Angen gwirfoddolwyr ar gyfer astudiaeth ar effaith anafiadau i'r pen mewn rygbi
4 Tachwedd, 2025
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), dan arweiniad yr Athro Damian Bailey a chefnogaeth elusen Head for Change, yn gwahodd gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth arloesol yn archwilio sut y gall trawiadau niferus i’r pen mewn rygbi effeithio ar iechyd hirdymor yr ymennydd.
Bydd yr astudiaeth yn cymharu swyddogaeth yr ymennydd a llif y gwaed mewn chwaraewyr rygbi sydd wedi ymddeol ac a ddioddefodd gyfergydion wrth chwarae, gyda grŵp rheoli o gyfranogwyr chwaraeon di-gyswllt ond tebyg i’r chwaraewyr rygbi o ran oed, rhyw, addysg a ffitrwydd. Nod yr ymchwil yw gwella dealltwriaeth o sut y gall trawma i’r pen ddylanwadu ar iechyd gwybyddol a risgiau hirdymor fel dementia.
Mae'r tîm yn chwilio am chwaraewyr sydd wedi ymddeol o rygbi'r undeb neu gynghrair, yn ddynion ac yn fenywod, rhwng 30 a 59 oed, ac sydd wedi cael o leiaf dri chyfergyd. Maen nhw hefyd yn chwilio am bobl ar gyfer y grŵp rheoli, yn yr un ystod oedran sy'n gwneud chwaraeon di-gyswllt neu ymarfer corff, ac sydd heb unrhyw hanes o chwarae rygbi, na hanes o gael cyfergydion neu drawma i’r pen. Bydd gofyn i wirfoddolwyr ymweld â Champws Pontypridd y Brifysgol ddwywaith, gyda chostau teithio yn cael eu had-dalu, i gael asesiadau o swyddogaeth yr ymennydd ac iechyd corfforol cyffredinol. Bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn ddienw.
Mae'r Athro Bailey, sy'n arwain Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd yn y Brifysgol, lle bydd yr ymchwil yn cael ei gynnal, wedi astudio cyfergydion a llif gwaed yr ymennydd mewn sawl camp ac ymhlith sawl grŵp oedran. Eglurodd: "Rydym wedi bod â diddordeb ers amser maith yn sut y gall 'radicalau rhydd' - moleciwlau anweledig, ansefydlog - yn ymenyddiau athletwyr chwaraeon cyswllt amharu ar lif y gwaed ac achosi difrod strwythurol o bosibl. Dros amser, gall hyn gyfrannu at niwroddirywiad. Ffocws ein hastudiaeth ddiweddaraf yw’r grŵp oedran arbennig o bwysig: chwaraewyr rygbi rhwng 30 a 59 oed sydd wedi ymddeol yn ddiweddar."
Mae ymchwil blaenorol gan y tîm yn cynnwys astudiaethau sydd wedi dangos y gall dioddef sawl cyfergyd achosi i chwaraewyr rygbi elit, rai ifanc a rhai sydd wedi ymddeol, weld dirywiad gwybyddol cyflymach nag arfer, ac y gall penio’r bêl dros gyfnod hir effeithio ar lif gwaed yr ymennydd ymhlith pêl-droedwyr, gan amharu ar wybyddiaeth a chynyddu risg dementia o bosibl. Ar hyn o bryd mae'r tîm yn cynnal astudiaethau tebyg gyda phêl-droedwyr ac athletwyr benywaidd mewn MMA, jiu-jitsu Brasilaidd, a bocsio.
Mae arbenigedd yr Athro Bailey yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ac mae'n gwasanaethu ar baneli cynghori ar gyfer Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, y Cyngor Ymchwil Feddygol, a'r Gynghrair Chwaraeon a Hamdden. Cyfrannodd at ddogfennau polisi pwysig yn 2024, gan gynnwys Canllawiau’n ymwneud â Chyfergydion mewn Chwaraeon nad ydynt yn rhai elit ("If In Doubt, Sit Them Out") a Blaenoriaethau Ymchwil Cyfergydion mewn Chwaraeon.
Wrth sôn am yr astudiaeth, dywedodd Cyd-sylfaenydd Head for Change, Alix Popham, a fu’n chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru: "Rydyn ni yn Head for Change yn cefnogi cyn-chwaraewyr y mae clefyd niwroddirywiol o ganlyniad i chwarae rygbi neu bêl-droed yn effeithio arnyn nhw, a’u teuluoedd hefyd. Rwyf wedi cael diagnosis o Enceffalopathi Trawmatig Cronig (CTE) tebygol a dementia cynnar fy hun ac mae gen i lawer o ffrindiau a chyn-gyd-chwaraewyr sy'n dioddef. Mae'r ymchwil hon yn hanfodol ar gyfer amddiffyn chwaraewyr heddiw ac yn y dyfodol, a gwella canlyniadau iechyd yr ymennydd yn yr hirdymor a helpu i wneud chwaraeon mor dda i'n hymennydd ag y mae i'n cyrff."
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr astudiaeth, anfonwch e-bost at [email protected] neu gallwch gwblhau'r ffurflen ar-lein.