Ymgynghoriad ar oblygiadau’r adolygiad o’n darpariaeth academaidd i’r gweithlu

19 Chwefror, 2025

Y tu allan i adeilad Tŷ Crawshay ar Gampws Trefforest ym Mhontypridd

Nid yw Prifysgol De Cymru (PDC) wedi’i heithrio o’r heriau ariannol sy’n wynebu’r sector Addysg Uwch ehangach. I sicrhau ein gwytnwch yn y dyfodol, rydym wrthi’n gweithio drwy raglen drawsnewid a fydd yn ein galluogi i barhau i ddarparu ar gyfer ein cymunedau.

Heddiw (dydd Mercher 19 Chwefror) rydym yn lansio ymgynghoriad 45 diwrnod gyda chydweithwyr ac undebau llafur ar oblygiadau’r adolygiad o’n darpariaeth academaidd i’r gweithlu. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys edrych ar adolygu ystod y cyrsiau rydym yn eu cynnig a’n meysydd ymchwil ffocws.

O ganlyniad, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd y bydd nifer fach o’n cyrsiau yn cau ar ôl i’r holl fyfyrwyr presennol gwblhau eu hastudiaethau. Mae hyn yn cynnwys rhai cyrsiau lle mae prosesau recriwtio eisoes wedi’u hatal. Bob blwyddyn, rydym yn cau cyrsiau am amrywiaeth o resymau, ond mae hwn yn adolygiad mwy na fyddai’n cael ei gynnal fel arfer. Yn ogystal, byddwn yn tynnu’n ôl o rai meysydd ymchwil er mwyn ein galluogi i sicrhau bod ein gweithgarwch ymchwil yn cyd-fynd yn agosach â’n pedwar maes cyflymu, sy’n cynnwys trosedd, diogelwch a chyfiawnder; iechyd a lles; amgylchedd cynaliadwy; ac arloesedd creadigol. 

Wrth gau cyrsiau ac aildrefnu pynciau, mae’n anochel y byddwn yn edrych ar leihau’r gweithlu sy’n helpu i gefnogi gweithgareddau addysgu, dysgu ac ymchwil yn y meysydd dan sylw. Mae’r cynigion yn amlinellu lleihad o oddeutu 90 swydd o’r sefydliad cyfan, gan gynnwys symleiddio a lleihau ein strwythurau rheoli cyfadrannau.

Bydd canlyniadau terfynol y broses hon yn cael eu cadarnhau yn nhymor yr haf. Rydym yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o'r rolau hyn yn gadael ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon, ond bydd rhai yn gadael yn raddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i sicrhau bod myfyrwyr ar y cyrsiau yr effeithir arnynt yn gallu cwblhau eu rhaglen astudio.

Nid oes manylion pellach ar gael am y meysydd sydd dan sylw ar hyn o bryd, gan ein bod yn siarad gyda staff a myfyrwyr yn uniongyrchol yn y lle cyntaf.

Byddwn yn ceisio cyfyngu ar ddiswyddiadau gorfodol drwy ein prosesau arferol, a byddwn yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol wedi’u targedu i gydweithwyr yn y grwpiau yr effeithir arnynt. Rydym hefyd yn ymroddedig i wrando ar heriau pellach drwy drafodaethau adeiladol gydag undebau llafur a chydweithwyr drwy gydol y cyfnod ymgynghori, gyda’r nod o liniaru’r effaith ar gydweithwyr a myfyrwyr.

Ein ffocws bob amser fydd darparu’r profiad gorau un i’n myfyrwyr yn PDC, a chael effaith gadarnhaol drwy ein rhagoriaeth ymchwil. Byddwn yn sicrhau bod ein myfyrwyr, ein cydweithwyr a’n partneriaid yn cael cefnogaeth lawn drwy gydol y broses heriol hon.