Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang | PDC yn Cefnogi Taith Cerddor o Bhutan o fod yn Fyfyriwr i Sefydlu Label Recordiau
21 Tachwedd, 2025
Fel rhan o’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang (17–23 Tachwedd) a’r thema eleni, “Adeiladu Gyda’n Gilydd”, mae Prifysgol De Cymru yn falch o dynnu sylw at gyflawniadau entrepreneuraidd Karma, o Bhutan, sy’n artist hip-hop (enw artistig Datako), cynhyrchydd a sylfaenydd label recordiau annibynnol newydd The Lingpa Entertainment sy’n hyrwyddo talent creadigol sy’n dod i’r amlwg.
Magwyd Karma yn Bhutan ac nid oedd erioed wedi teithio y tu allan i'w wlad enedigol cyn symud i Gaerdydd i astudio MA Ysgrifennu a Chynhyrchu Caneuon yn PDC. Mae'n disgrifio'r newid fel un trawsnewidiol.
“Roedd popeth yn newydd i mi—y wlad, y diwylliant, hyd yn oed cyflymder bywyd,” meddai. “Ond gwnaeth PDC i mi deimlo fel fy mod i'n perthyn yma. Doeddwn i byth yn teimlo ar fy mhen fy hun.”
Mae'n rhoi clod i staff y brifysgol am ei helpu i ymgartrefu'n gyflym:
“Roedd y gefnogaeth yn anghredadwy. Fe wnaeth fy nghynghorydd rhyngwladol fy helpu gyda phethau nad oeddwn i hyd yn oed yn gwybod bod eu hangen nhw arnaf i. Fe wnaeth fy narlithwyr roi o’u hamser i ddeall beth oeddwn i’n ceisio ei gyflawni. Nid dim ond addysgu oedden nhw—roedden nhw’n fy annog i, yn fy ngwthio i ac yn fy nghefnogi i.”
Yn ystod ei radd meistr, dechreuodd Karma archwilio'r syniad o feithrin gyrfa a oedd yn cyfuno creadigrwydd ag entrepreneuriaeth. “Roeddwn i fel petawn i mewn breuddwyd, roedd i bron â phinsio fy hun. Dyma'n union roeddwn i eisiau. Ac o ran profiadau a chynhyrchu, fe wnaeth agor fy llygaid go iawn. Hynny yw, roedd hyn fel darn coll o’r pos, union yr hyn roeddwn i eisiau. A dydw i erioed wedi colli’r un wers.”
Fe wnaeth y modiwl busnes cerddoriaeth roi eglurder iddo ynghylch sut mae'r diwydiant yn gweithio, gan ei gyflwyno i bopeth o sut mae labeli’n gweithredu i freindaliadau a dosbarthu. Roedd darlithoedd gwadd gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, meddai, yn “agor y meddwl”. Sbardunodd hyn y syniad o greu ei label recordiau annibynnol ei hun—platfform a allai ryddhau ei gerddoriaeth a chefnogi artistiaid yn fyd-eang, yn enwedig rhai o ddiwylliannau cerddoriaeth llai fel Bhutan. Ond mae'n cyfaddef bod y syniad yn teimlo'n llethol.
“Artist ydw i. Doeddwn i erioed wedi rhedeg busnes. Roedd y syniad o wneud hynny ar fy mhen fy hun yn frawychus,” meddai. “Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod ble i ddechrau.”
Newidiodd popeth pan ddaeth yn aelod o Stiwdio Sefydlu, canolfan entrepreneuriaeth PDC. Mae'n disgrifio'r cam hwn fel trobwynt. Gwnaeth Karma gymryd rhan yn y gweithdy datblygu busnes 8 wythnos, lle y gwnaeth lunio model busnes.
Fe wnaeth tîm Stiwdio ei helpu i fireinio ei syniad busnes, deall strwythurau cyfreithiol, a chofrestru ei gwmni yn y DU. Fe wnaethon nhw ei gynorthwyo â dogfennau fisa er mwyn mynd ar daith yn Awstralia, esbonio prosesau ariannol iddo, a'i arwain trwy'r camau ymarferol o ddod yn berchennog busnes.
Roedd eu cefnogaeth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i weinyddiaeth. Drwy hyfforddiant personol, gweithdai a siaradwyr gwadd, dysgodd Karma sut i farchnata ei gerddoriaeth, ymdrin â chysylltiadau cyhoeddus, datblygu brand, prisio nwyddau, a chyflwyno cynnyrch i'r radio a'r cyfryngau.
“Fe wnaeth y sesiynau hyfforddi newid y ffordd rwy’n meddwl,” meddai. “Fe wnaethon nhw fy nysgu bod bod yn artist hefyd yn golygu bod yn arweinydd, yn gynlluniwr, yn berson busnes.”
Fe wnaeth Stiwdio Sefydlu hefyd ei roi mewn cyswllt â rhwydweithiau a wnaeth ei helpu i gael mwy o hyder.
“Dyma nhw’n fy nghyflwyno i bobl na wnes i byth ddychmygu y gallwn i siarad â nhw—cynhyrchwyr, rheolwyr, hyrwyddwyr. Roedd y sylw yna’n enfawr i mi,” meddai. “Fe wnaeth i bopeth deimlo’n real.”
Gyda'r gefnogaeth hon, aeth Karma ati i lansio ei label. Fe wnaeth y gred gynyddol ynddo fe ei hun baratoi'r ffordd ar gyfer carreg filltir ryfeddol: ei daith ryngwladol gyntaf yn Awstralia, lle y gwnaeth hefyd lansio ei gasgliad cyntaf o nwyddau brand.
“Roedd gwerthu fy nwyddau am y tro cyntaf yn brofiad emosiynol,” meddai. “Rwy'n cofio dal y crys-T cyntaf a meddwl, 'Fi wnaeth adeiladu hyn. Fy mheth i yw hyn.’”
Meddai hefyd: “Fe wnaeth y foment honno ddweud wrtha’ i fy mod i ar y llwybr cywir. Roedd popeth wnes i ei ddysgu yn PDC yn talu ar ei ganfed.”
Gan edrych ymlaen, mae gan Karma gynlluniau uchelgeisiol i ehangu ei label a chefnogi artistiaid ledled y byd.
“Rwy eisiau adeiladu teulu creadigol byd-eang,” meddai. “Rhywle y gall artistiaid dyfu, cydweithio a theimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi—yn union fel y gwnes i deimlo yn PDC.”
Mae'n myfyrio ar ei daith yn llawn diolchgarwch: “Nid fy helpu i ddechrau busnes yn unig y gwnaeth PDC a Stiwdio Sefydlu,” meddai. “Fe wnaethon nhw fy helpu i ddarganfod pwy allwn i fod.”