Cydnabod PDC mewn gwobrau caffael cenedlaethol am yr ail flwyddyn yn olynol
6 Tachwedd, 2025
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cael ei chydnabod am yr ail flwyddyn yn olynol yng Ngwobrau GO Cymru, sy'n dathlu cyflawniadau caffael gan sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru.
Enwyd Catherine Lund, Cyfarwyddwr Caffael y Brifysgol, yn Unigolyn y Flwyddyn, a chafodd Tîm Caffael y Brifysgol glod uchel yng nghategori Prosiect Caffael Cyhoeddus y Flwyddyn.
Wedi'u beirniadu gan ffigurau caffael blaenllaw ledled Cymru a'r DU, mae'r gwobrau'n dathlu sefydliadau ac unigolion sydd wedi arwain y ffordd o ran arfer gorau ym maes caffael. Maen nhw hefyd yn dathlu ffyrdd cydweithredol o weithio sy'n sbarduno datblygiadau mewn gofal iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol.
Enillodd Catherine wobr Unigolyn y Flwyddyn am ei gwaith yn arwain Tîm Caffael PDC, sy'n rheoli contractau a chysylltiadau â chyflenwyr, gweithrediadau prynu, a chaffael strategol.
Wrth ddiolch am y gydnabyddiaeth, dywedodd Catherine: "Rwy'n falch iawn o fod wedi ennill gwobr 'Unigolyn y Flwyddyn', yn enwedig o gofio safon y lleill a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni.
"Rwy'n ffodus iawn bod fy nghydweithwyr a'r tîm Gweithredol wedi llwyr groesawu’r trawsnewidiad sydd wedi digwydd yn sgil y dulliau rwyf wedi’u cyflwyno i’n gwaith yn caffael a gwneud busnes fel Prifysgol. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i gefnogi cenedlaethau'r dyfodol ac adeiladu gwell yfory. Allwn i ddim bod yn fwy balch."
Dywedodd Rachel Elias-Lee, Prif Swyddog Cyllid a Gweithredu PDC: "Mae Catherine wedi adeiladu tîm llwyddiannus sy’n perfformio ar lefel uchel iawn ac sydd wedi creu enw da i’r broses gaffael a sicrhau proffil strategol uchel iddi yng Ngrŵp PDC.
"Byddai PDC yn sefydliad gwahanol iawn heb Catherine. Mae hi wedi dangos yr effaith y gall strategaeth gaffael wych ei chael ar sefydliad. Mae hi wedi newid agweddau at gaffael, a’r canfyddiadau o’r broses, ac wedi llwyddo i ddod â phobl gyda hi ar y daith."
Cafodd Tîm Caffael y Brifysgol glod uchel yng nghategori Prosiect Caffael Cyhoeddus y Flwyddyn, sy'n dathlu prosiect sydd wedi crynhoi arfer gorau ac arloesedd mewn sawl maes yn un fenter wedi’i gweithredu’n wych. Cafodd y tîm eu cydnabod am eu gwaith yn cyflawni cyfres o weithgareddau caffael cymhleth ar gyfer Calon, adeilad Cyfrifiadureg, Peirianneg a Thechnoleg newydd PDC, fydd yn agor ym mis Medi 2026.
Dywedodd Catherine Lund, Cyfarwyddwr Caffael PDC: "Rwy'n falch iawn bod y tîm wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau GO Cymru eleni - mae'n gydnabyddiaeth haeddiannol o’r ffordd wych y llwyddon nhw i gyflawni gwaith caffael cymhleth iawn ar ein prosiect cyfalaf pwysig, Calon. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Partner Caffael Laura Perrott am ei harweinyddiaeth o'r prosiect hwn. Mae hon yn enghraifft ragorol o sut mae'r tîm yn arloesi ac yn creu gwerth cymdeithasol mewn ffordd sydd wedi denu sylw’r farchnad drwy fod yn ddigon dewr i wneud pethau'n wahanol."