Cyfleuster STEM newydd yn cyrraedd ei bwynt uchaf
6 Tachwedd, 2025
Mae cynrychiolwyr o Brifysgol De Cymru, BAM Construction ac amryw bartneriaid wedi nodi achlysur cyrraedd carreg filltir bwysig yn y gwaith o adeiladu Calon – adeilad STEM newydd y Brifysgol.
Ymunodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, Anna McMorrin AS, a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, â nhw mewn seremoni gosod y garreg gopa wrth i'r gwaith adeiladu gyrraedd y pwynt uchaf.
Mae'r adeilad, sydd ar Gampws Pontypridd y Brifysgol, wedi'i ddylunio i addysgu'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr, gweithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig, a gwyddonwyr cyfrifiadurol/data.
Bydd yn cynnwys mwy na 40 o fannau addysgu, dysgu ac ymchwil gan gynnwys labordai electroneg a hydroleg, efelychydd hedfan, labordy roboteg, mannau ymchwil diwydiannol, mannau addysgu cydweithredol, hybiau arloesi ar gyfer dysgu seiliedig ar brosiectau, yn ogystal â gallu realiti rhithwir, a mannau arddangos.
Adeiladu'r cyfleuster newydd
Wedi'i ariannu'n rhannol drwy gefnogaeth ychwanegol i brifysgolion a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru y llynedd, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Calon ym mis Medi 2024 a'r bwriad yw y bydd yn agor yn hydref 2026. Mae ffrâm yr adeilad pum llawr, 23 metr o uchder, wedi'i chwblhau ac mae gwaith adeiladu ffasâd allanol yr adeilad ar y gweill.
Mae mwy na 140 o bobl wedi bod yn gweithio ar y prosiect hyd yn hyn, gan gynnwys ar gyfer y cwmni adeiladu BAM ac isgontractwyr arbenigol Thames Valley Construction, Concrete Structures and Floors, Dudleys Aluminium, Central Cladding, Richard Kemble Contracts, Delta Balustrades, ac NG Bailey. Mae tîm dylunio o benseiri Stride Treglown a pheirianwyr Arup, yn ogystal ag ymgynghoriaeth rheoli costau Currie & Brown, a goruchwylwyr ansawdd DRAC, hefyd wedi bod yn gweithio ar y prosiect.
Cynaliadwyedd yn ystyriaeth allweddol
Mae'r adeilad wedi'i ddylunio gyda chynaliadwyedd yn ystyriaeth allweddol i helpu i gyrraedd targedau uchel ar gyfer effeithlonrwydd ynni a lleihau lefelau carbon ymgorfforedig. Mae'n cynnwys llawer o dechnolegau gwyrdd i ddarparu gwresogi, creu trydan, a goleuadau yn effeithlon, yn ogystal â tho gwyrdd bioamrywiol a waliau byw. Fel rhan o'r gwaith adeiladu, defnyddiwyd concrit carbon isel ynghyd â deunyddiau wedi'u hailgylchu, gan gymhwyso egwyddorion dylunio cylchol i leihau carbon ymgorfforedig.
Mae'r dull yn adlewyrchu Strategaeth Sero Net y Brifysgol a'r nod i'r Brifysgol fod yn garbon niwtral erbyn 2040.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin: “Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud twf economaidd yn flaenoriaeth i ni ac mae’n hanfodol bod gennym gyfleusterau arloesol fel Calon ym Mhrifysgol De Cymru i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr ac arloeswyr Cymru.
“Bydd rhoi’r sgiliau cywir i bobl yn helpu i dyfu ein heconomi a’u rhoi ar y llwybr i swyddi da â chyflog da yn niwydiannau’r dyfodol.”
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: "Rwyf wrth fy modd yn nodi'r garreg filltir arwyddocaol hon yn y gwaith o adeiladu Calon, ac mae'n wych bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r datblygiad hwn. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu peirianwyr a gwyddonwyr cyfrifiadurol medrus iawn a fydd yn sbarduno economi Cymru yn y dyfodol.
“Llongyfarchiadau i Brifysgol De Cymru a'u holl bartneriaid ar gyrraedd y cam pwysig hwn ac edrychaf ymlaen at weld Calon yn croesawu ei fyfyrwyr cyntaf."
Dywedodd Rachel Elias-Lee, Prif Swyddog Cyllid a Gweithredu Prifysgol De Cymru: “Mae Calon yn fuddsoddiad sylweddol i’r Brifysgol a’r rhanbarth fydd yn darparu’r amgylchedd dysgu a gweithio gorau, yn ogystal â’r profiad myfyrwyr gorau mewn addysg STEM. Rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn y prosiect wrth i ffrâm yr adeilad gael ei chwblhau, ac rydym bellach yn gweithio tuag at agor yr adeilad yn hydref 2026.
“Mae gweithio gyda BAM, a’n holl bartneriaid adeiladu a dylunio, wedi darparu llawer o gyfleoedd i’n myfyrwyr wrth i’n darpar beirianwyr ac arbenigwyr yr amgylchedd adeiledig gael profiad uniongyrchol o waith adeiladu mawr ar eu campws eu hunain. Unwaith y bydd ar agor, bydd Calon yn parhau i gynnig gofod bywiog, ymarferol a rhyngddisgyblaethol lle bydd myfyrwyr, cydweithwyr a phartneriaid diwydiant yn cydweithio i addysgu, ymchwilio, arloesi a mynd i’r afael â heriau'r dyfodol – rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at hynny.”
Dywedodd Justin Price, Cyfarwyddwr Adeiladu – Gorllewin yn BAM Construction Ltd: “Mae gosod brig ar yr adeilad nodedig hwn yn foment o falchder go iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r daith. O staff PDC a BAM i’r tîm dylunio i’r crefftwyr ar y safle, mae wedi bod yn ymdrech dîm wirioneddol wedi’i hadeiladu ar ymddiriedaeth a chydweithrediad. Nid yw’r prosiect hwn yn ymwneud â choncrit a dur yn unig — mae’n ymwneud â chreu lle y bydd peirianwyr y dyfodol yn dysgu, yn arbrofi, ac yn gwthio ffiniau ynddo. Rydym yn falch o chwarae ein rhan wrth wireddu’r weledigaeth honno.”