ac yn edmygu datblygiad y gweithlu a’r dalent sy’n deillio o Gystadlaethau Sgiliau Cymru.”

Ychwanegodd Peredur: “Mae gan Gymru draddodiad balch o arloesedd a diwydiant. Rwy’n gobeithio mai’r cystadleuwyr yng Nghystadlaethau Sgiliau Cymru eleni fydd y rhai fydd yn mynd â Chymru i’r lefel nesaf o ran datblygiad economaidd a ffyniant sy’n rhywbeth y mae Plaid Cymru yn ei flaenoriaethu.”