Yr Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang: Dathlu Mentro Greadigol yn PDC
18 Tachwedd, 2025
Wrth i ni nodi’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang (17–23 Tachwedd), mae thema eleni - "Adeiladu Gyda’n Gilydd" - yn pwysleisio pŵer cydweithredu a chymuned wrth ddatblygu syniadau newydd. Mae lansio Siop y Stiwdio Sefydlu, gofod manwerthu creadigol newydd sbon yn Undeb y Myfyrwyr ar Gampws Trefforest, yn enghraifft wych o'r gefnogaeth hon.
Mae'r ychwanegiad bywiog hwn at fywyd y campws yn cynnig amgylchedd pwrpasol i brofi’r fasnach ar gyfer artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr sy'n dod i amlygrwydd drwy fod yn rhan o gymuned Stiwdio Sefydlu’r Brifysgol.
Cyn-fyfyrwyr PDC a’r Stiwdio, ynghyd â chyn-gydweithwyr sydd wedi bod yn rhan o raglenni mentora’r Stiwdio, sy’n gofalu am y siop a’i nwyddau. Mae ynddi amrywiaeth ddethol o gynhyrchion wedi'u gwneud â llaw ac wedi'u hailgylchu, y cyfan wedi’u creu gydag ymrwymiad cryf at gynaliadwyedd a chyrchu moesegol.
Cwrdd â'r Gwneuthurwyr
Mae Siop y Stiwdio Sefydlu’n arddangos gwaith gan dri chrëwr talentog ar hyn o bryd:
- Serendipity Silver – modrwyau a mwclis wedi'u gwneud â llaw o arian wedi’i ailgylchu a gemau lled-werthfawr o ffynonellau moesegol.
- Eve G Design – dillad wedi'u hailgylchu, wedi'u brodio a'u printio, gyda stori i'w hadrodd, ynghyd â chasgliad wedi'i guradu o ddarnau vintage.
- Bombus Remade - ategolion ffasiwn, bagiau a chasys gliniaduron wedi'u creu o weddillion tecstilau.
Oriau agor:
Dydd Llun: 10am–3pm
Dydd Mawrth: 11am–3pm
Dydd Gwener: 10am–3pm
Mae tîm y Stiwdio yn bwriadu croesawu gwneuthurwyr ychwanegol gydag amser. Mewn ysbryd cwbl gydweithredol, mae'r rhai a greodd y gwaith hefyd yn helpu i redeg y siop. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer gweithdai newydd, gan gynnwys sesiynau trwsio dillad a chreu gemwaith, fydd yn cynnig cyfleoedd gwych i fyfyrwyr a'r gymuned leol gymryd rhan.
Dyma'r fenter arloesol ddiweddaraf gan y deorydd busnesau graddedigion a gafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Addysg Uwch y Times, sydd â helpu aelodau i droi eu syniadau yn fusnesau cynaliadwy yn nod iddo.
Dywedodd Richie Turner, Rheolwr y Stiwdio Sefydlu:
"Rydyn ni wastad wedi defnyddio ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau i'n haelodau i'w helpu i ddechrau eu busnesau newydd. Er enghraifft, rydyn ni’n darparu offer clyweledol o ansawdd uchel i'w llogi am ddim o’n Stiwdio yng Nghaerdydd ac ystafell Gwnsela bwrpasol yn Nhrefforest i'w defnyddio gan entrepreneuriaid yn y sector therapi. Mae creu ein siop gyntaf i brofi’r farchnad wastad wedi bod yn uchelgais gennym, felly pan ddaeth cyfle i ffurfio partneriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr, roeddwn i wrth fy modd. Dyma ofyn i staff Trefforest alw heibio i’r siop i gefnogi’r fenter newydd hon – a bachu ar ambell anrheg ben-blwydd neu Nadolig wych hefyd!"
Dywedodd Mark Cadwallader, Prif Weithredwr Undeb y Myfyrwyr:
"Mae UMPDC yn falch iawn o gynnig cefnogaeth i fyfyrwyr entrepreneuraidd a graddedigion drwy ddarparu mannau hygyrch i ddatblygu busnesau llwyddiannus o fewn y gymuned fyfyrwyr. Gan weithio gyda’r Stiwdio Sefydlu, rydyn ni wedi creu gofod manwerthu pwrpasol yn ein hadeilad yn Nhrefforest sy'n ychwanegiad gwych i gyfleusterau manwerthu'r Undeb ac er budd i’n myfyrwyr, i gydweithwyr ac i’n partneriaid."
Mae’n digwydd ar adeg pan fo Undeb y Myfyrwyr yn cael ei ailwampio, gyda mannau bwyd a chymdeithasol modern newydd, a chlwb nos Eclipse yn ailagor ar ei newydd wedd.