Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang | Cefnogi iechyd meddwl drwy therapi pobi
19 Tachwedd, 2025
Thema’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang eleni, sy'n rhedeg rhwng 17 a 23 Tachwedd, yw 'Adeiladwn Gyda'n Gilydd', felly dyma dynnu sylw at sut mae PDC wedi cefnogi perchnogion busnes newydd i lwyddo.
Julie-Anne Baker, a raddiodd yn ddiweddar o PDC, yw sylfaenydd Bake Well Therapy, sy'n cynnig grwpiau cwnsela a phobi therapiwtig fel math o gymorth iechyd meddwl sydd ar gael i blant, pobl ifanc ac unigolion niwrowahanol.
Gydag angerdd gydol oes am iechyd meddwl ac eiriolaeth anabledd, creodd Julie-Anne ei busnes ar sail ei hadferiad iechyd meddwl ei hun fel person awtistig a gofalwr ifanc.
Mae cael y profiadau hyn wedi ei helpu i nodi bwlch mewn gwasanaethau iechyd meddwl a siapio ei dull cwnsela, sydd wedi'i wreiddio mewn cydymdeimlad, hygyrchedd a chynhwysiant.
Wrth astudio BA (Anrh) Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig, cafodd Julie-Anne ei hannog gan ei darlithwyr a'i hysbrydoli gan gyn-fyfyrwyr i ddechrau ymchwilio i fodel ymarfer preifat i fapio ei syniad busnes cyn cysylltu â thîm Menter PDC.
Dywedodd hi: "Ces i lawer o gymorth gwych gan y tîm Menter. Ces i sesiwn fentora un-i-un ar gam cynnar, a byddwn i’n argymell hyn yn fawr i unrhyw un sy'n ystyried dechrau busnes. Yna cymerais ran mewn cwrs gweithwyr llawrydd rhagarweiniol a roddodd drosolwg defnyddiol i mi ynghyd â'm cyfle cyntaf i gyflwyno syniad, gwneud cais am grant a dechrau rhwydweithio."
Ers hynny mae Julie-Anne wedi ymuno â'r Stiwdio Sefydlu yng Nghasnewydd ac mae'n dal i dderbyn cefnogaeth fel un o raddedigion PDC.
Am gymorth gyda chychwyn busnes neu waith llawrydd cysylltwch â [email protected]